Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Canlyniadau'r Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2023
IAE Hire: Busnes wedi'i gynorthwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth symud o Hong Kong i G
News Centre
IAE Hire: Busnes wedi'i gynorthwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth symud o Hong Kong i Gaerffili
Postiwyd ar : 20 Ebr 2023
IAE Hire yw busnes sy'n cyflenwi, llogi a chynhyrchu systemau sgaffaldwaith i'w llogi gan fusnesau a defnyddwyr cyffredin. Symudodd perchennog y busnes, Michael Wong, a'i gyd-weithiwr Ben Williams i'r uned fusnes Tŷ Du ym mis Awst 2022 ar ôl cael ei leoli yn Hong Kong yn wreiddiol.
Y llynedd, roedd ochr cynhyrchi'r busnes wedi bod yn gweithredu am dros 16 mlynedd yn Hong Kong, gyda dros 150 o weithwyr. Nawr, mae yna gynlluniau i ddatblygu cynhyrchiad yn y wlad hon. Datblygiad pwysig i'w busnes yw hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r cyfarpar a chadw'r genedl yn ddiogel wrth fod i fyny'n uchel. Mae IAE Hire wedi datblygu dyluniadau er mwyn i blatfformau sy’n cynnal llwythau gael eu defnyddio ar gyfer storio a chael mynediad hawdd at nwyddau wrth weithio i fyny’n uchel. Maen nhw hefyd wedi cael danfoniad o dri chynhwysydd llawn nwyddau newydd wneuthuredig yn ddiweddar.
Bydd y busnes am apwyntio prentisiaid cyn bo hir, yn ogystal â recriwtio ar gyfer rolau gwerthiannau a chyfrifyddu.
Aeth Grŵp yr Economi, y Trysorlys a'r Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gyntaf yn 2022 i gynorthwyo'r busnes a oedd yn ail-leoli i Gaerffili.
Roedd Sarah Gaze, Swyddog Cymorth Masnach Ryngwladol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi'u helpu nhw i symud yma, dod yn aelod o Glwb Busnes Caerffili, helpu gyda chyfleoedd rhwydweithio (megis yr Hwb Adeiladu), a chyfleoedd allforio tu hwnt i Gymru. Mae Sarah hefyd wedi bod yn ffynhonnell werthfawr i ddarparu gwybodaeth a chymorth gyda mewnwelediad am gyfleoedd i gael grantiau yn y dyfodol i ddatblygu eu systemau gwerthiannau ar-lein, recriwtio a hyfforddi aelodau staff newydd. Mae Adam Sadler, Prif Swyddog Datblygu Busnes o'r Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, hefyd wedi gweithio'n agos â nhw.
Meddai Ben Williams, o IAE Hire, "Mae'r buddion o'r Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu wedi bod yn anferth. O'r sefydlogrwydd i fasnachu, y rhwydweithio gyda grwpiau a busnesau lleol, cymorth gyda chael gwybodaeth am grantiau, cyfleoedd ynglŷn â digwyddiadau ac arddangosfeydd, mae Sarah ac Adam wedi bod yna i'n helpu ni pontio'r bwlch i weithio mewn gwlad newydd ac i dyfu ein busnes."
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Proses gwneud cais bellach ar agor ar gyfer Cynllun Grantiau Bach Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2024.
Cyrtiau Tennis Parc Caerffili yn Ailagor Ar ôl Gwaith Adnewyddu
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y