News Centre

Brodyr i agor bar caffi Cymreig-Eidalaidd mewn adeilad nodedig yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 13 Medi 2024

Brodyr i agor bar caffi Cymreig-Eidalaidd mewn adeilad nodedig yng Nghaerffili
R-L Richard Rees, Head Chef Dan Frizaru, Sous Chef Kenny Bell, Jonathan Rees

Mae tri brawd yn paratoi i agor bar caffi newydd ar ôl cymryd les hen safle Coffi Vista drosodd, mewn lleoliad gwych gyferbyn â chastell godidog y dref.

Mae Jonathan, Richard, a Martin Rees, perchnogion Ten Degrees yn Market Street Bar & Restaurant, Team Rees Gym, Three Brothers Coffee, a Jake’s Ice Cream & Co, yn bwriadu creu lle wedi’i ysbrydoli gan y caffis Eidalaidd a ddaeth â diwylliant coffi cyfoethog i gymoedd Cymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Bydd Rosita’s yn meddiannu’r adeilad gwag ar Stryd y Castell gan gynnig profiad bwyta hamddenol drwy’r dydd - o frecwast i swper - gan gyfuno clasuron Cymreig â ffefrynnau Eidalaidd. Bydd bwydlen ddiodydd yn cynnwys coffi, te, cwrw, coctels a gwinoedd yn cael ei gynnig i westeion mewn mannau wedi eu hailfodelu y tu mewn a’r tu allan.

Dywedodd y brawd ieuengaf, Jonathan, fod y syniad ar gyfer Rosita wedi dod yn ystod taith i Rufain gyda'i bartner hanner-Eidalaidd pan ddaeth y cwpl ar draws caffi ochr stryd prysur yn gweini'r coffi, brecwast, brechdanau, a stêc a sglodion mwyaf anhygoel.

“Wrth galon y busnes oedd Rosita – dynes gyda steil gwallt coch Eidalaidd tanllyd, yn gweini powlenni a phlatiau blasus i’w chwsmeriaid,” meddai Jonathan.

“Roedden ni’n gwybod ein bod ni wedi dod ar draws rhywbeth arbennig ac wedi cael ein hysbrydoli’n llwyr. Bydd cyfuno arlwy bwyta hamddenol drwy’r dydd ag ychydig o ysbrydoliaeth Eidalaidd yn llenwi bwlch yn y farchnad yng Nghaerffili.”

Mae'r brodyr yn gobeithio y bydd y profiad bwyta hamddenol yn denu cwsmeriaid yng Nghaerffili a thu hwnt, gyda disgwyl i’r oriau agor fod o 9am i 9pm o ddydd Sul i ddydd Iau, a rhwng 9am a 12am ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Bydd gan y cyhoedd fynediad llawn i gyfleusterau toiledau yn y lleoliad yn ystod yr oriau agor rheolaidd.

Dywedodd Jonathan mai un ffocws penodol yw i wella’r gofod awyr agored o amgylch y lleoliad trwy greu mannau eistedd â chanopi a gwres sy’n caniatáu i westeion fwynhau golygfa’r castell trwy gydol y flwyddyn, waeth beth fo’r tywydd.

“Ein nod yw creu diwylliant bar caffi bywiog sy’n gweddu i atyniad o safon fyd-eang fel y castell,” meddai Jonathan. “Ein nod, yn unol â gweledigaeth uchelgeisiol prosiect adfywio Caerffili 2035 ar gyfer canol tref ffyniannus, yw i wneud Caerffili yn gyrchfan fodern, ffyniannus i dwristiaid. Mae datblygiadau fel Ffos Caerffili ac agoriad Consurio Lounge yng Nghanolfan Siopa Castle Court yn ddiweddar yn dangos cymaint o fwrlwm sydd ar hyn o bryd o ran denu buddsoddiad newydd i sector lletygarwch y dref.

“Mae paratoadau ar y gweill i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer yr hyn all y gofod hwn fod ar gyfer pobl Caerffili, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein gwesteion cyntaf i Rosita’s yn ddiweddarach eleni.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili: “Rydym yn croesawu ailagor yr adeilad a chyhoeddi tenant lleol, cyffrous newydd ar gyfer y safle hwn yn fawr.

“Roedd yn benderfyniad anodd chwilio am bartner sector preifat arall, nad yw’n dibynnu ar gymhorthdal ​​cyhoeddus, i brydlesu’r adeilad. Ond mae nifer y swyddi newydd sy'n cael eu creu yn y bwyty o ansawdd uchel hwn, sydd wedi'i leoli mewn lleoliad gwych gyferbyn â'n castell godidog, yn rhywbeth i'w ddathlu.

“Hoffem ddymuno pob lwc i bawb yn Rosita’s ac edrychaf ymlaen at weld y busnes yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”



Ymholiadau'r Cyfryngau