News Centre

Rhaglen haf Caerffili, Chwarae yn y Parc, yn llwyddiant ysgubol

Postiwyd ar : 03 Medi 2024

Rhaglen haf Caerffili, Chwarae yn y Parc, yn llwyddiant ysgubol
Mae rhaglen haf Chwarae yn y Parc wedi bod yn llwyddiant, gyda digwyddiadau yn rhedeg o 1 Awst ym Mharc Lles Senghenydd ac yn dod i ben ar 27 Awst ar Faes y Sioe, Coed Duon. Er gwaethaf tywydd anrhagweladwy'r haf ym Mhrydain, dim ond un o'r wyth sesiwn a gafodd eu trefnu oedd wedi'i chanslo, gan alluogi plant a theuluoedd i fwynhau haf llawn chwarae ac ysbryd cymunedol.
 
Rhoddodd y gyfres y cyfle i blant a theuluoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau rhad ac am ddim a oedd yn hawdd eu hailadrodd mewn mannau gwyrdd lleol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Roedd y sesiynau hyn, a gafodd eu cyflwyno gan Wasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili ochr yn ochr â Gwasanaeth Chwarae Caerffili, yn cynnig hwyl hygyrch wrth annog teuluoedd i fwynhau a gwneud defnydd o'u hamgylcheddau lleol.
 
Cafodd un o ddigwyddiadau nodedig y rhaglen ei gynnal ym Mharc Morgan Jones ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 7 Awst. Denodd y digwyddiad hwn dorf fywiog, gan greu awyrgylch egnïol a oedd yn dathlu pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. Daeth teuluoedd o bob rhan o’r Fwrdeistref Sirol ynghyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, o gemau awyr agored i sesiynau celf a chrefft creadigol, gan wneud y diwrnod yn uchafbwynt gwirioneddol i’r haf.
 
Cafodd y gyfres ei lansio gyda’r sesiwn yn Senghenydd, yn dilyn cydweithio gyda chynghorwyr lleol, aelodau’r gymuned, a Menter Iaith Sir Caerffili. Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg, gan gydnabod arwyddocâd ieithyddol Cwm Aber ac effeithio’n gadarnhaol arno. 
 
Roedd cyfanswm o dros fil o blant yn bresennol yn y sesiynau Chwarae yn y Parc, gyda phob un yn cael pecyn bwyd iach am ddim. Yn ogystal, cymerodd tua 200 o blant ran yn y sesiynau chwarae teithiol a gafodd eu cynnal ar draws lleoliadau amrywiol yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnig hyd yn oed rhagor o gyfleoedd ar gyfer chwarae lleol.
 
Ochr yn ochr â’r sesiynau Chwarae yn y Parc, roedd Chwarae Caerffili hefyd yn cynnig cymorth i gymunedau lleol trwy ddarparu grantiau o £250 i unigolion a sefydliadau a oedd yn dymuno cynnal eu digwyddiadau eu hunain i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Roedd y fenter hon yn caniatáu i ddigwyddiadau unigryw amrywiol gael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol, gan feithrin ymgysylltu â’r gymuned ac annog chwarae egnïol ymhlith plant ymhellach.  
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae’r rhaglen Chwarae yn y Parc yn ystod yr haf wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ddod â theuluoedd ynghyd o bob rhan o’r Fwrdeistref Sirol i ddathlu llawenydd chwarae. Roedd y nifer a ddaeth i Barc Morgan Jones ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol yn arbennig o drawiadol, ac rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o blant wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiadau rhad ac am ddim, llawn hwyl hyn.”
 
Mae llwyddiant rhaglen eleni yn amlygu gwerth mentrau sy’n cael eu harwain gan y gymuned wrth greu mannau diogel, cynhwysol i blant chwarae a dysgu.


Ymholiadau'r Cyfryngau