Cartrefi Caerffili - Datganiad o drefniadau ymgynghori

Adran 234 a 235 deddf rhentu cartrefi (cymru) 2016

Mae’n rhaid i ni (Cartrefi Caerffili) ymgynghori â chi (fel deiliad contract) ynghylch materion rheoli tai penodol - dyna’r gyfraith. Mae hyn oherwydd bod Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (adran 234) yn nodi’r rhwymedigaethau cyfreithiol mae’n rhaid i ni fel landlord cymunedol eu dilyn wrth ymgynghori â chi ynghylch newidiadau arfaethedig i faterion rheoli tai.

Rhaid i ni ymgynghori pan fydd pob deiliad contract, neu grŵp perthnasol o ddeiliaid contract, yn debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan newidiadau arfaethedig i fater rheoli tai perthnasol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n “faterion perthnasol” a bydden nhw’n cynnwys y canlynol:

  • rhaglenni cynnal a chadw newydd, gwella, neu ddymchwel; neu
    newidiadau i’r arfer neu’r polisi o ran rheoli, cynnal a chadw, gwella neu ddymchwel;

Rhaid i ni hefyd roi cyfle rhesymol i chi wneud sylwadau ar y materion perthnasol. Mae’r gyfraith hefyd yn nodi bod yn rhaid i ni ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud gennych chi cyn gwneud ein penderfyniad terfynol.

Rydyn ni’n cyhoeddi’r Trefniadau Ymgynghori hyn yn unol â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (adran 235). Mae’r trefniadau’n nodi sut y byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am unrhyw faterion perthnasol a sut y gallwch chi fynegi eich barn i ni.

Mae copi o’r datganiad hwn ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac mae modd ei weld hefyd yn Cartrefi Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG, rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30am a 4.30pm ddydd Gwener. Gallwch chi hefyd ofyn am gopi drwy ffonio 01443 873535 neu drwy anfon e-bost at TimTaiCBSC@caerffili.gov.uk.

Math o ymgynghoriad:

Yn ogystal ag ymgynghori â chi yn unol â’r gyfraith (fel uchod), efallai y byddwn ni hefyd am gasglu eich barn ar amrywiaeth eang o faterion tai er mwyn gwella ein gwasanaethau i chi. Nid yw’r ymgynghoriadau hyn yn cael eu llywodraethu gan y gyfraith ond maen nhw’n cael eu cynnal fel rhan o’n hymrwymiad ni i wella ein gwasanaethau.

Sut byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am yr ymgynghoriad:

Mae Cartrefi Caerffili wedi ymrwymo i sicrhau’r canlynol:

  • Bod gwybodaeth ar gael am yr ymgynghoriad.
  • Eich bod chi (fel deiliad contract) yn ymwybodol o bwrpas yr ymgynghoriad
  • Eich bod chi (fel deiliad contract) yn gwybod sut y gallwch chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
  • Lle bo’n briodol, yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwn ni’n darparu gwybodaeth am ganlyniad cynnig ac yn egluro sut rydyn ni wedi defnyddio’r canlyniadau i lywio ein penderfyniad.
  • Lle bo’n berthnasol, byddwn ni’n cynnwys goblygiadau ariannol.

Byddwn ni’n cyfathrebu â chi ar ddechrau’r ymgynghoriad gan nodi’r trefniadau a sut y gallwch chi ymateb. Efallai y bydd gwybodaeth am yr ymgynghoriad yn cael ei chynnwys yn ein cylchlythyrau ac ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Efallai y byddwn ni’n ystyried a ddylai sefydliadau cymorth hefyd gael gwybodaeth am yr ymgynghoriad.

Sut gallwch chi fynegi eich barn:

Bydd pob ymgynghoriad yn cael ei deilwra ac efallai y bydd trefniadau gwahanol ar waith i chi (y deiliaid contract) leisio eich barn. Gall y rhain gynnwys:

  • arolygon ar-lein
  • grwpiau ffocws
  • e-bost
  • ffôn
  • ysgrifennu
  • sesiynau wyneb yn wyneb

Os oes rhywun yn rhoi cymorth i chi, efallai y byddwch chi am ofyn iddyn nhw eich helpu i rannu eich barn gyda ni. Rhowch wybod i ni hefyd os oes angen unrhyw drefniadau eraill arn- och chi i’w gwneud yn haws i chi fynegi eich barn i ni.

Pa mor hir fydd gennych chi i ymateb i’r ymgynghoriad:

Bydd hyn yn dibynnu ar y cynnig sy’n cael ei ystyried. Byddwn ni’n darparu amserlen resymol ar gyfer unrhyw ymgynghoriad, a fydd yn debygol o fod yn 4 wythnos o leiaf. Bydd yr amserlen yn dibynnu ar yr hyn rydyn ni’n ymgynghori arno a bydd yn cael ei egluro i chi ar ddechrau’r ymgynghoriad.

Sut rydyn ni’n penderfynu a oes angen ymgynghoriad:

Er mwyn ein helpu i benderfynu a ddylen ni ystyried cynnig newid i fater perthnasol, efallai y byddwn ni’n gofyn am eich barn ar bwnc penodol. Ni fyddai hyn yn rhan o’r broses ymgynghori sy’n cael ei disgrifio uchod.

Os byddwn ni, ar ôl gofyn am eich barn, yn penderfynu cyflwyno cynnig i newid mater tai perthnasol a fydd yn effeithio ar bawb, neu grŵp perthnasol o ddeiliaid contract, byddwn ni’n ymgynghori yn unol â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Sut i gysylltu â ni:

  • Cartrefi Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG 
  • Rhif ffôn: 01443 873535
  • E-bost: TimTaiCBSC@caerffili.gov.uk