News Centre

Busnesau lleol ym Mharc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn cael hwb ffibr llawn gan Ogi

Postiwyd ar : 24 Medi 2024

Busnesau lleol ym Mharc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn cael hwb ffibr llawn gan Ogi
Mae busnesau lleol ar fin elwa ar gyflymderau ffibr aml-gigadid-llawn newydd fel rhan o gytundeb rhwng Ogi a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Mae Parc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn gartref i tua 30 o fusnesau lleol, o gwmnïau cyfreithiol i bractisau cyfrifeg a chwmnïau technoleg newydd arloesol.
 
Drwy’r cytundeb, mae Ogi wedi cwblhau’r gwaith o osod rhwydwaith busnes ffibr llawn ‘Ogi Pro’ pwrpasol newydd yn y parc busnes, gan ddefnyddio ei rwydwaith gwerth £5 miliwn yn Hengoed sydd gerllaw. Mae’n cynnig cysylltedd gradd busnes fforddiadwy hyd at 8Gbps o'r diwrnod cyntaf, gyda'r gallu i gynyddu wrth i'r galw gynyddu.
 
Fel rhan o’r cynlluniau i wneud Parc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn ganolbwynt ynni gwyrdd, mae rhwydwaith goddefol Ogi yn defnyddio llai o ynni na rhwydweithiau copr traddodiadol, gan gynnig cyflymderau band eang uwch a mwy gwydn i fusnesau sydd wedi’u lleoli yno am gost is i'r amgylchedd a'u llinell waelod.
 
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwerthiant Busnes Ogi, Andy Dow, “Mae parciau busnes fel Tredomen yn bwysig yn economaidd i’w rhanbarthau, a dylen nhw gael yr un mynediad at gysylltedd da â lleoedd fel Caerdydd a Chasnewydd.
 
“Wrth i fwy ohonom ni weithio’n agosach at adref, gall arloesi ddigwydd yn unrhyw le, ac mae’n bwysig ein bod ni’n buddsoddi yn y sylfeini – yr isadeiledd sydd ei angen – i helpu’r cwmnïau hyn i dyfu ar raddfa. Rydw i'n falch iawn bod Ogi wedi gallu partneru â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Nhredomen, gan helpu gwneud y parc yn fwy deniadol i denantiaid presennol a chwmnïau newydd sy'n symud i mewn, ac nad ydw i’n gallu aros i weld beth mae'r busnesau hynny'n ei wneud gyda'r dechnoleg newydd hon.”
 
Ac yntau wedi’i bweru gan galedwedd Nokia, Ogi oedd y darparwr gwasanaethau rhyngrwyd (ISP) cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio 25G PON yn fasnachol yn 2022, gan gynnig cyflymder cymesurol o 25Gbps i fusnesau yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r bartneriaeth newydd hon gydag Ogi. Mae cymorth ar gyfer gwell cysylltiadau busnes yn bwysig i’r Cyngor, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth hon.”
 
A hithau wedi’i lansio yn 2023, Ogi Pro yw’r gangen fusnes delathrebu yng Nghymru, sy’n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion digidol gan gynnwys cysylltedd, integreiddio deallusrwydd artiffisial a gwasanaethau wedi’u rheoli. A hwythau’n rhan o gam cyntaf gwerth £200 miliwn o gyflwyno gwasanaethau ffibr llawn newydd, mae tîm gwasanaethau busnes arobryn Ogi yn hyrwyddo twf, nid yn unig yn ein dinasoedd, ond ledled pob rhan o Gymru a thu hwnt.


Ymholiadau'r Cyfryngau