Gostyngiad band anabledd
Gallai eich bil gael ei ostwng os oes gan eich cartref nodweddion penodol sy’n hanfodol neu o bwysigrwydd mawr i les person ag anabledd, (p'un ai'n oedolyn neu'n blentyn), sy'n byw yn yr annedd.
Pwy all wneud cais?
Rhaid i’ch cartref gael o leiaf un o’r nodweddion isod, a rhaid iddo fod yn hanfodol neu o bwysigrwydd mawr i les y person anabl:
-
ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol i ddiwallu anghenion y person anabl
-
Ystafell ychwanegol heb fod yn ystafell ymolchi, cegin neu dŷ bach, a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl ac sydd ei hangen i ddiwallu ei anghenion ychwanegol
-
Digon o le y tu mewn i'r person ddefnyddio cadair olwyn, rhaid bod angen y gadair olwyn i fyw o ddydd i ddydd, a hynny y tu mewn.
Rhaid i’r ystafell neu le ychwanegol ar gyfer cadair olwyn fod yn hanfodol, neu o bwysigrwydd mawr i les y person anabl. Mae hyn yn golygu y byddai’r person anabl, heb yr ystafell neu'r lle hwn:
-
Yn ei chael hi’n amhosibl neu’n anodd iawn byw yn yr annedd
-
Byddai ei iechyd yn dioddef
-
Byddai’r anabledd yn debygol o fynd yn fwy difrifol.
Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gais ganlynol.
Ffurflen gais ar-lein gostyngiad person anabl (PDF 126kb)
Faint yw’r gostyngiad?
Mae eich cartref yn gymwys, bydd eich bil yn cael ei ostwng i’r un band ag eiddo yn y band prisio un lefel dan y band a nodir ar y rhestr brisio Er enghraifft, os yw eich cartref ym mand D, caiff eich bil ei ostwng i’r un lefel ag annedd band C Nid yw hyn yn effeithio ar werth eich cartref na’i safle ar y rhestr brisio.