News Centre

E-chwaraeon Cymru yn ymuno â Rhaglen Aelodaeth Gorfforaethol Dull Byw Hamdden

Postiwyd ar : 16 Medi 2024

E-chwaraeon Cymru yn ymuno â Rhaglen Aelodaeth Gorfforaethol Dull Byw Hamdden
Mae Dull Byw Hamdden yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd gyffrous gydag E-chwaraeon Cymru, gan gynnig mynediad unigryw i aelodau o'r gymuned gemau at aelodaeth â disgownt, hollgynhwysol mewn canolfannau hamdden ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r cydweithrediad hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad i hyrwyddo dull byw cytbwys ac iach i bawb, gan gynnwys y gymuned o selogion e-chwaraeon sy’n tyfu. 
 
I ddathlu ymuno â'r aelodaeth gorfforaethol, bydd E-chwaraeon Cymru yn ymuno â ni ddydd Mercher 18 Medi rhwng 12pm ac 8pm ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Ffitrwydd. Byddan nhw’n ymgysylltu â chwsmeriaid, darparu gweithgareddau a chwarae gemau ac annog pawb i gymryd rhan yn y dathliadau.
 
Gall aelodau E-chwaraeon Cymru bellach gofrestru ar gyfer aelodaeth Dull Byw Hamdden am bris corfforaethol ar gyfradd ostyngol. Mae'r aelodaeth hon yn rhoi mynediad llawn at amrywiaeth eang o gyfleusterau, gan gynnwys ystafelloedd ffitrwydd o'r radd flaenaf, pyllau nofio, ystafelloedd iechyd, dosbarthiadau ymarfer corff a dosbarthiadau pwll, sydd ar gael mewn canolfannau hamdden ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn ogystal â Hwb Athletau’r Cyngor.
 
I hawlio'r gyfradd gorfforaethol unigryw hon, mae angen i aelodau E-chwaraeon Cymru gyflwyno eu proffil E-chwaraeon Cymru wrth ymweld ag unrhyw un o'r canolfannau hamdden. P'un a ydych chi’n edrych i wella eich ffitrwydd corfforol, ymlacio ar ôl sesiwn gemau hir neu archwilio gweithgareddau newydd, mae'r bartneriaeth hon yn cynnig cyfle gwych i wella eich lles. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, "Rydyn ni’n falch iawn o groesawu E-chwaraeon Cymru i'n Rhaglen Aelodaeth Gorfforaethol Dull Byw Hamdden. Mae'r bartneriaeth hon yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol e-chwaraeon yn ein cymuned, yn ogystal ag annog dull byw cytbwys a gweithgar i bawb. Rydyn ni’n credu ein bod ni’n cynorthwyo lles corfforol a meddyliol aelodau E-ehwaraeon Cymru drwy ddarparu mynediad i'n cyfleusterau rhagorol ar gyfradd ostyngol."
 
I gael rhagor o wybodaeth am sut i fanteisio ar y gyfradd aelodaeth unigryw hon, gall aelodau E-chwaraeon Cymru ymweld â'u canolfan hamdden leol neu gysylltu â ni ar 01443 863072 neu hamdden@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau