Cymorth I deuluoedd

Diogelwch Teulu sy'n dioddef Cam-drin Domestig

Mae’r prosiect hwn yn cynnig sesiynau unigol sy’n darparu gwaith, cymorth, ac arweiniad diogelwch ar unwaith. Mae hyn yn galluogi teuluoedd wedi'u heffeithio gan gam-drin domestig i aros yn eu cartref.

Mae'r prosiect hwn hefyd yn darparu sesiynau grŵp i rieni. Mae’r sesiynau hyn yn dangos yr effaith mae cam-drin domestig yn ei chael ar eu plant.

Mae'r sesiynau hyn yn helpu rhieni i adeiladu'r sgiliau sydd eu hangen i gadw eu teuluoedd yn ddiogel rhag camdriniaeth yn y dyfodol.

Platfform i deuluoedd – prosiect lles

Mae’r prosiect hwn yn gweithio gydag unigolion neu’r teulu cyfan sydd ag anghenion iechyd meddwl neu les lefel isel. Gall hyn gynnwys rhieni, gofalwyr, pobl ifanc a phlant.

Bydd y cymorth yn dechrau gyda sesiynau unigol. Mae hyn yn symud ymlaen i sesiynau grŵp neu sesiynau unigol pellach lle bo angen. Mae’r gwasanaeth yn cynnig lle diogel i deuluoedd gwrdd, sgwrsio a chael cymorth ar gyfer eu lles. Gall teuluoedd rannu profiadau ag eraill sy’n wynebu heriau tebyg.

Mae'r sesiynau hyn yn helpu teuluoedd i ail-gysylltu er mwyn adeiladu gwytnwch a rhwydwaith o gymorth. Mae’r prosiect yn helpu teuluoedd i archwilio eu hanghenion, eu disgwyliadau a dod o hyd i strategaethau defnyddiol i wella'u lles. Maen nhw'n cael gwybod sut i gynorthwyo eraill yn y teulu a allai fod yn cael trafferth.

Ymgysylltu â Phobl Ifanc a Theuluoedd Targedig

Mae Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn darparu cymorth i blant 8 oed neu hŷn. Y nod yw datblygu eu sgiliau sy'n eu helpu nhw i ddod yn fwy hyderus. Maen nhw hefyd yn cael cymorth i feithrin hunan-barch a gwytnwch.

Mae Ymgysylltu â Theuluoedd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r gweithgareddau'n helpu gwella'r perthnasoedd o fewn y teulu.

Mae Ymgysylltu â Phobl Ifanc ac Ymgysylltu â Theuluoedd yn darparu sesiynau unigol a sesiynau grŵp gyda rhieni, plant a phobl ifanc.

Mae Anturiaethau Caerffili yn darparu sesiynau awyr agored i ennyn diddordeb plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Gall Rhieni Ifanc fynychu sesiynau grŵp yn y gymuned. Mae'r grwpiau'n eu cynorthwyo nhw i oresgyn rhwystrau a mynd i’r afael ag unrhyw heriau sy’n eu hwynebu. Mae hyn yn eu helpu nhw i dyfu a datblygu fel pobl ifanc a rhieni.