News Centre

Cyngor Caerffili yn ystyried newidiadau i gludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Postiwyd ar : 18 Gor 2024

Cyngor Caerffili yn ystyried newidiadau i gludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystyried gwneud newidiadau i'w bolisi presennol o ran cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a'r coleg.

Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae nifer o wasanaethau'n cael eu hadolygu er mwyn sicrhau arbedion ac effeithlonrwydd.

Ar hyn o bryd, mae costau cludiant ysgol yn dod i gyfanswm o dros £10.7 miliwn y flwyddyn ac mae Caerffili ymhlith yr awdurdodau lleol olaf yng Nghymru i ddarparu lefel uwch o gludiant yn ôl disgresiwn, ymhell uwchlaw gofynion statudol Llywodraeth Cymru.

Bydd Cabinet y Cyngor yn cwrdd yr wythnos nesaf (dydd Mercher 24 Gorffennaf) i ystyried lansio ymgynghoriad ym mis Medi ynghylch addasu'r polisi cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a'r coleg. Pe bai'n cael ei gytuno, byddai'r polisi newydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2026.

Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar newid i'r pellter lleiaf statudol, sef 2 filltir ar gyfer plant ysgolion cynradd (1.5 milltir ar hyn o bryd) a 3 milltir ar gyfer plant ysgolion uwchradd (2 filltir ar hyn o bryd).

Byddai'r posibilrwydd o ddileu'r elfen milltiredd yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth prif ffrwd yn ei chysoni â meini prawf pellter statudol Llywodraeth Cymru, gan arwain at arbedion blynyddol gwerth hyd at £1.5 miliwn.

Bydd yr addasiadau arfaethedig yn dal i olygu'r canlynol:

  • Bydd dysgwyr yn parhau i allu dewis eu hysgol ‘berthnasol’ yn unol â'u dewis o ysgol Saesneg, ysgol Gymraeg neu ysgol ffydd.
  • Bydd darparu cludiant ar gyfer plant o dan oedran ysgol statudol (yn dibynnu ar nifer y seddi sbâr yn y cerbyd) neu ar gyfer plant mewn addysg ôl-16 yn parhau.
  • Bydd darparu cludiant ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn parhau. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor, “Mae cyllideb cludiant y Cyngor o dan bwysau sylweddol a ni yw un o'r cynghorau olaf yng Nghymru i gynnig polisi milltiredd yn ôl disgresiwn mwy hael.

“Mae'r newidiadau arfaethedig hyn wedi cael eu hystyried yn ofalus, ond mae'n bwysig ein bod ni'n ymgynghori â'r rhai sy'n cael eu heffeithio ac yn ystyried barn y gymuned yn llawn cyn i ni gytuno ar unrhyw newidiadau yn y dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ar gyfer y Cabinet, yma. 


 


Ymholiadau'r Cyfryngau