News Centre

Dweud eich dweud ar yr adolygiad o'r Datganiad Polisi Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005

Postiwyd ar : 27 Awst 2024

Dweud eich dweud ar yr adolygiad o'r Datganiad Polisi Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ynghylch adolygu'r Datganiad Polisi Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005.
 
Mae'n ofynnol i'r Awdurdod ymgynghori ynghylch diwygio'r Datganiad Polisi Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005 bob tair blynedd.
 
Mae'r Polisi Gamblo yn rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr a deiliaid trwydded ac yn manylu ar y dull sy'n cael ei ddefnyddio gan yr Awdurdod Trwyddedu wrth ystyried ceisiadau newydd a disgwyliadau deiliaid trwydded presennol o dan y Ddeddf Gamblo.
 
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ddydd Gwener 23 Awst a bydd yn dod i ben ddydd Mawrth 24 Medi, sef cyfnod o bedair wythnos. Llenwch yr arolwg ar-lein neu, fel arall, mae modd darparu copïau papur ar gais.
 
Bydd y canfyddiadau'n cael eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu a Gamblo yn yr hydref, gyda'r bwriad o'u gosod nhw gerbron y Cyngor Llawn ar gyfer penderfyniad ym mis Ionawr 2025.


Ymholiadau'r Cyfryngau