Trosi partneriaeth sifil i briodas
Deddf Priodi (Cyplau Un Rhyw) 2013: Trosi partneriaeth sifil i briodas
Cafodd y darpariaethau ar gyfer cyplau i drosi eu partneriaeth sifil i briodas eu gweithredu ar 10 Rhagfyr 2014.
Gall cyplau ddewis sut a lle y maent am drosi eu partneriaeth sifil i briodas. Does dim rhaid iddo gael ei wneud yn yr un ardal neu’r un lleoliad a lle gafodd y bartneriaeth sifil ei gynnal.
Mae’r gweithdrefnau safonol yn caniatáu cyplau i drosi eu partneriaeth sifil i briodas mewn swyddfa gofrestru.
Yn ogystal, gall proses estynedig lle bydd llofnodi'r datganiad i drosi partneriaeth sifil i briodas ddigwydd yn yr amrywiaeth o leoliadau lle y gall priodas o gyplau un rhyw gael ei weinyddu.
Mae'r broses estynedig yn caniatáu i’r cyplau hynny sy'n dymuno dilyn trosiad i briodas gyda seremoni anstatudol i lofnodi'r datganiad yn yr un lleoliad a lle cafodd y seremoni ei gynnal. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd cwblhad ac arwyddo’r datganiad yn cael ei rhannu mewn i ddau gam:
-
Cam 1: Darparu'r wybodaeth ar gyfer y datganiad - Cwblhau'r datganiad a gwirio tystiolaeth o enw, dyddiad geni, cyfeiriad a'r bartneriaeth sifil. Gall hyn gael ei gynnal mewn swyddfa gofrestru neu fan gwasanaeth cofrestru lleol
-
Cam 2: Cwblhau trosiad i briodas - Llofnodi'r datganiad gan y partïon a'r cofrestrydd arolygol.
Ble gall y seremoni gael ei gynnal?
Gall hyn gael ei gynnal mewn:
-
Eiddo cymeradwy
-
Adeiladau crefyddol sydd wedi eu cofrestru ar gyfer priodas cyplau un rhyw, lle bydd bendith grefyddol neu seremoni o dan Adran 46 o'r Ddeddf Priodasau 1949 yn dilyn y trosiad i briodas ar unwaith. (Mae hyn yn cynnwys capeli llynges, y fyddin a'r awyrlu)
-
Man lle gall seremoni yn ôl y ffydd Iddewig neu Gymdeithas y Cyfeillion o dan Adran 46 o'r Ddeddf Priodasau 1949 yw dilyn y trosiad i briodas ar unwaith
Bydd yn ofynnol i gofrestrydd arolygol (neu ddirprwy) fod yn bresennol ym mhob -trosiad i briodas, gan gynnwys y rheini ar safleoedd crefyddol.
Ffioedd a thaliadau
Mae'r ffioedd ar gyfer cyplau i drosi eu partneriaeth sifil i briodas o dan y gwahanol weithdrefnau ar gael ar ein hadran ffioedd trosi partneriaeth sifil i briodas.
Priodasau a phartneriaethau sifil yng Nghymru a Lloegr
Tabl sy'n nodi’r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng partneriaethau sifil a phriodasau fel sy'n berthnasol i gyplau o'r un rhyw neu o rywiau gwahanol.