Strategaeth digartrefedd Gwent
Mae atal a datrys digartrefedd yn parhau’n flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae'n ofynnol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal adolygiad digartrefedd a chan ddefnyddio’r canlyniadau a geir drwy hynny, lunio strategaeth digartrefedd pedair blynedd i fod ar waith erbyn 31 Rhagfyr 2018 (gweler adrannau 50-52 y Ddeddf). Mae’r ddogfen hon yn adolygu digartrefedd yn ardaloedd pum awdurdod lleol:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae pob un o’r pum awdurdod wedi cydweithio i gymryd ymagwedd ranbarthol a lleol at y gwaith hwn. Yn ogystal â gwneud gwell defnydd o adnoddau, disgwylir i olwg ehangach greu rhagor o gyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol, gan gefnogi cysondeb a safon wrth ddarparu gwasanaethau digartrefedd ar draws y rhanbarth.
Strategaeth digartrefedd Gwent 2018 - 2022
Adolygiadau digartrefedd Gwent 2018