Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Gorffennaf 2024
Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau Llunio Lleoedd
News Centre
Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau Llunio Lleoedd
Postiwyd ar : 26 Gor 2024
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo adroddiad i ddyrannu rhagor o gyllid tuag at ei raglen Llunio Lleoedd uchelgeisiol.
Nod rhaglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor yw gwella isadeiledd a chyfleusterau cymunedol lleol trwy ei raglen Llunio Lleoedd uchelgeisiol, sy’n rhan o waith trawsnewid ehangach Mwstro Tîm Caerffili.
Mae'r fenter hon yn canolbwyntio ar gyflawni prosiectau cyfalaf hanfodol, gyda'r nod o greu cymunedau ffyniannus a datblygu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Yn benodol, mae’r Cabinet bellach wedi cytuno i ddefnyddio £9.21 miliwn o gyllid cyfalaf heb ei ddyrannu i gynorthwyo gwaith datblygu nifer o brosiectau cyffrous, gan gynnwys:
Ysgol Gynradd Plasyfelin
Ysgol y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf
Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon
Caerffili 2035 – Cymorth Amlddisgyblaethol
Cynllun Creu Lleoedd Bargod
Cynllun Creu Lleoedd Coed Duon
Caerffili 2035 – Ffrwd Waith yr Ardal Gwesty a Hamdden
Edward Street, Ystrad Mynach, Lliniaru Llifogydd
Van Road, Lliniaru Llifogydd
Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd
Mae manylion llawn y prosiectau hyn yn yr
adroddiad llawn
.
Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo bod £7.2 miliwn yn rhagor o gyfalaf heb ei ddyrannu yn cael ei neilltuo fel arian wrth gefn ar gyfer y rhaglen gyfalaf gyffredinol. Bydd yr arian hwn yn diogelu'r gallu i gyflawni'r prosiectau hyn wrth iddyn nhw symud ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Mae rhaglen Llunio Lleoedd y Cyngor yn rhaglen buddsoddi cyfalaf uchelgeisiol a fydd yn darparu cyfleusterau allweddol i’n cymunedau ni eu defnyddio.
"Bydd y prosiectau hyn yn dod ag amrywiaeth o fanteision i'n cymunedau ni ledled y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys ysgolion, tai a chyfleusterau chwaraeon newydd.
"Wrth wynebu pwysau ariannol digynsail, mae angen i ni wneud y mwyaf o’n hadenillion posibl o fuddsoddi. Bydd y cyfraniad hwn o £9 miliwn yn denu buddsoddiad gwerth cyfanswm o dros £27 miliwn, diolch i drefniadau arian cyfatebol allanol hael. Mae’n amlwg ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'r bunt yng Nghaerffili drwy ein strategaeth buddsoddi cyfalaf uchelgeisiol.
"Bydd yr adroddiad rydyn ni wedi’i gymeradwyo yn sicrhau y bydd ein buddsoddiad yn dod â'r adenillion mwyaf posibl i’n trigolion ni yn y blynyddoedd i ddod.”
I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i:
https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s49695/Cabinet%20Report%20-%20Place%20Shaping%20003.pdf?LLL=1
I gael rhagor o wybodaeth am raglen Mwstro Tîm Caerffili, ewch i:
www.caerffili.gov.uk/my-council/mobilising-team-caerphilly?lang=cy-gb
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Dull Byw Hamdden yn dathlu aelodau hirdymor fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol
Gwasanaeth Prydau Prydlon i barhau
Gŵyl Fwyd gyntaf Rhisga yn llwyddiant ysgubol
Canolfan Hamdden Heolddu yn cyflwyno hyfforddiant achub bywydau fforddiadwy ar gyfer cyfleoedd gyrfa newydd.
Busnesau lleol ym Mharc Busnes a Thechnoleg Tredomen yn cael hwb ffibr llawn gan Ogi
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y