News Centre

Proses gwneud cais bellach ar agor ar gyfer Cynllun Grantiau Bach Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2024.

Postiwyd ar : 04 Gor 2024

Proses gwneud cais bellach ar agor ar gyfer Cynllun Grantiau Bach Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2024.
Mae Chwarae Caerffili yn falch iawn o gyhoeddi bod y broses gwneud cais bellach ar agor ar gyfer Cynllun Grantiau Bach Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2024.  Gall lleoliadau cymwys wneud cais am grant o hyd at £250 i gynnal digwyddiadau sy’n dathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun, 5 Awst, gyda Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ei hun ddydd Mercher, 7 Awst.

Mae'r cyfle grant hwn ar gael i warchodwyr plant, darparwyr yn y sectorau preifat a gwirfoddol, a lleoliadau nas cynhelir sy'n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau a chlybiau gofal plant y tu allan i’r ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.  Os yw darparwr yn gweithredu lleoliadau cofrestredig lluosog yn y Fwrdeistref Sirol, rhaid gwneud ceisiadau unigol ar gyfer pob lleoliad. Nid oes modd trosglwyddo arian rhwng prosiectau.

Rhaid i ymgeiswyr esbonio budd y grant yn glir i'r lleoliad ac i'r plant. Rhaid cynnal digwyddiadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn ddydd Llun, 5 Awst. Os yw’r ymgeisydd yn darparu gwasanaeth newydd ac nad yw wedi’i gofrestru ar Dewis ar hyn o bryd, rhaid iddo ymrwymo i gofrestru. Rhaid dangos cydymffurfiad â Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd).  Mae’n rhaid i bob aelod o staff gael gwiriadau Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd dilys a chlir, a rhaid cadarnhau bod polisi diogelu gyda staff allweddol sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Mae angen asesiadau o risgiau a manteision darpariaethau chwarae, a rhaid cynnig digwyddiadau am ddim neu am ffi enwol (hyd at £1). Rhaid cydnabod y grant mewn unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo sy'n cael eu hanfon at rieni, a rhaid darllen, derbyn, a llofnodi telerau ac amodau safonol y grant.

Bydd y grant yn blaenoriaethu lleoliadau sy’n darparu cyfleoedd chwarae o safon i blant 4-12 oed, rhai sy’n cynnig cyfleoedd i blant gymdeithasu, cael hwyl, bod yn actif, neu ddysgu rhywbeth newydd, digwyddiadau sy’n cynnig byrbrydau a diodydd iach, lleoliadau dielw, a'r rhai sydd â staff gweithwyr chwarae hyfforddedig. Gallwch chi ddefnyddio’r grant ar gyfer gweithgareddau ac adnoddau sy’n ysbrydoli plant i ail-greu thema Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2024, “Chwarae – diwylliant plentyndod yn hyrwyddo chwarae, hwyl a chyfeillgarwch,” ac ar gyfer bwyd a diodydd iach ar gyfer y digwyddiad.

Fodd bynnag, nid oes modd defnyddio'r grant ar gyfer costau staff megis cyflogau, hyfforddiant, teithio, na chynhaliaeth, bwyd sothach, melysion a danteithion nad yw'n iach, biliau cyfleustodau, neu gostau yswiriant. Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu a'u sgorio gan banel, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn dydd Iau, 18 Gorffennaf. Rhaid defnyddio'r grant ar gyfer eitemau cymeradwy sydd wedi'u hamlinellu yn y cais yn unig, a bydd camddefnyddio arian yn arwain at ad-daliad.

Rhaid cyflwyno pob cais a thystiolaeth ategol erbyn dydd Gwener, 12 Gorffennaf am 12pm. Gall ceisiadau hwyr neu anghyflawn gael eu gwrthod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, Laura Williams ar Willil17@caerffili.gov.uk.

Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn ddathliad blynyddol sy’n annog plant i fwynhau chwarae, gan hyrwyddo ei bwysigrwydd ar gyfer eu datblygiad, eu hiechyd a’u lles. Mae thema 2024, “Chwarae – diwylliant plentyndod yn hyrwyddo chwarae, hwyl a chyfeillgarwch,” yn amlygu rôl chwarae wrth feithrin perthnasoedd a llawenydd ym mywydau plant.
 
Cysylltwch â:
Laura Williams
Swyddog Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Willil17@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau