News Centre

Hyfforddiant ‘gwyrdd’ am ddim i landlordiaid preifat Caerffili

Postiwyd ar : 19 Gor 2024

Hyfforddiant ‘gwyrdd’ am ddim i landlordiaid preifat Caerffili
Mae modd i landlordiaid preifat sydd ag eiddo ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wneud cais am hyfforddiant ‘sgiliau gwyrdd’ am ddim.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig hyfforddiant i helpu landlordiaid i roi atebion ynni gwyrdd ar waith i wella perfformiad amgylcheddol ac economaidd eu heiddo.
 
Drwy fanteisio ar yr hyfforddiant rhad ac am ddim hwn, gall landlordiaid:
  • Cael mewnwelediadau manwl i dechnolegau ynni gwyrdd ac arferion cynaliadwy.
  • Dysgu sut i leihau costau ynni a gwella effeithlonrwydd eiddo.
  • Bod ar y blaen i newidiadau rheoleiddiol a gwella gwerth hirdymor eu buddsoddiadau.
  • Chwarae rhan hanfodol wrth leihau allyriadau carbon a chyfrannu at amgylchedd iachach.
 
Mae modd i landlordiaid gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael a mynegi eu diddordeb drwy gysylltu â Carolyn Beddis, Rheolwr Cyflogaeth, ar 07789 374807 neu drwy e-bostio BeddiC@caerffili.gov.uk erbyn dydd Gwener 2 Awst.
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau