Cyfraniadau Buddiant Cymunedol 

Mae nifer o gyfleoedd ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys datblygiadau ynni carbon isel, yn ogystal â phrosiectau datgomisiynu ac adfer posibl ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae'r Cyngor wedi datblygu canllawiau ar gyfer Cyfraniadau Budd Cymunedol ar gyfer prosiectau a datblygiadau a allai gael effaith sylweddol ar y gymuned, er mwyn cynorthwyo cymunedau mae prosiectau o'r fath yn effeithio arnyn nhw. Cyfraniadau Budd Cymunedol yw’r term sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfraniadau ariannol ‘ewyllys da’ sy'n cael eu rhoi'n wirfoddol gan ddatblygwr er budd cymunedau sy’n cynnal datblygiad.

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer datblygwyr sy’n ceisio gweithio gydag adnoddau’r Fwrdeistref Sirol, eu harneisio a'u defnyddio, ac i sicrhau bod cymunedau’n cael y manteision mwyaf o gynnal datblygiadau o’r fath yn eu hardal leol trwy ddarparu buddion cymunedol gwirfoddol uniongyrchol.

Community Benefit Contributions Guidance -

For projects and developments with the potential for significant community impact.

Cynnwys:

  • Nodau
  • Cyflwyniad
  • Beth Yw Cyfraniadau Buddiant Cymunedol?
    • Cyfalaf Cymdeithasol
    • Perchnogaeth Leol
    • Rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Sefydlu'r Cynllun Cyfraniadau Buddiant Cymunedol
    • Data Ac Asesiad
    • Ymgysylltu Cymunedol
    • Y Trydydd Sector
    • Cynrychiolwyr Lleol
    • Egwyddor Agosrwydd
    • Swm Ac Amseriad Cyfraniadau
    • Datgomisiynu
  • Defnydd A Phwrpas Y Cynllun Cyfraniadau Buddiant Cymunedol
    • Pwrpasau Cymdeithasol, Economaidd, Amgylcheddol A Diwylliannol
  • Mecanweithiau Cyflawni
    • Egwyddorion Allweddol
    • Ystyriaethau Cyflawni
  • Cyswllt
    • Manylion Cyswllt
  • Astudiaethau Achos
    • Cronfa Budd Cymunedol Oakdale
    • Cronfa Fferm Wynt Coedwig Brechfa

Nodau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn croesawu prosiectau a datblygiadau mawr sydd â'r potensial i gyflawni newid economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynorthwyo a galluogi Cyfraniadau Buddiant Cymunedol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol o bob datblygiad mawr i wella lles cymunedau lleol, gwella ansawdd bywyd a darparu buddsoddiad cymunedol cynaliadwy hirdymor.

Nid yw Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio ac nid oes gan y Cyngor bŵer i orfodi datblygwyr i ddarparu Cyfraniadau Buddiant Cymunedol gwirfoddol, fodd bynnag, byddwn ni’n rhagweithiol, yn gyson ac yn dryloyw yn ein dull o weithio gyda phartneriaid yn y sector preifat a chyhoeddus, mewn partneriaeth â'n cymunedau lleol, i annog a sicrhau buddion ystyrlon a chynaliadwy.

Mae'r canllawiau hyn wedi'u hanelu at ddatblygwyr a chymunedau ac yn nodi disgwyliadau'r Cyngor mewn perthynas â Chyfraniadau Buddiant Cymunedol. Mae'n gwasanaethu fel ffynhonnell cyngor i ddwy ochr hafaliad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol, y datblygwr, a'r gymuned leol lle mae'r datblygiad wedi'i leoli.

Cyflwyniad

Mae ardal y Fwrdeistref Sirol yn darparu nifer o gyfleoedd ar gyfer prosiectau a datblygiadau mawr, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, datblygiadau ynni carbon isel; prosiectau gwynt, ynni haul, trydan dŵr a hydrogen. Mae prosiectau ynni anadnewyddadwy eraill wedi darparu cyfraniadau buddiant cymunedol i gymunedau lleol; er enghraifft, gallai datblygu safleoedd gwastraff ddarparu cyllid cymunedol, neu adfer tir halogedig pan fo anghyfleustra i'r gymuned am gyfnod y gwaith adfer. Bwriedir i'r canllawiau hyn gael eu defnyddio gan ddatblygwyr sy'n ceisio harneisio a defnyddio adnoddau'r Fwrdeistref Sirol, i sicrhau bod cymunedau'n cael y budd mwyaf o gynnal datblygiadau o'r fath yn eu hardal drwy ddarparu buddion cymunedol gwirfoddol uniongyrchol.

