News Centre

Dathlu Canmlwyddiant: Mae Elsie yn nodi 100 mlynedd gyda'r gymuned a chyfeillion

Postiwyd ar : 11 Meh 2024

Dathlu Canmlwyddiant: Mae Elsie yn nodi 100 mlynedd gyda'r gymuned a chyfeillion
Daeth y gymuned at ei gilydd mewn llawenydd ac edmygedd i ddathlu pen-blwydd preswylydd lleol annwyl, Elsie, yn 100 oed. Cafodd yr achlysur llawen ei gynnal yn Neuadd yr Henoed, Maes-y-coed, lle mae Elsie wedi bod yn bresennol yn rheolaidd gyda grŵp henoed Maes-y-coed am y saith mlynedd diwethaf. 
 
Dywedodd Elsie, wrth fyfyrio ar y garreg filltir, “Rwy’n teimlo’n 120 oed! Rwyf wedi cael fy llethu ac yn ddiolchgar iawn i weld pawb yma yn dathlu gyda fi. Mae’n wir yn syrpreis gwych!”
 
A hithau wedi'i geni ym 1924, mae Elsie wedi byw bywyd llawn ymroddiad a gwasanaeth. Fe wnaeth hi wasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol am bedair blynedd cyn dechrau teulu. Fe wnaeth ei hagwedd weithgar barhau wrth iddi ymgymryd â glanhau a gweithio mewn tafarn hyd at 75 oed. 
 
Mae grŵp Henoed Maes-y-coed, sy'n cael cymorth gan y tîm Gofalu am Gaerffili, wedi cael effaith sylweddol ar fywyd Elsie dros y 7 mlynedd diwethaf. A hwythau'n cwrdd bob dydd Iau o 2pm i 4pm, mae’r grŵp yn cynnig cyfle i drigolion gymdeithasu trwy gyfarfodydd rheolaidd a digwyddiadau cymdeithasol. I Elsie, mae’r grŵp wedi bod yn allweddol wrth ei helpu i gadw’n heini, cynnal ei chysylltiadau cymdeithasol a chadw ei synhwyrau’n graff. 
 
Fe wnaeth y Maer, y Cynghorydd Julian Simmonds, fynegi ei ddymuniadau cynnes i Elsie, gan ddweud, “Penblwydd Hapus i Elsie yn 100 oed! Mae’r dathliad hwn yn dyst i’w hysbryd bywiog a’r cysylltiadau cymunedol cryf rydyn ni'n eu hanwylo. Mae gwasanaethau a mentrau fel Gofalu am Gaerffili a Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo ein trigolion, gan sicrhau bod ganddyn nhw'r rhwydweithiau cymdeithasol a'r gweithgareddau sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu. Rydyn ni'n falch o’n hymdrechion parhaus i ddeall ein cymunedau a chwrdd â'u hanghenion.”
 
Yn ogystal â charreg filltir i Elsie, mae dathlu 100 mlynedd yn adlewyrchu cymuned gefnogol a chlos Maes-y-coed. Dymuniadau gorau i lawer mwy o flynyddoedd hapus ac iach i Elsie ac i lwyddiant parhaus mentrau cymunedol sy’n dod â llawenydd a chysylltiad i drigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan mewn grwpiau cymunedol lleol, cysylltwch â ni yn Gofalu am Gaerffili ar 01443 811490 neu GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau