Hysbysiad O Etholiad - Caerphilly
Etholiad Seneddol y DU
Ar gyfer etholaeth Caerffili
-
Bydd etholiad yn cael ei gynnal ar gyfer Aelod Seneddol i wasanaethu etholaeth Caerffili.
-
Gellir cael papurau enwebu o swyddfa'r Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB, yn ystod yr amserau a nodir isod.
-
Mae'n rhaid i'r papurau enwebu gael eu danfon i'r Swyddog Canlyniadau (Dros Dro) yn Nhŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB ar unrhyw ddiwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm (ac eithrio gŵyl y banc) ond heb fod yn hwyrach na 4pm ar 7 Mehefin 2024.
-
Gellir talu’r ernes o £500 drwy dendr cyfreithiol, drwy ddrafft banc gan dynnwr sy’n cynnal busnes fel banc yn y Deyrnas Unedig neu, os yw'r Swyddog Canlyniadau yn cytuno ymlaen llaw, drwy drosglwyddiad electronig.
-
Os oes rhaid cystadlu am sedd yn yr etholiad, bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar 4 Gorffennaf 2024.
-
Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn canol nos ar 18 Mehefin 2024.
-
Mae'n rhaid i geisiadau newydd i bleidleisio drwy'r post, a hysbysiadau ar gyfer diwygio neu ganslo trefniadau pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy presennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB erbyn 5pmar 19 Mehefin 2024.
-
Mae'n rhaid i geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw ddilys ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar 26 Mehefin 2024. Gellir cyflwyno cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar-lein: www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr.
-
Mae'n rhaid i geisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB erbyn5pm ar 26 Mehefin 2024.
-
Mae'n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB erbyn 5pm ar 4 Gorffennaf 2024.
Dyddiad: 3 Mehefin 2024
Dave Street - Swyddog Canlyniadau (Dros Dro)
Argraffwyd a chyhoeddwyd gan y Swyddog Canlyniadau (Dros Dro) Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB ar 3 Mehefin 2024.