Etholiadau Cynghorau Tref a Chymuned

Cyngor Tref Bargod - Ethol Cynghorwyr ar gyfer y Wardiau a restrir isod

Ward

Nifer y Cynghorwyr i’w hethol

Bargod

2

Hysbysiadau Etholiadol

Gellir cyflwyno papurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau yn Nhŷ Bargod, 1 Ffordd Sant Gwladys, Bargod CF81 8AB ar unrhyw ddiwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10.00am a 4.00pm (ac eithrio gwyliau banc), ond erbyn 4pm ar 19 Gorfennaf, 2024. 

Fel arall, gellir cyflwyno papurau enwebu drwy e-bost i enwebiadau@caerffili.gov.uk erbyn 4pm ar 19 Gorfennaf, 2024. Dylai ffeiliau fod ar ffurf naill ai PDF neu JPEG, a nodwch enw'r ardal yr ydych yn ymgeisydd ynddi yn llinell pwnc y neges. Mae'r cyfeiriad hwn ar gyfer cyflwyno ffurflenni ffurfiol yn unig; i drefnu gwiriad anffurfiol, cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol.

Noder: Cyfrifoldeb ymgeiswyr yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn derbyn ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir erbyn y terfynau amser gofynnol.

Nid yw derbynneb electronig o brawf bod cais wedi ei ddarllen gan y Swyddog Canlyniadau yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad i hysbysu ymgeiswyr o'r penderfyniad ynghylch a yw eu henwebiad yn ddilys ai peidio.

Gellir cael papurau enwebu gan swyddfeydd y Swyddog Canlyniadau yn Nhŷ Bargod, 1 Ffordd Sant Gwladys, Bargod CF81 8AB yn ystod yr oriau uchod. Fel arall, gellir lawrlwytho set oddi ar www.caerffili.gov.uk

Os ymleddir unrhyw etholiad, cynhelir yr etholiad ar ddydd Iau 15 Awst rhwng 7am a 10pm.

Rhaid i geisiadau, newidiadau neu achosion o ganslo pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Nhŷ Bargod, 1 Ffordd Sant Gwladys, Bargod CF81 8AB erbyn 5pm ar 31 Gorfennaf, 2024.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Nhŷ Bargod, 1 Ffordd Sant Gwladys, Bargod CF81 8AB  erbyn 5pm ar 7 Awst, 2024.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn ar sail anabledd, am resymau gwaith/gwasanaeth neu'r angen i gydymffurfio â deddfiad neu ganllawiau gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r coronafeirws gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Nhŷ Bargod, 1 Ffordd Sant Gwladys, Bargod CF81 8AB  erbyn 5pm ar 15 Awst. Rhaid bod yr anabledd wedi digwydd ar ôl 5pm ar 7 Awst, 2024. I wneud cais ar sail gwaith/gwasanaeth neu'r coronafeirws, rhaid bod y person wedi dod yn ymwybodol na all fynd i'r orsaf bleidleisio yn bersonol ar ôl 5pm ar   7 Awst, 2024.

  • Dave Street - Swyddog Canlyniadau (Dros Dro)
  • Dyddiad - 9 Gorgennaf 2024

Argraffwyd a chyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau, Tŷ Bargod, 1 Ffordd Sant Gwladys, Bargod CF81 8AB