Urddas Mislif

Mae Caerffili, trwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i gynorthwyo teuluoedd a phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i gael mynediad at nwyddau mislif am ddim.  

“Mae'r mislif yn naturiol. Nid yw'n ddewis. Rydym i gyd yn ei gael, wedi’i gael, neu'n adnabod pobl sydd neu wedi’i gael.  Dydy'r mislif ddim yn 'fater i fenywod' yn unig, nac yn beth budr, ac yn bendant nid yw’n rhywbeth i gywilyddio yn ei gylch. Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd mislif. Dylai fod gan bawb fynediad at nwyddau mislif, yn ôl yr angen, i’w defnyddio mewn man preifat sy’n ddiogel ac yn urddasol.” (Llywodraeth Cymru)

Balch o’r Mislif

Pwy sy'n gallu cael mynediad at y nwyddau?

Mae cymorth ar gael i bawb sy'n cael mislif ac yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili neu'n mynychu ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.   Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ardal ledled y Fwrdeistref Sirol yn gallu eich cynorthwyo chi a darparu nwyddau am ddim i chi.

Ble alla i gael nwyddau?

Mae gan ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol nwyddau i'w dosbarthu i'r rhai sydd eu hangen nhw yn yr ysgol. Gallwch chi hefyd gasglu eich nwyddau mislif am ddim o dros 90 o leoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol.  Mae rhestr lawn o'r lleoliadau yma.

Pa nwyddau sydd ar gael?

Mae amrywiaeth o nwyddau ailddefnyddiadwy a rhai tafladwy ar gael, i ddiwallu anghenion pawb – tamponau, cwpanau mislif, nicers mislif a phadiau. Nod y grantiau yw cyfyngu ar yr effaith amgylcheddol, felly, mae ein holl nwyddau yn rhai ailddefnyddiadwy a/neu heb blastig.

Ysgolion / Cymunedau / Elusen / Sefydliadau Nid-er-elw

Os ydych chi'n Ysgol / Sefydliad Nid-er-elw / Elusen, wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac fe hoffech chi gael nwyddau am ddim ar gyfer defnyddwyr eich gwasanaeth, yna cysylltwch â ni trwy e-bost Rowler@caerffili.gov.uk neu ffonio 07955 433254.

Rhagor o wybodaeth

Cymru sy’n falch o’r mislif

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif - Period Proud Wales Action Plan.

Mislif Fi

Ymunwch â Mislif Fi Hafan: Bloody Brilliant (mislif-fi.cymru) sy'n benderfynol o rymuso merched a phobl ifanc sy'n cael mislif ynghyd â'r rheini sydd o'u cwmpas i fod yn falch o'u mislif, gan dorri'r tabŵ a normaleiddio'r mislif. 

Gallwch chi ddysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am boen mislif, nwyddau mislif a, hyd yn oed, bwyd yn ystod y mislif! 

Adnoddau ynghylch y mislif a nwyddau mislif

Yn bennaf ar gyfer ysgolion uwchradd, ond gall hefyd fod o ddefnydd i grwpiau cymunedol, mae'r adnoddau'n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • Dewisiadau amgen cynaliadwy i nwyddau mislif defnydd untro
  • Yr effaith y gall y nwyddau hyn eu cael ar yr amgylchedd
Chwalu mythau – mislif!