Plant a phobl ifanc
Parch Ieuenctid
Mae Parch Ieuenctid yn brosiect ar gyfer plant dros 10 oed. Bydd y plant hyn yn dangos ymddygiad heriol iawn yn eu teuluoedd a’u perthnasoedd. Gall hyn gynnwys ymddygiad camdriniol, ymosodol a rheolaethol.
Dim ond Cefnogi Newidiadau Teulu a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid sy'n gallu gwneud atgyfeiriad at y gwasanaeth hwn.
Cam-drin domestig – Cymorth i blant a phobl ifanc
Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig. Maen nhw'n cynnig sesiynau unigol a sesiynau grŵp. Maen nhw'n cynorthwyo pobl ifanc er mwyn iddyn nhw archwilio a rhannu eu profiadau a'u teimladau.
Efallai bydd y sesiynau unigol yn digwydd yn y cartref, yr ysgol, neu leoliad dewisol arall.
Mae'r sesiynau grŵp yn cynnwys gweithgareddau â ffocws sy'n dod â phlant a phobl ifanc at ei gilydd. Mae grwpiau'n addas i wahanol oedrannau.
Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc
Mae hwn yn wasanaeth eiriolaeth cyfrinachol, annibynnol sy'n seiliedig ar faterion. Mae'n cynorthwyo plant a phobl ifanc trwy eu helpu nhw i leisio’u barn.
Mae’r prosiect y gweithio ar sail 1:1 er mwyn galluogi plentyn neu berson ifanc i leisio eu barn, dymuniadau a theimladau. Gall hyn eu helpu i stopio, dechrau neu newid rhywbeth.
Gofalwyr Ifanc
Mae'r prosiect hwn yn dod â gofalwyr ifanc ledled Caerffili at ei gilydd. Mae pobl ifanc yn cwrdd mewn sesiynau grŵp rheolaidd.
Mae'r sesiynau yn galluogi pobl ifanc i rannu ac archwilio eu profiadau. Mae hyn yn eu helpu i deimlo bod cymorth ar gael iddyn nhw a chael seibiant o'r rôl ofalu.
Mae’r prosiect yn cynnig cymorth lles, sesiynau gwybodaeth a gweithgareddau llawn hwyl.
Manylion cyswllt MYND
Mae MYND yn brosiect atal ar gyfer plant rhwng 8 a 17 oed sy'n byw ym Mlaenau Gwent a Chaerffili sydd mewn perygl o ymddygiad gwrthgymdeithasol a/neu droseddu.
Bydd pob plentyn yn gweithio'n agos gydag aelod o dîm MYND am 3 i 6 mis. Mae'r ymyriad yn wirfoddol.
Gall staff o unrhyw wasanaeth/asiantaeth atgyfeirio plentyn os oes arwyddion bod y plentyn yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu y gallai gymryd rhan mewn troseddu.