News Centre

Gofalu am Gaerffili yn cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer dwy wobr iechyd meddwl a lles nodedig

Postiwyd ar : 13 Medi 2024

Gofalu am Gaerffili yn cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer dwy wobr iechyd meddwl a lles nodedig
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Gofalu am Gaerffili wedi cyrraedd rownd derfynol dau gategori yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru sydd ar y gweill. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ein cyfraniadau sylweddol i'r gymuned a'n hymrwymiad i wella iechyd meddwl a lles yn y rhanbarth.

Mae Gofalu am Gaerffili wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Effaith yn y Gymuned, sy'n anrhydeddu sefydliadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar iechyd meddwl a lles eu cymunedau lleol. Yn ogystal, rydyn ni hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr y Gwasanaeth Lles Gorau, gan gydnabod ein hymroddiad i ddarparu gwasanaethau cymorth rhagorol sy'n gwella bywydau'r rhai rydyn ni’n eu gwasanaethu. Roedd y gystadleuaeth yn un gref, gyda dros 200 o geisiadau o ansawdd uchel wedi'u cyflwyno i'w hystyried. Rydyn ni’n hynod falch bod ein gwaith yn cael ei gydnabod ymhlith grŵp o sefydliadau mor arbennig.

Fe wnaeth y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, fynegi ei balchder am yr enwebiad: "Mae cael ein cydnabod yn rownd derfynol y gwobrau hyn yn dyst i ymdrechion diflino tîm Gofalu am Gaerffili. Mae eu hymroddiad i wella lles ein cymuned wir yn ysbrydoledig, ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu'r effaith gadarnhaol maen nhw wedi'i chael.  Rydw i’n falch o'u cyflawniadau ac yn hyderus y byddan nhw’n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng Nghynhadledd a Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles ddydd Mercher 9 Hydref, ychydig ddyddiau cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd, gan ddathlu llwyddiannau’r rhai sy’n gweithio’n ddiflino i wella iechyd meddwl ledled Cymru.

Hoffen ni ddiolch o galon i bawb sydd wedi cynorthwyo Gofalu am Gaerffili ac i’r beirniaid am gydnabod ein hymdrechion. Mae’r enwebiad hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein tîm, yn ogystal â chryfder a gwydnwch y gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu.


Ymholiadau'r Cyfryngau