News Centre

PopUp Wales yn cynnig cyfleoedd cost isel i fusnesau newydd

Postiwyd ar : 19 Gor 2024

PopUp Wales yn cynnig cyfleoedd cost isel i fusnesau newydd
Yn ddiweddar, mae PopUp Wales wedi cymryd drosodd 28 Y Stryd Fawr, Bargod fel gofod i helpu busnesau lleol. 
 
Mae PopUp Wales yn helpu busnesau trwy ddarparu lle i weithio a chynnal cyfarfodydd, gan eu galluogi nhw i osgoi baich ffioedd llogi uchel, cymhlethdodau cyfreithiol a rhwystrau diogelwch.
 
Ar hyn o bryd, mae cynnig rhagarweiniol sydd ar gael tan ddiwedd mis Medi 2024 i fusnesau logi stondin dros dro am ddim ond £5 y dydd (£15 ar ddydd Sadwrn) fel cyfle i brofi'r farchnad adwerthu heb y baich ariannol ychwanegol o redeg eich safle eich hun. Yr oriau masnachu yw 10am-4pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.
 
Gyda hyblygrwydd llwyr o ran llogi stondinau, dim angen isafswm contract nac ymrwymiad parhaus, mae opsiwn i logi stondin am un diwrnod, un diwrnod yr wythnos, dau ddiwrnod yr wythnos, unwaith y mis, dau ddiwrnod y mis – mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd!
 
Hefyd, mae modd llogi gofod PopUp Wales ym Margod ar gyfer digwyddiadau neu weithdai am £15 yr awr (gan gynnwys TAW). Mae gofod cydweithio hefyd ar gael am £5 y dydd (gan gynnwys TAW).
 
I fynegi diddordeb mewn llogi stondin adwerthu dros dro, neu i holi am ddefnyddio'r gofod ar gyfer digwyddiadau a gweithdai, cysylltwch â info@popupwales.com neu ffonio +44 (0) 1792 721725
 
Mae rhagor o wybodaeth am PopUp Wales ym Margod yma.


Ymholiadau'r Cyfryngau