Bedwas

  • Manylion yr ardal dan sylw: Rhif: 60 eiddo – 20 Perchentyaeth Cost Isel, 40 i'w gosod drwy'r Gofrestr Tai Cyffredin
  • Ffordd/Ffyrdd: Ffordd Cae'r Llwyn
  • Tref: Bedwas
  • Cod post: CF83 8JT

Manylion yr eiddo dan sylw:

  • Landlordiaid: United Welsh
  • Count: 16 eiddo (42 i gyd)

Rheswm dros wneud cais am bolisi gosod tai lleol:

Cafodd safle Pandy Road ei sefydlu yn 2019. Mae'r safle yn gymysgedd o fflatiau a thai i deuluoedd ymhlith datblygiad tai cymdeithasol a thai preifat.Mae gofyn am Bolisi Gosod Tai Lleol yn achos gosod yr eiddo newydd er mwyn cynorthwyo cymuned sefydlog, gynaliadwy, gytbwys a chydlynus, mewn cymuned ehangach sy'n bodoli eisoes wrth gydymffurfio â gofynion y Polisi Dyrannu Cyffredin.

Crynodeb o'r sylfaen dystiolaeth i ategu'r polisi gosod tai lleol:

Rydyn ni'n datblygu, ac felly'n gosod, tua 480 o gartrefi newydd y flwyddyn ac, yn ein profiad ni, mae'r 12 mis cyntaf o feddiannu datblygiadau newydd yn hanfodol wrth sefydlu cymuned newydd a chydlynus.Mae'n anochel y bydd dod ag aelwydydd o'r cam cyntaf ac 16 aelwyd ychwanegol o'r ail gam ynghyd i fyw mewn cymuned wedi'i sefydlu'n rhannol yn cyflwyno heriau o ran meithrin parch a dealltwriaeth rhwng y cymdogion newydd, ac efallai nad oedd gan rai ohonyn nhw unrhyw fath o gontract meddiannaeth erioed o'r blaen, a'r rhai sydd wedi ymgartrefu yn eu tai.Gall Polisi Gosod Tai Lleol cynhwysfawr, wedi'i ymchwilio'n llawn, helpu ein dyhead cyffredin i greu cymunedau cynaliadwy, cydlynus y mae pobl eisiau byw ynddyn nhw a hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Byddai gweithredu Polisi Gosod Tai Lleol llwyddiannus hefyd yn helpu lleihau nifer y deiliaid contract meddiannaeth sy'n dymuno cyflwyno ceisiadau am drosglwyddo i lety arall.Mae United Welsh wedi darganfod, o'n profiad helaeth, fod heriau'n gyffredin wrth greu cymunedau newydd, eu hintegreiddio a'u setlo.Byddai gweithredu Polisi Gosod Tai Lleol llwyddiannus hefyd yn helpu lleihau nifer y tenantiaid sy'n dymuno cyflwyno ceisiadau am drosglwyddo i lety arall.

Amcan y polisi gosod tai lleol:

  • Creu cymuned gynaliadwy
  • Mae'r gymdogaeth yn lle y mae pobl eisiau byw ac aros
  • Mae tenantiaid yn cymryd rhan yn eu cymuned
  • Mae'r gymdogaeth yn gytbwys
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol

Cyfyngiadau wrth osod tai:

NODYN PWYSIG: Nid yw'r meini prawf canlynol yn orfodol fel y cyfryw, ond rhaid eu defnyddio nhw fel templed i geisio creu cymuned gytbwys ar y safle hwn. Bydd pob aelwyd sy'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y cartrefi newydd yn cael ei hystyried fesul achos, ac mae United Welsh yn fodlon cynnal sgwrs â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ystod y broses dyrannu a gosod eiddo i sicrhau bod ysbryd y Polisi Gosod Tai Lleol yn cael ei gynnal drwy gydol y cyfnod hwn, ac i drafod achosion ymylol neu amwys ac ati. Pan nad oes modd dod i gytundeb yn ystod sgwrs o'r fath, bydd United Welsh, fel landlord, yn gwneud y penderfyniad terfynol gan gadw o fewn cyfyngiadau'r meini prawf sy'n cael eu nodi yn y Polisi Gosod Tai Lleol hwn, ac yn ymdrechu i gyflawni'r canlyniadau bwriadedig.Mae United Welsh yn monitro pob Polisi Gosod Tai Lleol i sicrhau eu bod yn gweithio'n effeithiol ac yn cyflawni'r canlyniadau bwriadedig. Bydd adolygiad o effeithiolrwydd y Polisi Gosod Tai Lleol a dadansoddiad o'r eiddo wedi'u gosod yn digwydd tua deufis ar ôl dechrau contractau meddiannaeth newydd. 

