Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel llawer o awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, yn wynebu her ariannol enfawr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn mantoli’r gyllideb.
Mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau arbedion o tua £45 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf ac mae hyn ar ben yr £20 miliwn o arbedion parhaol sydd eisoes wedi'u nodi.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Ni allwn ni barhau i redeg ein gwasanaethau yn y ffordd arferol. Mae angen i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau'n wahanol."
"Rydw i am fod yn onest â’r gymuned, oherwydd mae'n amlwg bod maint yr arbedion yn golygu bod angen i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf."
Bydd y Cyngor yn ymgynghori ar nifer o gynigion allweddol a fydd, os ydyn nhw'n cael eu cytuno, yn helpu i gyflawni arbedion sylweddol:
Sefydliad y Glowyr, Coed Duon – Mae'r cyngor yn cynnig tynnu ei gymhorthdal yn ôl, a allai weld y lleoliad yn cau ddiwedd mis Rhagfyr 2024. Byddai'r awdurdod wedyn yn archwilio opsiynau i redeg y cyfleuster mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn darparu cymhorthdal o £347,000 y flwyddyn i redeg Sefydliad y Glowyr Coed Duon.
Maenordy Llancaiach Fawr – Mae’r Cyngor yn cynnig cau'r lleoliad ddiwedd mis Rhagfyr 2024 a bydd yn archwilio opsiynau i redeg y cyfleuster mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn darparu cymhorthdal o £485,000 y flwyddyn i redeg y lleoliad.
Gwasanaeth Prydau Prydlon – Mae'r Cyngor yn gwneud cynnig i roi'r gorau i ddarparu ei wasanaeth prydau i gartrefi ddiwedd mis Tachwedd 2024 a byddai'n cynorthwyo defnyddwyr presennol i gael mynediad at ddarparwyr eraill sy'n gallu cynnig lefel tebyg o wasanaeth. Byddai'r awdurdod hefyd yn cau ei gyfleusterau arlwyo staff yn ei bencadlys yn Nhŷ Penallta. Ar hyn o bryd, y gost i'r Cyngor o ddarparu'r gwasanaeth bob blwyddyn yw tua £444,000.
“Mae gennym ni ddyletswydd i amddiffyn pwrs y wlad, felly byddwn ni'n edrych ar amrywiaeth o opsiynau arbed, yn enwedig gwasanaethau sy’n destun cymhorthdal uchel, sy’n anstatudol neu sy'n gallu cael eu darparu mewn ffordd wahanol.”
“Rydw i am sicrhau bod gan drigolion lais yn y broses hon, felly bydd cyfleoedd i gymryd rhan a dweud eich dweud wrth i ni ystyried yr opsiynau hyn. Mae'n hanfodol bwysig eich bod chi'n cymryd rhan yn y broses hon i helpu llunio'r ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau yn y dyfodol,” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.
Bydd yr ymgynghoriad yn weithredol o 30 Gorffennaf hyd at 10 Medi 2024, sef cyfnod o 6 wythnos. Gallwch chi weld y dogfennau ymgynghori a’r arolwg ar-lein, a dod o hyd i ble mae’r sesiynau galw heibio ar gyfer pob un o’r ymgynghoriadau yma
Blackwood Miners’ Institute and Llancaiach Fawr:
Meals Direct: