News Centre

Ymarferion prawf-brynu fêps ledled y Fwrdeistref Sirol

Postiwyd ar : 03 Medi 2024

Ymarferion prawf-brynu fêps ledled y Fwrdeistref Sirol
Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion fepio nicotin i unrhyw un o dan 18 oed neu i oedolion eu prynu ar ran pobl ifanc dan 18 oed.
 
Trwy gydol gwyliau'r haf ysgol, mae Safonau Masnach Caerffili wedi bod yn cynnal gwiriadau cydymffurfio gyda chymorth pobl ifanc Fforwm Ieuenctid Caerffili yn gweithredu fel gwirfoddolwyr prawf-brynu dan oed. 
 
Roedd ymarferion prawf-brynu mewn 132 o safleoedd ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod gwyliau’r haf. 
 
Roedd yn galonogol bod pob safle heblaw am un, yn gwrthod gwerthu'r fêp i'r person ifanc ac fe wnaeth pob un ohonyn nhw ofyn am ddogfennau adnabod.
 
Mae Safonau Masnach Caerffili yn gweithio gyda'r manwerthwr a werthodd y fêp i sicrhau cydymffurfio yn y dyfodol.
 
Os yw cynnyrch â chyfyngiad oed yn cael ei werthu i berson dan oed, gall y manwerthwr a'r gwerthwr fod yn euog o drosedd. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw'r person dan oed yn honni ei fod yn prynu'r eitem ar gyfer oedolyn.
 
Nid yw fepio i blant a phobl ifanc. Mae eu hysgyfaint a'u hymennydd sy'n datblygu yn golygu eu bod nhw’n fwy sensitif i'w effeithiau. Mae fepio nicotin yn sylweddol llai niweidiol nag ysmygu, ond nid yw'n rhydd o risg. Dyna pam mae isafswm oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion fepio yn y DU.
 
Mae gan adran Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddyletswydd i orfodi cyfreithiau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc rhag cynhyrchion niweidiol.
 
Mae Safonau Masnach yn annog trigolion i roi gwybod am achosion o werthu dan oed er mwyn cynnal gorfodi wedi’i dargedu i ddileu'r broblem hon. 
 
Os hoffech chi roi gwybod am fater yn gyfrinachol, cysylltwch â Safonau Masnach ar 01443 811300 neu e-bostio safonaumasnach@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau