News Centre

Dewch i ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol gyda gweithgareddau cyffrous ar draws canolfannau hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 12 Medi 2024

Dewch i ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol gyda gweithgareddau cyffrous ar draws canolfannau hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili
I ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol ddydd Mercher 18 Medi, mae Dull Byw Hamdden yn falch o gyhoeddi diwrnod llawn o weithgareddau, cynigion arbennig a digwyddiadau cymunedol yn ein safleoedd ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno â ni am ddiwrnod o ffitrwydd a hwyl.

Gweithgareddau ar draws yr holl safleoedd:
  • Cynnig Aelodaeth Blynyddol i Flwyddyn 7: Ar y diwrnod arbennig hwn, rydyn ni’n cynnig aelodaeth i flwyddyn 7 am £50 yn unig. Mae'r ffi untro hon nad oes modd ei had-dalu yn rhoi gwerth arbennig i fyfyrwyr blwyddyn 7 sydd am gadw'n heini. Mae'r aelodaeth yn ddilys o 18 Medi tan ddiwedd y flwyddyn ysgol academaidd bresennol (31 Gorffennaf 2025).
  • Sesiynau Ystafell Ffitrwydd a Nofio Cyhoeddus am Ddim: Mwynhewch fynediad am ddim i'n holl ystafelloedd ffitrwydd a phyllau nofio trwy gydol y dydd. Mae’n gyfle perffaith i brofi ein cyfleusterau a rhoi hwb i’ch taith ffitrwydd.
  • Pwyntiau Bonws SWIMTAG: Bydd defnyddwyr SWIMTAG yn cael 10 pwynt teyrngarwch Dull Byw Hamdden ychwanegol pan fyddan nhw’n defnyddio eu SWIMTAG ar Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol, gan wobrwyo eu hymrwymiad i ffitrwydd.
Gweithgareddau Canolfan Hamdden Caerffili:
  • E-chwaraeon Cymru: Rhwng 12pm ac 8pm, bydd E-chwaraeon Cymru wedi’i sefydlu yn y dderbynfa, gan ymgysylltu ag ymwelwyr drwy gemau a gweithgareddau i ddathlu eu haelodaeth gorfforaethol newydd â ni.
  • Gwiriadau Iechyd a Heriau Ffitrwydd am Ddim: Mwynhewch wiriadau iechyd am ddim a chymryd rhan mewn heriau ffitrwydd o 12pm i 8pm. Bydd gwobrau’n cael eu rhoi i'r perfformwyr gorau, gan ychwanegu haen ychwanegol o gyffro i'r diwrnod. Peidiwch â cholli'ch cyfle i ennill gwobrau gwych wrth brofi eich sgiliau ffitrwydd!
  • Seremoni Gydnabyddiaeth: O 6pm tan 7pm, byddwn ni’n anrhydeddu 57 o aelodau sydd wedi bod yn aelodau debyd uniongyrchol am 10 mlynedd yn olynol. Byddan nhw’n cael crys-T coffaol a thaleb ar gyfer sesiwn hyfforddiant personol am ddim. 
Mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn gyfle i gofleidio ymarfer corf, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n darparu ar gyfer pob diddordeb a lefel ffitrwydd. Ymunwch â ni am ddiwrnod o ddathlu, cymuned a hwyl!


Ymholiadau'r Cyfryngau