News Centre

Gwaith arwynebu tarmac ar fin dechrau

Postiwyd ar : 19 Gor 2024

Gwaith arwynebu tarmac ar fin dechrau
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dechrau rhaglen arwynebu tarmac ar 29 Gorffennaf. 
 
Bydd y rhaglen yn effeithio ar dri lleoliad yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd mesurau rheoli traffig ar waith ar gyfer gwaith yn New Road, Tir-y-berth. Bydd ffyrdd ar gau yn Hafod-yr-ynys Road, Crymlyn; a Heolddu Grove, Bargod. 
 
Mae lleoliadau, dyddiadau cychwyn, faint o amser y mae disgwyl i'r gwaith ei gymryd a llwybrau eraill i'w gweld yn y tabl isod.
 
 
Ffordd   Dyddiadau Llwybr arall
New Road, Tir-y-berth CF82 8AU Mesurau rheoli traffig dan gonfoi 8 diwrnod
30 Gorffennaf tan 8 Awst 2024
 
Heolddu Grove, Bargod CF81 8UY Cau'r ffordd 3 diwrnod
29, 30 a 31 Gorffennaf 2024
Moorland Road, McDonnell Road, St Gwladys Avenue, Bargod
Hafod-yr-ynys Road, Crymlyn NP11 3PE Cau'r ffordd 2 noson
8pm tan 6am
19 a 20 Awst 2024
A467 Crymlyn i Fryn-mawr,
A465 Bryn-mawr i'r Fenni,
A4042 Y Fenni i Bont-y-pŵl,
A472 Pont-y-pŵl i Grymlyn, a'r ffordd arall.


Ymholiadau'r Cyfryngau