Etholiad Cyffredinol 2024

Bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 4 Gorffennaf 2024.

Yn dilyn Adolygiad Cyfnodol 2023 o etholaethau San Steffan, yr etholaethau newydd yng Nghaerffili yw:

  • Blaenau Gwent a Rhymni
  • Caerffili
  • Gorllewin Casnewydd ac Islwyn

Amserlen digwyddiadau allweddol

Digwyddiad

Date

Hysbysiad o Etholiad

3 Mehefin 2024

Anfon cardiau pleidleisio

7 Mehefin 2024

Dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau

7 Mehefin 2024 (4pm)

Cyhoeddi datganiad am y bobl a enwebwyd

7 Mehefin 2024 (5pm)

Anfon pleidleisiau drwy’r post

17 Mehefin 2024

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio

18 Mehefin 2024

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais post

19 Mehefin 2024 (5pm)

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy

26 Mehefin 2024 (5pm)

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr

26 Mehefin 2024 (5pm)

Diwrnod pleileisio  

4 Gorffennaf 2024 (7am to 10pm)

Dilysu a’r cyfrif  

4 Gorffennaf 2024 (10pm)

Hysbysiadau Etholiadol

Etholaeth Caerffili

Tholaeth Gorllewin Casnewydd ac Islwyn

Cofrestru i bleidleisio

Er mwyn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol mae'n rhaid i chi:

  • fod wedi cofrestru i bleidleisio
  • yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad ('diwrnod pleidleisio')
  • bod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu cymwys o'r Gymanwlad 
  • bod yn preswylio mewn cyfeiriad yn y DU neu’n byw dramor ac wedi cofrestu fel pleidleisiwr tramor
  • peidio â chael eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein: Cofrestru i bleidleisio

Y dyddiad cau i gofrestru yw hanner nos, nos Fawrth 18 Mehefin 2024.

Os nad ydych yn siŵr a ydych eisoes wedi'ch cofrestru i bleidleisio, cysylltwch â'r swyddfa gwasanaethau etholiadol:

Pleidleisio drwy'r post

Os oes angen i chi bleidleisio drwy'r post yn yr etholiad hwn, ewch i wefan Pleidleisio drwy'r post i wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r post, neu i ganslo neu newid pleidlais drwy'r post bresennol yn yr etholiad hwn yw 5pm dydd Mercher 19 Mehefin 2024.  

Rheolau newydd ar gyfer trafod pleidleisiau drwy'r post

Mae rheolau newydd wedi'u cyflwyno ynghylch trafod pleidleisiau drwy'r post:

  • bydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy'r post y gall person gyflwyno'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor
  • bydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy'r post y gall person gyflwyno'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor
  • os yw person yn cyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwyr eraill, gwrthodir yr holl bleidleisiau drwy'r post (ac eithrio pecyn y person ei hun)
  • bydd angen i unrhyw un sy'n cyflwyno pleidleisiau drwy'r post yn bersonol gwblhau ffurflen 'dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post'.
  • felly, ni allwn dderbyn pleidleisiau drwy'r post sy'n cael eu gadael yn y blwch llythyrau yn swyddfeydd y cyngor mwyach
  • bydd unrhyw bleidleisiau drwy'r post sy'n cael eu gadael mewn unrhyw un o adeiladau'r cyngor heb fod y ffurflen 'dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post' wedi'i llenwi yn cael eu gwrthod
  • byddem felly'n argymell bod pleidleisiau drwy'r post yn cael eu dychwelyd atom drwy'r Post Brenhinol cyn gynted â phosib cyn y diwrnod pleidleisio

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os hoffech i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad hwn, ewch i Pleidleisio drwy ddirprwy i wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm, ddydd Mercher 26 Mehefin 2024. 

Os, ar ôl 5pm ar 26 Mehefin, y cewch eich hun mewn sefyllfa lle na allwch bleidleisio'n bersonol, oherwydd rhesymau gwaith neu feddygol, gall fod hawl gennych i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth. 

Hunaniaeth Pleidleisiwr

Mae hi bellach yn ofyniad i gyflwyno dull adnabod sy'n cael ei dderbyn wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y mathau o ddulliau adnabod sy'n cael eu derbyn, ewch i'n tudalen ID pleidleisiwr