News Centre

Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa newydd.

Postiwyd ar : 24 Medi 2024

Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa newydd.
Mae Canolfan Hamdden Heolddu yn falch o gyhoeddi lansio cwrs hyfforddi achub bywydau fforddiadwy, wedi’i ddylunio ar gyfer unigolion sy’n chwilio am newid gyrfa gwerth chweil neu am gyfleoedd gwaith ychwanegol.

Am £49 yn unig, gall cyfranogwyr gychwyn ar daith 13 wythnos yn dechrau ar 14 Hydref, gan ennill sgiliau achub bywydau hanfodol a all baratoi'r ffordd at ddyfodol yn y diwydiant Chwaraeon a Hamdden. Bydd y cwrs yn rhedeg bob dydd Llun am 13 wythnos, gan ddarparu hyfforddiant cynhwysfawr sy'n cynnwys technegau achub bywydau hanfodol, adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a chymorth cyntaf.  Mae hwn yn gyfle gwych i'r rhai sydd â diddordeb mewn cael effaith sylweddol wrth ddilyn llwybr gyrfa newydd neu wella eu set sgiliau bresennol.

I gymryd rhan yn y cwrs, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion nofio canlynol:
  • Nofio 100 metr yn barhaus ar eich cefn ac yn eich blaen.
  • Nofio 50 metr mewn 60 eiliad.
  • Nofio yn eich unfan am 30 eiliad.
  • Nofio 20 metr gyda bwi torpido.

Mae'r hyfforddiant trylwyr hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod cyfranogwyr wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rolau achub bywydau a'u bod nhw’n gallu ymdrin â sefyllfaoedd bywyd go iawn yn hyderus.

Rydyn ni’n annog y rhai sydd â diddordeb mewn cofrestru ar y cwrs i wneud hynny’n gyflym, gan fod lleoedd yn gyfyngedig.  I gael rhagor o wybodaeth neu i sicrhau lle, cysylltwch â’r dderbynfa yng Nghanolfan Hamdden Heolddu ar 01443 828950 neu drwy e-bost i CHHeolddu@caerffili.gov.uk.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ennill cymhwyster gwerthfawr a dechrau gyrfa newydd mewn achub bywydau.


Ymholiadau'r Cyfryngau