Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2022
Amgueddfa'r Tŷ Weindio yn ennill Gwobr Sandford fawreddog
News Centre
Amgueddfa'r Tŷ Weindio yn ennill Gwobr Sandford fawreddog
Postiwyd ar : 21 Medi 2022
Mae Amgueddfa’r Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd wedi llwyddo i gael Gwobr Sandford fawreddog am Addysg Treftadaeth 2022.
Yn rhan o Wasanaeth Amgueddfeydd a Threftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r Tŷ Weindio wedi cael y wobr i gydnabod ei waith yn datblygu a darparu rhaglenni addysg ar gyfer ysgolion lleol.
Mae dros 200 o safleoedd yn y Deyrnas Unedig wedi ennill Gwobr Sandford ar hyn o bryd, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau, adeiladau a gerddi hanesyddol, archifau a llyfrgelloedd, addoldai, a sŵau. Er mwyn cyflawni'r meini prawf asesu trwyadl, rhaid i sefydliadau ddangos eu bod nhw'n darparu addysg treftadaeth o ansawdd uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r Tŷ Weindio ac i ni fel Cyngor, a hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran.
“Mae’r Tŷ Weindio yn lleoliad unigryw wedi'i adeiladu o amgylch tŷ weindio rhestredig Gradd 2* o’r 19eg ganrif ac injan weindio stêm. Mae'n gweithredu fel hwb i'r gymuned leol, yn ogystal â chyrchfan ymwelwyr a chanolfan ddysgu. Mae’r wobr fawreddog hon yn adlewyrchu’r amrywiaeth o gyfleoedd addysgol sy'n cael eu cynnig gan y Tŷ Weindio, ynghyd ag ymrwymiad ac ymroddiad y tîm sy’n gyfrifol.”
Ychwanegodd Susan Walker, Aseswr Arweiniol Gwobr Sandford, “Mae Amgueddfa’r Tŷ Weindio yn parhau i gynnig profiadau dysgu ymarferol o ansawdd uchel i blant ar safle unigryw. Mae’r gweithdai ysgol rhagorol wedi cael eu cynllunio’n ofalus ac yn feddylgar, a ph’un ai eu bod nhw'n cael eu cyflwyno ar y safle, ar-lein neu drwy allgymorth, maen nhw'n cael eu gwneud yn broffesiynol, gan roi cyfle i blant o bob oed ymgysylltu â hanes mewn ffordd gofiadwy, gyffrous a diddorol.”
Am ragor o wybodaeth am y Tŷ Weindio, ewch i:
www.thewindinghouse.co.uk
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Dull Byw Hamdden yn dathlu aelodau hirdymor fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol
Gwasanaeth Prydau Prydlon i barhau
Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol
Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa newydd.
Busnesau lleol ym Mharc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn cael hwb ffibr llawn gan Ogi
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y