News Centre

Dyfodol Ffordd Goedwig Cwmcarn yn edrych yn ddisglair

Postiwyd ar : 18 Gor 2024

Dyfodol Ffordd Goedwig Cwmcarn yn edrych yn ddisglair

Gallai atyniad poblogaidd i ymwelwyr yng nghalon cymoedd de Cymru fod â dyfodol newydd cyffrous, yn sgil cydweithrediad newydd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector preifat.

Mae Cabinet Cyngor Caerffili wedi cytuno i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i chwilio ar y cyd am bartner sector preifat i wella Ffordd Goedwig a Chanolfan i Ymwelwyr Cwmcarn ymhellach. Mae'r safle, sy'n boblogaidd gyda beicwyr mynydd a cherddwyr, yn cynnig llwybr golygfaol syfrdanol yn ogystal â chanolfan ymwelwyr, siop goffi, cyfleusterau gwersylla, mannau chwarae a chabanau. 

Bydd y cydweithrediad yn ceisio adeiladu ar y cynigion a gafodd eu cyflwyno gan y Cyngor yn 2022, fel rhan o'i gais am gyllid gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i wella'r arlwy atyniadau ar y safle. 

Mae'r Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arwyddo cytundeb i fwrw ymlaen â chynlluniau uchelgeisiol i gynnig y safle ar y cyd i ddatblygwr masnachol, a thrwy hynny, wella'r atyniad o ran twristiaeth, gan hefyd ddileu'r costau sy'n gysylltiedig â rheoli'r safle.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau hyfywedd Ffordd Goedwig Cwmcarn yn y dyfodol a bydd y cytundeb partneriaeth hwn yn ein galluogi ni i archwilio cyfleoedd newydd cyffrous ar gyfer y cyfleuster. Hoffwn i sicrhau'r gymuned nad yw'r safle dan fygythiad, yn wir, rydyn ni'n edrych ar hybu a gwella'r atyniad poblogaidd hwn drwy archwilio opsiynau newydd i ddenu hyd yn oed yn rhagor o bobl i Ffordd Goedwig Cwmcarn.”

Dywedodd Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau'r De-ddwyrain, Cyfoeth Naturiol Cymru, “Mae Ffordd Goedwig Cwmcarn yn atyniad pwysig a phoblogaidd ac rydyn ni'n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i archwilio opsiynau a fydd yn gwella'r safle ymhellach, er mwyn iddo barhau i ddenu rhagor o ymwelwyr a chael ei fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol.

“Mae'r camau rydyn ni wedi eu gweld dros y blynyddoedd diwethaf i ailddatblygu a gwella'r Ffordd Goedwig wedi ennyn cefnogaeth a chyfranogiad enfawr gan y gymuned leol. Maen nhw i gyd wedi bod yn hanfodol wrth helpu llywio'r ffordd i'r hyn rydyn ni'n ei weld heddiw. Rydyn ni eisiau hynny i barhau wrth i ni gydweithio i lywio arlwy'r ffordd am flynyddoedd i ddod.

“Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion â'r gymuned fel rhan o'r rhaglen ymgysylltu arfaethedig dros yr wythnosau nesaf.”

Mae'r cam nesaf yn cynnwys penodi asiant, a fydd yn marchnata'r safle a cheisio partïon â diddordeb i gyflwyno opsiynau i'w hystyried ar gyfer dyfodol Ffordd Goedwig Cwmcarn.

Bydd ymgysylltu â'r cyhoedd hefyd yn rhan allweddol o'r broses hon, a bydd manylion ynghylch sut y gall y gymuned gymryd rhan a chael rhagor o wybodaeth yn cael eu cyhoeddi maes o law.

I gael rhagor o wybodaeth am Ffordd Goedwig Cwmcarn, ewch i: www.cwmcarnforest.co.uk/cy



Ymholiadau'r Cyfryngau