News Centre

Dweud eich dweud ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Postiwyd ar : 16 Medi 2024

Dweud eich dweud ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystyried gwneud newidiadau i'w bolisi presennol o ran cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a'r coleg. 

Mae cyfnod ymgynghori o chwe wythnos yn cychwyn yr wythnos hon (ddydd Llun 16 Medi) i gasglu adborth gan y gymuned am y newidiadau arfaethedig.  

Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae'n rhaid iddo arbed £45 miliwn i fantoli'r gyllideb. Mae nifer o wasanaethau'n cael eu hadolygu er mwyn nodi arbedion a sicrhau enillion o ran effeithlonrwydd. 

Ar hyn o bryd, mae cludiant ysgol yn costio dros £10.7 miliwn y flwyddyn ac mae Caerffili ymhlith yr awdurdodau lleol olaf yng Nghymru i ddarparu lefel uwch o gludiant yn ôl disgresiwn, ymhell uwchlaw gofynion statudol Llywodraeth Cymru. 

Os ydyn nhw’n cael eu cytuno arnyn nhw, byddai unrhyw newidiadau i’r polisi cludiant rhwng y cartref a’r ysgol a’r coleg yn dod i rym o fis Medi 2025. 

Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar newid i'r pellter lleiaf statudol, sef 2 filltir ar gyfer plant ysgolion cynradd (1.5 milltir ar hyn o bryd) a 3 milltir ar gyfer plant ysgolion uwchradd (2 filltir ar hyn o bryd).

Byddai'r posibilrwydd o ddileu'r elfen milltiredd yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth prif ffrwd yn ei chysoni â meini prawf pellter statudol Llywodraeth Cymru, gan arwain at arbedion blynyddol gwerth £1.5 miliwn. 

Bydd yr addasiadau arfaethedig yn dal i olygu'r canlynol: 

  • Bydd dysgwyr yn parhau i allu dewis eu hysgol 'berthnasol' yn unol â'u dewis o ysgol Saesneg, ysgol Gymraeg neu ysgol ffydd. 
  • Bydd y ddarpariaeth cludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn parhau, ond bydd y meini prawf pellter yn newid o 2 filltir i 3 milltir a bydd y ddarpariaeth cludiant ar gyfer y blynyddoedd cynnar/meithrinfeydd yn parhau (yn dibynnu ar gapasiti spâr o ran cerbydau), ond bydd y meini prawf pellter yn newid o 1.5 milltir i 2 filltir. 
  • Bydd darpariaeth cludiant yn ôl disgresiwn ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn parhau.  

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor, “Mae cyllideb cludiant y Cyngor o dan bwysau sylweddol a ni yw un o'r cynghorau olaf yng Nghymru i gynnig polisi milltiredd yn ôl disgresiwn mwy hael.  

“Mae'r newidiadau arfaethedig hyn wedi cael eu hystyried yn ofalus, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ymgynghori â'r rhai sy'n cael eu heffeithio ac yn ystyried barn y gymuned yn llawn cyn i ni gytuno ar unrhyw newidiadau yn y dyfodol.” 

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 28 Hydref ac mae rhagor o wybodaeth am sut i ddweud eich dweud ar gael yma: https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/cludiant-rhwng-y-cartref-a-r-ysgol

 

 


Ymholiadau'r Cyfryngau