Cam 1

Mae United Welsh wedi ymrwymo i wneud y defnydd gorau o'n stoc dai drwy ystyried yr ymgeiswyr hynny sydd angen llety hygyrch. Bydd yr holl unedau sydd i'w gosod drwy'r Gofrestr Tai Cyffredin yn cael eu codio yn unol ag Atodiad 8 – Dosbarthiadau Tai Hygyrch – i'r Polisi Dyrannu Cyffredin, a'u rhoi ar y rhestr fer yn unol ag Atodiad 9 – Meini prawf ar gyfer rhoi'r ymgeiswyr mwyaf addas ar y rhestr fer. Bydd dadansoddiad yn cael ei gyflwyno cyn llunio'r rhestr fer.

Cam 2

Mae United Welsh yn deall y bydd nifer o aelwydydd a allai fod ag anghenion sy'n heriol i weithwyr proffesiynol, a/neu y bydd angen lefelau uchel o gymorth arnyn nhw i reoli contract meddiannaeth.Mae United Welsh wedi ymrwymo'n llwyr i helpu cynnig llety i aelwydydd o'r fath gan hefyd gydnabod y ffaith y gall dwysedd uchel o aelwydydd o'r math hwn neu sydd angen lefelau uchel o gymorth o fewn ardal ddaearyddol fach iawn (neu yn yr un stryd/bloc) greu canlyniadau anfwriadol, er enghraifft:

  • Mwy o risg i aelwydydd sy'n agored i niwed
  • Mwy o anwadalrwydd yn y bloc/stryd
  • Mwy o anwadalrwydd yn y gymuned

Effeithiau niweidiol ar gymunedau cydlynus

Enw drwg y safle newydd yn arwain at anhawster o ran dod o hyd i denantiaid ar gyfer eiddo gwag yn y dyfodolFelly, mae United Welsh yn cynnig bod uchafswm o dair aelwyd ag anghenion sy'n heriol i weithwyr proffesiynol/anghenion cymorth uchel yn cael eu cynnwys yn y datblygiad gorffenedig. I gynnwys un aelwyd o'r math hwn fesul bloc o fflatiau, ac un ohonyn nhw i fod yn ymgeisydd fflatiau cychwynnol, trosiannol ac ailsefydlu (STAR) mewn un bloc.

Mae croeso i geisiadau gan gyn-aelodau'r lluoedd arfog fel rhan o'r broses hon.

O ran y Polisi Gosod Tai Lleol hwn, mae United Welsh yn ystyried anghenion sy'n heriol i weithwyr proffesiynol neu anghenion cymorth uchel yn rhai sy'n cyfeirio at aelwydydd sydd wedi arddangos yr ymddygiadau canlynol (gan unrhyw aelod o'r aelwyd honno) o fewn y tair blynedd flaenorol (o'r dyddiad ystyried)

Ymddygiad gwrthgymdeithasol blaenorol neu gyfredol sydd wedi arwain at golli llety

Ymddygiad gwrthgymdeithasol blaenorol sydd wedi arwain at gamau gorfodi (hysbysiad ceisio meddiant/gwaharddeb/meddiant/gwaharddeb ymddygiad gwrthgymdeithasol/gorchymyn cau)

Cyflyrau iechyd meddwl sylweddol sy'n effeithio ar allu'r aelwyd i reoli contract meddiannaeth (pan nad yw meddyginiaeth naill ai'n cael ei chymryd neu'n profi'n effeithiol)

Achosion sylweddol o gamddefnyddio sylweddau

Euog o ymddygiad troseddol sy'n uniongyrchol berthnasol i gynnal contract meddiannaeth a/neu fyw gyda pharch mewn cymuned ag eraill

Pobl sy'n destun Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) (lefelau 1–3)

Mae United Welsh yn landlord cynhwysol a bydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn nhîm Digartrefedd a thîm Cofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i nodi achosion cymhleth a phenderfynu a fyddai'r dyraniad yn briodol.

Bydd gofyn i bob ymgeisydd sydd â thenantiaeth flaenorol am ddau eirda. Os nad oes gan ymgeisydd hanes tenantiaeth, bydd geirdaon cymeriad yn ddigonol.

