Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2024
Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol
News Centre
Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol
Postiwyd ar : 24 Medi 2024
Roedd Parc Tredegar yn gartref i’r Ŵyl Fwyd Rhisga gyntaf ddydd Sadwrn 14 Medi.
Roedd yr Ŵyl Fwyd yn cynnwys llwyth o ddanteithion blasus, arddangosiadau coginio, reidiau ffair a digonedd o weithgareddau eraill i’r miloedd o ymwelwyr eu mwynhau.
Cafodd 3,500 o ymwelwyr eu cofnodi yn y digwyddiad drwy nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref a rhai o gatiau mynediad y parc.
Roedd llawer o fasnachwyr yn yr Ŵyl Fwyd wedi gwerthu popeth erbyn canol dydd ac fe gafodd llawer o fusnesau lleol gefnogaeth dda hefyd.
Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am yr Ŵyl Fwyd:
Dywedodd Eleri’s Welshcakes, “Cawson ni ddiwrnod hollol wych – digwyddiad arbennig.”
Meddai Aga Farm, “Am ddiwrnod ffantastig! Ac am leoliad hyfryd, roedd yn teimlo mor drefnus ac roeddwn i wrth fy modd gyda chynllun y lle. Roedd yr awyrgylch yn grêt.”
Dywedodd Snug Coffee Shop, “Am ddiwrnod bendigedig! Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau'r lle. Roedd yr holl le i eistedd yn wych ac roedd yr ardal grefftau/goginio i’r plant yn syniad penigamp. R
oedd rhywbeth i’w weld lle bynnag roeddech chi’n edrych, ac fe werthon ni fwy nag erioed! Diolch yn fawr iawn i’r Tîm Digwyddiadau.”
Dywedodd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy hefyd, “Roedden ni’n hapus i gymryd rhan ac roedden ni’n meddwl ei fod yn ddiwrnod da i’r gymuned. Roedd y presenoldeb yn dda iawn ac roedd yn braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd a mwynhau’r amrywiaeth o stondinau.”
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio, a Newid yn yr Hinsawdd hefyd, “Mae’r adborth sydd wedi dod i law yn gadarnhaol ac yn galonogol iawn. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn yn Rhisga, gyda miloedd o bobl yn dod i’r dref. Diolch i’r holl ymwelwyr a busnesau am gefnogi’r digwyddiad.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gwasanaeth Prydau Prydlon i barhau
Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol
Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa newydd.
Busnesau lleol ym Mharc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn cael hwb ffibr llawn gan Ogi
Dweud eich dweud ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y