News Centre

Miloedd yn mwynhau'r digwyddiad newydd Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod

Postiwyd ar : 19 Gor 2024

Miloedd yn mwynhau'r digwyddiad newydd Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod
Ar ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, cafodd canol tref Bargod ei drawsnewid ar gyfer cynnal Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod, am y tro cyntaf erioed, gyda miloedd o bobl yn tyrru tuag at y dref i weld a gwrando ar y detholiad enfawr o gerddorion.
 
Roedd gan yr ŵyl fywiog sawl ardal berfformio, gan gynnwys prif lwyfan ac ardaloedd cerddoriaeth, ac roedd pawb wedi mwynhau pob un ohonyn nhw. Doedd y tywydd ddim ar ei orau, ond wnaeth hyn ddim atal y torfeydd rhag cael amser gwych.
 
Fe wnaeth llawer o leoliadau canol y dref gymryd rhan yn y digwyddiad. Roedd y prif lwyfan ar Lowry Plaza, yn ogystal â phedair ardal gerddoriaeth yn Llyfrgell Bargod, The Square Royale, Bourton's Live Music Café Bar a Murray's/Emporium Snooker Club. Ymhlith y perfformwyr roedd Albino Frogs, Ruby Kay, a'r sêr The Pandas ar y prif lwyfan, yn ogystal â'r brodorion o Fargod David Tasker, Garin Fitter, Côr Ysgol Santes Gwladys a Chôr Meibion Bargod.
 
Hefyd i'w mwynhau yn y digwyddiad roedd nifer o stondinau bwyd, diod a chrefft, Ffair Grefftau a Marchnad Crafty Legs, reidiau ffair, gweithgareddau yn Llyfrgell Bargod, ac ymweliad gan Mario, Stitch a CoComelon.
 
Dyma'r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am yr ŵyl:
 
Dywedodd Paul Strinati o The New Continental Café, “Digwyddiad da iawn, prysur iawn, ac roedd yn wych gweld pobl yn y dref a llawer o wynebau newydd. Daeth y digwyddiad â phobl i mewn i'r dref. Fe wnaeth y siopau aros ar agor yn hwyrach yn y prynhawn ac roedd pobl o gwmpas drwy'r dydd. Roedd hynny'n fendigedig.”
 
Dywedodd Jude Voyle o Barnardo's, “Digwyddiad llwyddiannus unwaith eto ar gyfer y dref, sydd ei angen arnon ni yn fawr. Mae'n wych gweld Bargod ar y map, a daeth y gymuned i gyd allan i'n cefnogi ni a oedd yn wych!”
 
Dywedodd Crafty Legs Events, “Am ddigwyddiad newydd anhygoel ar gyfer Bargod, gydag ysbryd cymunedol ffantastig a fydd yn parhau i dyfu bob blwyddyn. Rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o'r diwrnod gwych hwn!”
 
Dywedodd La Bamba Barbershop hefyd, “Waw, waw, waw. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi torri fy record o ran enillion am ddydd Sadwrn. Rydyn ni'n gobeithio y gall hwn fod yn ddigwyddiad parhaus yn y dref yn y dyfodol agos. Roedd y dref yn drydanol. Diolch gan La Bamba Barbershop am ddod â bywyd yn ôl i'r dref.”
 
Dywedodd Russell Sorrell o The Square Royale hefyd, “Roedd cwsmeriaid wrth eu bodd a dyma'r diwrnod perfformio gorau, o ran enillion, ers digwyddiad mis Mai 2023.”
 
Dywedodd Emporium Snooker Club/The Snooks, “Hoffem ni ddiolch i chi am yr ŵyl! Roedd yn wych gweld y dref yn fyw, yn llawn aelodau o'r gymuned a chymunedau cyfagos yn dod hefyd. Wynebau dydyn ni ddim wedi eu gweld o'r blaen, roedd yn wych!”
 
Dywedodd Greggs Bargod, “Diwrnod penigamp! Cawson ni amser gwych, roedden ni i gyd wedi gwisgo i fyny, yn canu ac yn dawnsio, gyda'r cwsmeriaid yn cymryd rhan hefyd. Diwrnod gwych!”
 
Os hoffai unrhyw artistiaid gofrestru eu diddordeb mewn perfformio yn nigwyddiad y flwyddyn nesaf, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk i gael eich ychwanegu at gronfa ddata'r Tîm Digwyddiadau. Rhaid i bartïon â diddordeb fod ag yswiriant atebolrwydd.


Ymholiadau'r Cyfryngau