Fflatiau yn unig – Dylid gwneud cais am anifeiliaid anwes drwy lenwi ffurflen caniatâd landlord ond wedi'i gyfyngu i un gath fach neu un ci bach fel yr uchafswm fesul fflat (oherwydd nad oes ardaloedd cymunedol na gardd). Bydd anifeiliaid cymorth/synhwyraidd yn cael eu derbyn waeth beth fo'u maint.

Cytundeb Ystâd i'w lofnodi gan bob ymgeisydd llwyddiannusYchydig o eglurder ynghylch dehongli termau:

Gall achosion sylweddol o gamddefnyddio sylweddau gynnwys nam neu drallod sylweddol, fel sy'n cael ei ddangos gan un (neu ragor) o'r canlynol, sy'n digwydd o fewn cyfnod o 12 mis:

Defnydd rheolaidd o sylweddau sy'n arwain at fethu â chyflawni rhwymedigaethau allweddol yn y gwaith, yr ysgol neu'r cartref (er enghraifft, absenoldebau rheolaidd neu berfformiad gwaith gwael sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau; absenoldebau, ataliadau neu ddiarddeliadau o'r ysgol yn gysylltiedig â sylweddau; esgeuluso plant neu'r aelwyd)

Defnydd rheolaidd o sylweddau mewn sefyllfaoedd lle mae'n beryglus yn gorfforol (er enghraifft, gyrru cerbyd neu weithredu peiriant dan ddylanwad sylweddau)

Problemau cyfreithiol rheolaidd sy'n gysylltiedig â sylweddau (er enghraifft, arestiadau am ymddygiad afreolus sy'n gysylltiedig â sylweddau)

Defnydd parhaus o sylweddau er gwaethaf problemau cymdeithasol neu ryngbersonol parhaus neu reolaidd sydd wedi'u hachosi neu sydd wedi'u gwaethygu gan effeithiau'r sylwedd (er enghraifft, dadleuon gyda phartner ynghylch canlyniadau meddwdod, cwerylon corfforol)

Manylion unrhyw ymgynghoriad cymunedol:

Dim ond yn ôl yr angen fel amodau cynllunio. Ar ôl trosglwyddo eiddo, byddwn ni'n cynnal gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu, fel rydyn ni'n eu gwneud mewn ardaloedd eraill, o dan ein brand digwyddiadau ‘Gyda'n gilydd’.

Crynodeb o'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb:

Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gynnal – mae grwpiau a allai gael eu heffeithio wedi'u nodi fel y rhai sydd â materion iechyd meddwl a allai fod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol blaenorol. Bydd ystyriaeth ddyledus hefyd yn cael ei roi i hanes ymgysylltu, unrhyw gymorth wedi'i ddarparu i'r aelwyd, ynghyd â meddyginiaeth sy'n cael ei chymryd i liniaru cyflyrau iechyd meddwl. O bosibl, gallai rhai grwpiau ei chael hi'n anoddach dod o hyd i gyflogaeth neu gynnal cyflogaeth – efallai bydd effaith ar aelwydydd benywaidd a'r rheini ag anabledd neu sydd â chyfrifoldebau gofalu. Bydd hyn yn cael ei oresgyn drwy hyblygrwydd o ran gofynion y Polisi Gosod Tai Lleol gyda'r holl aelwydydd yn cael eu hystyried fesul achos ar eu hamgylchiadau unigol nhw ac ymgynghoriad llawn â'r asiantaethau cymorth perthnasol. Os gall unigolyn ddarparu tystiolaeth o denantiaeth lwyddiannus/contract meddiannaeth llwyddiannus ers unrhyw gofnod o ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd hyn yn cael ei ystyried. Yn yr un modd, os yw ymgeisydd yn ofalwr, os yw tu hwnt i oedran ymddeol neu os nad yw'n gallu gweithio oherwydd anabledd, bydd camau'n cael eu cymryd i atal hyn rhag effeithio ar ei gais.

  • Dyddiad gweithredu: 26/04/2024
  • Dyddiad terfynu: 12 mis ar ôl gosod yr eiddo diwethaf
  • Amlder adolygu:
  • Trefniadau monitro ac adolygu: Monitro wrth i ni ddyrannu/Bydd y Polisi Gosod Tai Lleol yn berthnasol i osodiad cyntaf yr eiddo yn unig
  • Swyddog sy'n gwneud y cais: Sian Weeks
  • Swydd: Rheolwr Cymdogaeth
  • Sefydliad: United Welsh
  • Dyddiad: 15/04/2024
  • Penderfyniad y panel: Wedi'i gymeradwyo