News Centre

Cartrefi Caerffili yn ceisio barn tenantiaid ynghylch rhent

Postiwyd ar : 03 Medi 2024

Cartrefi Caerffili yn ceisio barn tenantiaid ynghylch rhent
Mae cyfle i denantiaid y Cyngor ym Mwrdeistref Sirol Caerffili fynegi'u barn ar y rhent maen nhw'n ei dalu.
 
Mae Cartrefi Caerffili, is-adran tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn gofyn i denantiaid lenwi arolwg byr i nodi a ydyn nhw'n credu bod eu rhenti nhw'n deg ac yn fforddiadwy. Mae'r Cyngor hefyd eisiau gwybod sut mae'r argyfwng costau byw’n effeithio ar denantiaid.
 
Mae modd dod o hyd i'r arolwg ar-lein; bydd yn dod i ben ddydd Llun 30 Medi.
 
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd un person yn ennill £150 ar ffurf talebau siopa a thri pherson arall yn ennill £60.
 
I unrhyw un sy’n methu â llenwi'r arolwg ar-lein neu sydd angen cymorth, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 811433 / 811434 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau