Cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol
Magu plant – Stopio cosbi corfforol
Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
Mae pob math o gosb gorfforol i blant yn anghyfreithlon yng Nghymru, gan gynnwys gan rieni ac unrhyw un sydd â rôl rhiant/rhoi gofal mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.
Os bydd yr heddlu (ar ôl ystyried y profion tystiolaeth a budd y cyhoedd) ynpenderfynu cymryd camau pellach yn erbyn rhiant sydd wedi cosbi ei blentyn yn gorfforol, gallen nhw gynnig datrysiad y tu allan i’r llys.
Un o amodau’r datrysiad y tu allan i’r llys fyddai cymryd rhan mewn cymorth magu plant sy'n bwriadu datblygu arferion magu plant anhreisgar, cadarnhaol.
Sut alla i gael cymorth?
Os yw ymddygiad eich plentyn/plant yn gwaethygu, ac rydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa ar gymorth gan ein Hymarferydd Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys, ffoniwch Wasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Caerffili ar 0808 100 1727.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n 'Padlet' magu plant Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys.
Gwasanaethau cysylltiedig y Cyngor sy'n cynnig cymorth
Gwefannau defnyddiol sy'n cynnig cymorth
Cysylltwch â ni
- Ffôn: 01495 233290
- Cyfeiriad – Tŷ Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF