Ton y Felin 

  • Rhif: -
  • Ffordd/Ffyrdd: Brynffynnon, Ton y Felin
  • Tref: Croespenmaen
  • Cod post: NP11 3EQ

Manylion yr eiddo dan sylw

  • Landlord/Landlordiaid - Pobl
  • Nifer - 6 fflat ag un ystafell wely

Rheswm dros wneud cais am bolisi gosod tai lleol

Mae Pobl am lunio polisi gosod tai lleol ar gyfer pob eiddo sy'n cael ei osod yn y dyfodol yn natblygiad Brynffynnon a fydd yn ein galluogi ni i greu cymuned gytbwys a chynaliadwy ac, felly, yn cynnig bod cymysgedd o ymgeiswyr â llai o flaenoriaethau ac anghenion mawr yn cael eu hystyried.

Gallai dyrannu ar sail yr angen yn unig arwain at grynhoad uchel o bobl ag anghenion cymorth, a allai effeithio ar gydbwysedd/cytgord yr ystâd.

Oherwydd lleoliad y safle, mae'n ymddangos y gallai ymgeiswyr sydd â phroblemau symudedd difrifol, neu sydd heb fynediad at gludiant personol, fynd yn ynysig.

Crynodeb o'r sylfaen dystiolaeth i ategu'r polisi gosod tai lleol

Yn aml, mae heriau unigryw wrth greu ymdeimlad o gymuned mewn datblygiadau newydd. Yn ystod y 12 mis cyntaf, yn aml, mae cyfradd uwch na'r cyfartaledd o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a mwy o alw gan denantiaid am wasanaethau rydyn ni'n eu darparu fel landlord. Gall polisi gosod tai lleol helpu ein dyhead i greu cymuned gydlynus a chynaliadwy lle bydd pobl yn ffynnu ac eisiau byw yno yn y tymor hir.

Byddai lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ystâd newydd yn effeithio ar y gymuned leol a Pobl, ac ar ein gallu i gyflawni ein swyddogaethau rheoli tai.

Mae hefyd bryderon o ran diogelwch oherwydd bydd maes chwarae/hamdden ym mhen draw'r safle, gan arwain at ddisgwyl mawr y bydd teuluoedd gyda phlant yn symud i'r ystâd newydd.

Mae chwe fflat Pobl yn agos iawn i'r maes chwarae/hamdden, ac rydyn ni'n teimlo y bydd polisi gosod tai yn cadw'r ardal hon yn ddiogel i blant, gyda'r syniad y byddem ni'n hoffi creu cymuned gytbwys a hefyd barhau i weithio gyda Heddlu Gwent i geisio ymhellach i leihau problemau yn y gymuned.

Mae Pobl yn bwriadu cynnal digwyddiad cymunedol yn ystod y misoedd nesaf, yn y ganolfan gymunedol leol; rydyn ni'n gobeithio y bydd y gwasanaethau brys yn mynychu'r digwyddiad, ynghyd â rheolwyr diogelwch cymunedol. Bydd hwn yn gyfle i'r gymuned fynegi eu pryderon a chael cyngor ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, sut i roi gwybod amdano, ble i roi gwybod amdano ac ati. Rydyn ni'n gobeithio, yn ystod y digwyddiad hwn, ddosbarthu pecynnau diogelu rhag troseddau a fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol am sut gall y gymuned helpu lleihau troseddu yn yr ardal.

Yn ogystal â rhoi mesurau hirdymor ar waith, mae Pobl wedi gosod camerâu teledu cylch cyfyng ac offer recordio sain mewn eiddo dethol er mwyn uwchgyfeirio'r achosion lle mae gennym ni ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn rhagweld achos cyfreithiol posibl.

O ystyried yr amrywiaeth o amgylchiadau anodd y mae'r preswylwyr presennol yn eu hwynebu, rydyn ni am leihau'r risg o osod yr eiddo newydd i bobl a allai ecsbloetio'r amgylchiadau anodd hynny neu a allai darfu ymhellach ar yr ardal.

Dyma amlinelliad o sail y pryderon:

  • Ymddygiad troseddol
  • Pryderon o ran diogelwch oedolion
  • Cam-drin geiriol/aflonyddu
  • Arfau
  • Amodau mewnol eiddo yn gysylltiedig ag iechyd meddwl
  • Trais corfforol
  • Delio cyffuriau
  • Ymosodiad rhywiol 

Amcan y polisi gosod tai lleol

Bydd polisi gosod lleol yn ein galluogi ni i greu cymuned fwy cytbwys a chynaliadwy, a chynnal enw da fel landlord cymunedol. Bydd yn caniatáu i ni fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n dod i law, a hefyd yn rhoi lle i ni reoli'r problemau sy'n bodoli ar hyn o bryd wrth roi sicrwydd i drigolion a'r gymuned ein bod ni'n mynd i'r afael â'r sefyllfa.

Ein nod yw dyrannu eiddo i bobl na fydden nhw'n cynyddu trosedd nac yn gwaethygu Pobl a gwasanaethau eraill. Ein pryder ni yw, oherwydd y nifer sylweddol o ymgeiswyr gyda materion rheoli tenantiaeth a hanes posibl o droseddu a defnyddio cyffuriau, y gallai trosedd gynyddu'n sylweddol yng Nghroespenmaen a chynyddu'r llwyth gwaith i wasanaethau sydd eisoes dan bwysau yn yr ardal.

