Fframwaith Asesu'r Teulu Ar Y Cyd (Jaff)
Os ydych chi'n deulu ac yn dymuno cael cymorth gan Teuluoedd yn Gyntaf, nid oes angen i chi lenwi ffurflen atgyfeirio. Ewch i'n hadran Sut alla i gael cymorth am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth i weithwyr proffesiynol ar gyfer atgyfeirio
I atgyfeirio at ein Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf, rhaid i weithwyr proffesiynol ddefnyddio ein Ffurflen Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd (JAFF).
Mae JAFF yn asesiad sy’n canolbwyntio ar y teulu i helpu nodi eu hanghenion. Gall prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf helpu cynorthwyo'r teulu i gyrraedd eu nodau.
Dilynwch y PADLET Arweiniad JAFF neu gysylltu â'n Cydlynydd JAFF am ragor o arweiniad/gwybodaeth PriceK5@caerffili.gov.uk neu, fel arall, TeuluoeddYnGyntaf@caerffili.gov.uk.
Rhaid i deuluoedd gydsynio i weithio gyda Teuluoedd yn Gyntaf a darllen yr hysbysiad preifatrwydd (PDF). Mae gennym ni hefyd fersiwn hawdd ei darllen o'r hysbysiad preifatrwydd (PDF).
Bydd y JAFF yn cael ei anfon at ein tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Bydd JAFF y teulu yn cael ei ddarllen a'i anfon at y prosiect/gwasanaeth mwyaf priodol.
Mae'r ffurflen ar gael isod. Cwblhewch yn electronig a'i ddychwelyd trwy e-bost i CysylltuAcAtgyfeirio@caerffili.gov.uk.
Ffurflen Atgyfeirio Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) (WORD)
Cydlynydd JAFF: PriceK5@caerffili.gov.uk neu, fel arall, TeuluoeddYnGyntaf@caerffili.gov.uk.
Noder: Er mwyn i'r JAFF gael ei brosesu, rhaid cael caniatâd llafar neu drwy lofnod. Rhaid i chi anfon ffurflen y JAFF i'r tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth mewn fformat Word (nid PDF) gyda'r JAFF i gynnwys caniatâd yr unigolyn/teulu drwy lofnod.
Rhagor o wybodaeth
Os nad ydych chi'n siŵr pa gymorth sydd fwyaf addas ar gyfer y teulu, ffoniwch y tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, y cydlynydd JAFF neu ewch i wefan Teuluoedd yn Gyntaf.