Cymorth i rieni

Fforwm Cymunedol

Mae'r fforwm cymunedol yn rhoi cyfle i unigolion gwrdd ag eraill yn eu cymuned leol. Maen nhw'n cynnal cyfarfodydd cymorth grŵp wythnosol. Yn y cyfarfodydd hyn, gall pobl ddysgu sgiliau newydd a chael profiad gwirfoddoli.

Mae amrywiaeth o weithgareddau yn diwallu anghenion y grŵp. Gall gweithgareddau gynnwys lles, cymorth TG, dosbarthiadau coginio a gwnïo, a gweithdai crefft. Maen nhw hefyd yn trefnu gweithgareddau awyr agored, a chymwysterau a sgiliau ar gyfer cyflogaeth.

Maen nhw hefyd yn annog pobl i gyfrannu at drafodaethau ac ymgynghoriadau am faterion lleol. Maen nhw'n cynorthwyo pobl i leisio'u barn ar bethau a allai effeithio ar eu bywydau.

Bydd unigolion hefyd yn cael cyfle i gofrestru a hyfforddi fel Hyrwyddwr Cymunedol, Rhieni, Iaith neu Les. Mae hyrwyddwyr yn cynorthwyo teuluoedd yn eu cymuned leol gan helpu i'w cyfeirio nhw at wasanaethau lleol.

Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach

Mae Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach yn darparu cymorth rhianta wedi’i dargedu ar gyfer teuluoedd â phlant 8 i 17 oed. Mae'r gwasanaeth Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i greu cynllun cymorth sy’n diwallu anghenion y teulu.

Mae dull sy'n dechrau gyda chryfderau'r teulu yn helpu meithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol, parchus. Mae ymarferwyr Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach yn dangos i rieni sut i wella eu sgiliau magu plant. Mae hyn yn helpu gyda datblygiad, gofal a lles eu plant. Mae Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach yn cynnig pecynnau cymorth i ddiwallu amrywiaeth o anghenion.

Mae hyn yn cynnwys rheoli ymddygiad, arferion a ffiniau. Bydd teuluoedd yn cael sesiynau unigol cychwynnol yn y cartref neu ar-lein. Yna, mae rhieni'n gallu symud ymlaen i fynychu rhaglenni grŵp. Mae'r rhain yn digwydd yn y gymuned neu ar-lein. Os oes angen, bydd cymorth pellach wedi'i deilwra i'r unigolyn yn cael ei gynnig. (Cyfeiriwch at wasanaethau cymorth y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant 0 i 7 oed).

Dewch i drafod arian

Mae 'Dewch i drafod arian' yn darparu cyngor ar ddyled, budd-daliadau lles a gallu ariannol. Mae'r cyngor yn arbenigol a rheoledig.  Maen nhw'n cynorthwyo cleientiaid i drafod gyda chredydwyr.

Maen nhw'n darparu cyngor ar bob datrysiad dyled gan gynnwys gorchmynion rhyddhau o ddyled a methdaliad.

Mae’r prosiect yn helpu teuluoedd i wneud y mwyaf o'u hincwm. Mae teuluoedd yn dysgu sut i reoli eu harian yn well. Gall hyn helpu i atal digartrefedd.

Eiriolaeth rhieni

Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol, annibynnol i rieni. Mae'n helpu rhieni i gael llais. Mae’r prosiect yn gweithio ar sail 1:1.

Gall y gwasanaeth helpu rhieni i ddatrys amrywiaeth o faterion. Gall hyn gynnwys gwneud newidiadau, ymgysylltu â gwasanaethau cymorth a llywio systemau.