Cyfyngiadau wrth osod tai

Dim ymgeiswyr â hanes sylweddol o gamddefnyddio sylweddau o fewn y tair blynedd diwethaf.

(Camddefnyddio sylweddau yw defnyddio alcohol, cyffuriau anghyfreithlon, neu feddyginiaethau dros y cownter neu ar bresgripsiwn mewn ffordd nad ydyn nhw i fod i gael eu defnyddio ac a allai fod yn niweidiol i chi neu i bobl eraill o'ch cwmpas. Mae'r mathau mwyaf cyffredin o sylweddau caethiwus yn cael eu dosbarthu o dan chwe phrif gategori: alcohol, bensodiasepinau, cyffuriau anghyfreithlon, opiadau, tabledi cysgu, a chyffuriau adfywiol.)

Dim ymgeiswyr sydd â geirda tenantiaeth gwael yn ystod y tair blynedd diwethaf mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys os ydyn nhw wedi cael un neu ragor o'r canlynol: gwaharddeb, gorchymyn adennill meddiant, hysbysiad ceisio meddiant, hysbysiad israddio neu orchymyn israddio, hysbysiad o dan adran 21 oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, gorchymyn cau.

Mae angen i ymgeiswyr sy'n dod trwy'r system ddigartrefedd gael geirda cadarnhaol gan y tîm cyngor ar dai mewn perthynas â'u hymddygiad mewn llety dros dro.

Byddwn ni'n ystyried ymgeiswyr digartref a all fod ag anghenion ac sy'n gallu dangos eu bod nhw'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau cymorth, hynny yw, symud ymlaen neu gamu ymlaen.

Rhaid i ymgeiswyr o'r rhestr aros gyffredinol nad ydyn nhw'n gallu dangos hanes cadarnhaol o gynnal tenantiaeth ar ffurf geirda gan landlord gael naill ai:

  • Geirda cadarnhaol gan weithiwr cymorth proffesiynol perthnasol o ran ymddygiad cyffredinol; neu,
  • Geirda gan weithiwr proffesiynol arall sy'n eu hadnabod nhw ar lefel bersonol.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd sydd ag euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau treisgar, lladrad/bwrgleriaeth a/neu droseddau cyffuriau yn cael ei ystyried.

Bydd ffafriaeth hefyd yn cael ei hystyried ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau, ar yr amod bod y math o eiddo yn addas i'w hangen unigol. Bydd pob gwiriad yn cael ei gwblhau fesul achos. 

Manylion unrhyw ymgynghoriad cymunedol

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw feddianwyr eto gan nad yw'r safle wedi'i gwblhau. Fodd bynnag, rydyn ni wedi cartrefu dau deulu yn y tai â dwy ystafell wely ac â thair ystafell wely sy'n dianc rhag trais domestig ac sydd â phryder difrifol oherwydd eu profiadau a fyddai'n achosi iddyn nhw orfod symud pe bai ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dechrau yn yr ystâd.

Crynodeb o'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb

Ni fyddwn ni'n gwahaniaethu yn erbyn darpar gwsmeriaid, gan ein bod ni, fel darparwr tai cymdeithasol, yn cydnabod ei bod yn hanfodol ein bod ni'n darparu mynediad cyfartal i dai ni waeth beth fo nodweddion gwarchodedig unigolyn.

Fodd bynnag, ein nod wrth roi'r polisi gosod tai lleol ar waith yw creu cymuned gytbwys a diogel, gyda chynaliadwyedd wrth galon ein hagenda.

Ar y sail honno, bydd pob ymgeisydd yn cael ei adolygu i asesu eu haddasrwydd yn unol â'r meini prawf sydd wedi'u hamlinellu uchod fesul achos, a bydd hyblygrwydd yn cael ei arfer. Sicrhewch fod y ffurflen wedi'i llenwi cyn ei hanfon drwy e-bost diogel i'r tîm Cofrestr Tai Cyffredin ar CofrestrTaiCyffredin@caerffili.gov.uk. Os bydd angen i chi siarad ag aelod o'r tîm, ffoniwch 01443 873521. Bydd Pobl yn arfer eu disgresiwn ynghylch dyrannu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n bodloni'r amcanion sydd wedi'u nodi.

Er na allwn ni atal problemau cymhleth rhag codi yn llwyr, rydyn ni'n bwriadu creu cydbwysedd iach ar draws y safle er mwyn peidio â chreu clystyrau o ardaloedd problemus neu ffurfio ardaloedd nad oes modd eu rheoli, a fyddai'n gallu arwain yn ei dro at denantiaethau aflwyddiannus, cynnydd mewn trosiant eiddo gwag a rhagor o geisiadau digartrefedd.

  • Dyddiad gweithredu: Cyn gynted â phosibl
  • Dyddiad terfynu: 12 mis o'r dyddiad gweithredu
  • Amlder adolygu: Bob chwe mis 
  • Trefniadau monitro ac adolygu: -

Swyddog sy'n gwneud y cais

  • Enw: Donna Davies
  • Swydd: Rheolwr Tai Cymdogaeth
  • Sefydliad: POBL
  • Dyddiad: - 13.02.2024

Penderfyniad y panel

  • Cymeradwyo/Gwrthod: -
  • Dyddiad: -
  • Manylion y penderfyniad: -