News Centre

Dull Byw Hamdden yn dathlu aelodau hirdymor fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol

Postiwyd ar : 26 Medi 2024

Dull Byw Hamdden yn dathlu aelodau hirdymor fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol
Fe wnaeth Dull Byw Hamdden gydnabod ymroddiad ei aelodau hirdymor fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol a gafodd eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerffili. Yn ystod seremoni arbennig, cafodd aelodau sydd wedi talu am aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol am dros 10 mlynedd yn olynol eu hanrhydeddu am eu hymrwymiad i gadw'n heini ac iach gyda Dull Byw Hamdden.
 
Yn ogystal â'r gydnabyddiaeth hon, nododd Dull Byw Hamdden Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol drwy ddarparu mynediad am ddim i byllau nofio ac ystafelloedd ffitrwydd ym mhob un o'i ganolfannau hamdden. Hefyd, cafodd yr aelodau gynigion arbennig unigryw, gan gynnwys 10 pwynt teyrngarwch bonws am ddefnyddio SwimTag ar y diwrnod a chynnig aelodaeth am £50 y flwyddyn i fyfyrwyr Blwyddyn 7.
 
Cynhaliodd Canolfan Hamdden Caerffili amrywiaeth gyffrous o weithgareddau, gan gynnwys heriau ffitrwydd lle gallai cyfranogwyr ennill gwobrau, archwiliadau iechyd am ddim ac ymgysylltu ag Esports Cymru. Cafodd aelodau gyfle i fwynhau gweithgareddau chwarae gemau rhyngweithiol, a chyhoeddodd Esports Cymru ei fod wedi ymuno â rhaglen aelodaeth gorfforaethol Dull Byw Hamdden.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, a fynychodd y digwyddiad cydnabod, “Roedd yn anrhydedd i fod yn rhan o'r digwyddiad ac i gydnabod yn bersonol ymrwymiad ein haelodau sydd wedi bod gyda ni ers dros ddegawd. Mae eu hymroddiad nhw i ffitrwydd yn ysbrydoledig, ac mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn gyfle gwych i ddathlu hyn, wrth annog rhagor o bobl i fod yn egnïol ac ymgysylltu â'n cyfleusterau ni.”
 
Mae Dull Byw Hamdden wedi ymrwymo i annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol, yn fwy aml. Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau a hyrwyddiadau yn ei ganolfannau, ei nod yw gwneud ffitrwydd yn hygyrch ac yn bleserus i bawb.


Ymholiadau'r Cyfryngau