News Centre

Mae'r Cyngor yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Postiwyd ar : 19 Gor 2024

Mae'r Cyngor yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Mae Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2023-2024 yn cynnwys gwybodaeth am sut mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, yn unol â’r Safonau wedi'u hamlinellu yn Hysbysiad Cydymffurfio’r Cyngor.

Mae'r adroddiad yn egluro'r camau wedi'u cymryd i sicrhau bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yn Gymraeg ac yn gweithredu yn Gymraeg. Hefyd, mae'n cynnwys sut mae'r Cyngor yn hyrwyddo'r Gymraeg a'i dathlu ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn ystod y flwyddyn adrodd 2023-2024, ni ddaeth unrhyw gwynion nac ymchwiliadau i law am y Gymraeg. Dyma’r bumed flwyddyn yn olynol nad ydyn ni wedi bod yn destun ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg ar gyfer diffyg cydymffurfio.

Fe wnaethom ni hyrwyddo a dathlu nifer o wahanol weithgareddau Cymraeg yn ystod 2023-2024 gan gynnwys:

  • Diwrnod Shwmae – Fe wnaeth staff a phreswylwyr Cartref Preswyl Tŷ Iscoed gymryd rhan mewn cwrs Cymraeg.
  • Diwrnod Hawliau'r Gymraeg – Fe wnaethom ni hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg ac annog aelodau’r cyhoedd i gael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg.
  • Fe wnaethom ni barhau â’n gwaith sy'n cynorthwyo Gyrfa Cymru gyda sgyrsiau yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Ysgol Gyfun Martin Sant, Ysgol Uwchradd Islwyn ac Ysgol Gymunedol Sant Cenydd. Cafodd y sgyrsiau eu cyflwyno i flwyddyn 10 ac 11 ynglŷn â chyfleoedd gyrfaoedd a phrentisiaethau gyda’r Cyngor, a phwyslais ar ba mor bwysig yw sgiliau Cymraeg i gyflogwyr.
  • O ganlyniad i weithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru ac ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol, fe wnaethom ni ennill enwebiad a chyrraedd y rhestr fer yn rownd derfynol Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru. Er gwaethaf peidio ag ennill y wobr, roedd yn gyflawniad gwych i’r Cyngor gael ei gydnabod am y gwaith sydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd ac a fydd yn parhau mewn nifer o ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol.
  • Fe wnaeth Tîm Cyfieithu’r Cyngor gyfieithu 2,175,562 o eiriau y flwyddyn ariannol hon. Mae hynny dros 700,000 o eiriau yn fwy na’r llynedd, diolch i gapasiti ychwanegol y tîm.
  • Cynyddodd nifer y staff wedi'u cofnodi bod ganddyn nhw sgiliau Cymraeg o 2,100 i 2,258 yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Wrth gyflwyno'r Archwiliad Sgiliau Iaith Gymraeg ym mis Ebrill, rydyn ni'n gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa y flwyddyn nesaf lle gallwn ni fapio a manylu ar bob aelod o staff sydd â sgiliau Cymraeg a darparu’r cymorth angenrheidiol i’w hannog nhw i ddefnyddio'r sgiliau hynny yn hyderus yn y gweithle.
  • Cynyddodd nifer y staff sy’n dysgu Cymraeg eto yn ystod y flwyddyn ariannol hon i 96. Rydyn ni wedi newid y broses o gofrestru ar gyrsiau, sy'n llawer symlach. Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio llawer mwy gyda meysydd gwasanaeth, yn enwedig y Tîm Cyflogadwyedd, sydd i gyd wedi mynychu cwrs Cymraeg ac yn enghraifft wych o sut i ymgorffori’r Gymraeg mewn gwaith bob dydd.

Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad, sy'n cynnwys y Gymraeg,

“Rydyn ni wedi gweithio ar y cyd â’n partneriaid i ddatblygu strategaeth sy’n adeiladu ar ein llwyddiannau yn y gorffennol, yn diwallu anghenion siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn y Fwrdeistref Sirol, yn bodloni’r gofynion deddfwriaethol ac, yn bwysicaf oll, yn ystyrlon, yn briodol ac yn gyraeddadwy i bawb dan sylw.

Mae Adroddiad yr Iaith Gymraeg yn dangos yn glir y cynnydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel i drigolion, ledled ein holl sianeli, i wella ein gwasanaethau i gwsmeriaid a sicrhau ein bod ni'n diwallu anghenion ein siaradwyr Cymraeg.”

Gallwch chi weld Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2023-2024 (HTML).

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud o ran yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 ar gael yma: Safonau’r Gymraeg - Cyngor Caerffili. 


 


Ymholiadau'r Cyfryngau