Grantiau Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
Mae’r cais grant Diwrnod Chwarae Cenedlaethol bellach wedi cau
Mae Chwarae Caerffili eisiau eich helpu chi i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol eleni trwy wneud cais am grant hyd at £250.
Bydd grantiau bach yn cael eu blaenoriaethu i'r canlynol:
- Grwpiau/lleoliadau sy'n darparu cyfleoedd chwarae o ansawdd i blant rhwng 4 a 12 oed yn benodol
- Grwpiau/lleoliadau sy'n cynnig cyfleoedd i blant gymdeithasu, cael hwyl, bod yn actif neu ddysgu rhywbeth newydd
- Gweithgareddau sy'n cynnig byrbrydau a diodydd iach fel rhan o'r digwyddiad
- Grwpiau/lleoliadau sy'n gweithredu ar hyn o bryd ar sail nid-er-elw
- Grwpiau/lleoliadau sydd â staff wedi'u hyfforddi mewn gwaith chwarae
Pwy sydd â'r hawl i wneud cais?
Mae'r grant ar gyfer gwarchodwyr plant, darparwyr yn y sectorau preifat a gwirfoddol, a lleoliadau nas cynhelir sy'n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau gofal plant y tu allan i’r ysgol ac ati.
Sut i wneud cais?
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Becki Miller – Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ar chwarae@caerffili.gov.uk neu 07720 103858.