Archif Newyddion

Chwilio Newyddion

Archif Newyddion
Yn anffodus, mae'r rhybudd tywydd melyn presennol ar gyfer gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn yn golygu mai'r unig ddewis yw canslo'r digwyddiad oherwydd pryderon am ddiogelwch.
O ddydd Llun 29 Tachwedd 2021, nid oes angen i gwsmeriaid y llyfrgell drefnu apwyntiad ar gyfer ymweld ag adeiladau'r llyfrgelloedd ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae mannau problemus o ran taflu sbwriel ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu glanhau'n llwyddiannus gan wirfoddolwyr.
Rydym yn gofyn i drigolion ledled Gwent gymryd rhan a chefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn ddydd Iau 25 Tachwedd. Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig. Eleni, rydym yn gofyn i drigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol ymrwymo i'r #Her30 i godi...
Mae dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s yn ddosbarthiadau hwyliog ac anffurfiol a gynhelir gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) as English National Ballet (ENB), sydd wedi'u profi i ddatblygu hyder a chryfder, gan leddfu dros dro symptomau bob dydd i rai cyfranogwyr.
Mae Lisa Williams, clerc ysgol yn Ysgol Gynradd Glyn-Gaer wedi derbyn Gwobr Staff Ysgol Wythnos Gwrth-Fwlio Cymru.