News Centre

Dim ysgol am yr haf! Haf o Hwyl Caerffili 2024

Postiwyd ar : 22 Gor 2024

Dim ysgol am yr haf! Haf o Hwyl Caerffili 2024
Gall plant a phobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili edrych ymlaen at raglen lawn gweithgareddau a digwyddiadau yn ystod yr haf.

Plymiwch i’r pwll nofio, archwiliwch yr awyr agored neu gadewch i’ch dychymyg chi fynd yn wyllt, mae’r rhaglen ‘haf o hwyl’ yn orlawn o weithgareddau llawn hwyl.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gwersylloedd chwaraeon, sialensiau darllen yr haf a gweithgareddau yn y llyfrgell, cyfleoedd nofio am ddim, cynlluniau haf Lluosi a gweithgareddau yn y Gymraeg. Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau yn ystod yr haf.

Bydd y gweithgareddau'n cael eu darparu gan amrywiaeth o wasanaethau a sefydliadau partner gan gynnwys: Chwaraeon Caerffili, Dull Byw Hamdden, Anturiaethau Caerffili, Chwarae Caerffili, Llyfrgelloedd Caerffili, Lluosi a Menter Iaith Sir Caerffili.

Dewch o hyd i ba weithgareddau'r haf sydd ar gael a sut y gallwch chi gadw lle ynddyn nhw, ynghyd â manylion cyswllt ar gyfer pob gweithgaredd. Cofiwch am ein digwyddiadau dros yr haf sy’n cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol. Dewch i ddarganfod ein parciau gwledig a dinesig sydd am sicrhau bod y teulu'n cael diwrnod llawn hwyl.


Ymholiadau'r Cyfryngau