Mae graddfa ac arwyddocâd prosiectau'n cael effaith uniongyrchol ar gymunedau. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau y gall cyfalaf cymdeithasol ddeillio o'r datblygiadau hyn er budd y rhai yr effeithir arnynt fwyaf ac i ddarparu etifeddiaeth barhaol a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae gan Gyfraniadau Buddiant Cymunedol y potensial i gynorthwyo a chyfrannu at les cymunedau a'r bobl sy'n byw ynddynt. Gellir eu defnyddio i wella ansawdd bywyd, lliniaru sefyllfaoedd economaidd-gymdeithasol gwael, gwella ffactorau amddifadedd lluosog, gwella bioamrywiaeth leol, grymuso cymunedau gwydn a chynorthwyo gyda chyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol.  Gallai hyn fod drwy gymorth uniongyrchol i brosiectau yn y gymuned, neu gyfraniadau ariannol i grwpiau cymunedol cydnabyddedig a chyfansoddedig.  Mae defnydd tir statudol a'r system gynllunio yn ceisio sicrhau bod effeithiau niweidiol ar gymunedau yn cael eu hosgoi, eu lleihau neu eu lliniaru lle bynnag y bo modd. 

O dan A106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, fel y'i diwygiwyd, gellir ceisio am gyfraniadau gan ddatblygwyr tuag at gostau darparu seilwaith cymunedol a chymdeithasol, lle mae'r angen am hynny wedi codi o ganlyniad i ddatblygiad newydd yn digwydd. Gelwir y cyllid hwn fel arfer yn gyllid 'Adran 106'. Mae Cyfraniadau Buddiant Cymunedol ar wahân, yn wahanol ac nid ydynt yn gysylltiedig â'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref; fodd bynnag, maent yn cael eu cynnig fwyfwy'n wirfoddol gan ddatblygwyr i gydnabod bod gan leoliad rhai prosiectau’r potensial ar gyfer effaith andwyol ar gymunedau, a thrwy liniaru, maent yn darparu buddion yn uniongyrchol i'r gymuned dan sylw. Gan nad yw Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn gysylltiedig â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, efallai y byddant yn gysylltiedig â datblygiadau sydd y tu allan i gylch gwaith y Cyngor fel awdurdod cynllunio – fel Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC), y gwneir ceisiadau ar eu cyfer i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (sef PEDW).

Mae'n bwysig pwysleisio na all Cyfraniadau Buddiant Cymunedol, ac nad ydynt yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio. Gallai'r effeithiau y gall cymuned eu profi gynnwys; darparu ar gyfer unrhyw amhariad o ganlyniad i adeiladu, newidiadau yn y dirwedd, newidiadau yn y ffordd y caiff tir ei ddefnyddio a'i gyrchu, ac agweddau anniriaethol ond pwysig megis newidiadau yn yr ymdeimlad o le a rhinweddau megis llonyddwch ac amwynder natur.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i alluogi'r broses hon, a bydd yn cynnig ei ddata, ei asesiadau, a'i gysylltiadau â chymunedau lleol i'w hwyluso. 

Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall datblygiadau ynni adnewyddadwy gyfrannu tuag at dargedau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sydd wedi'u gosod ar gyfer cynhyrchu ynni, sy'n rhan allweddol o'u hymrwymiad i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.  Mae Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn cael eu mabwysiadu'n eang yn y sector ynni adnewyddadwy. Mae adeiladu economi carbon isel mwy gwydn a chyfartal, a helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon yr un mor bwysig i'r Cyngor, yn rhan o'i ymrwymiadau Cynllun Corfforaethol (2023-2028) a chyfrannu at ein hamcanion lles ein hunain ar gyfer yr ardal a'r nodau lles cenedlaethol ar gyfer Cymru. Mae ein nod lles Galluogi ein Hamgylchedd i fod yn Wyrddach yn cynnwys canlyniad i hyrwyddo ac archwilio cyfleoedd ynni gwyrdd i'r Cyngor, cymunedau a busnesau lleol.

Fodd bynnag, bwriedir i'r canllawiau hyn fod yr un mor berthnasol i brosiectau a datblygiadau eraill sydd â'r potensial i effeithio ar y gymuned y maent wedi'u lleoli ynddi.

Beth yw cyfraniadau buddiant cymunedol?

Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yw'r term a ddefnyddir ar gyfer cyfraniadau ariannol gwirfoddol 'ewyllys da' a ddarperir gan ddatblygwr er budd cymunedau sy'n cynnal datblygiad. Gallant fod yn ariannol, gyda thaliad yn cael ei wneud i Gwmni Buddiant Cymunedol, Ymddiriedolaeth Elusennol, neu strwythurau llywodraethu presennol fel Cynghorau Cymuned a Thref, ac fe'u gweinyddir yn briodol. Fel arall, gallant gynorthwyo gyda chyflwyno prosiectau a gweithgareddau yn uniongyrchol i wella lles cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yr ardal. Gall Cyfraniadau Buddiant Cymunedol gyfrannu at amrywiaeth o amcanion cenedlaethol a lleol. Maent yn aml yn cael eu cynnig gan ddatblygwyr prosiectau lle mae'r effeithiau niweidiol posibl i gymunedau'n cael eu cydnabod, ond nid yw lliniaru addas bob amser yn bosibl, neu mae polisi cenedlaethol neu leol yn gorbwyso'r effeithiau posibl ar gymunedau lleol. Er enghraifft, gall seilwaith ynni gwyrdd gael effeithiau gweledol a thirwedd – ond mae'r angen am gynyddu faint o ynni gwyrdd sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru wedi'i nodi'n glir ym Mholisi Llywodraeth Cymru. 

I ddatblygwyr, mae Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn cynnig y potensial i wneud buddsoddiadau sydd wedi'u targedu ac sy'n cael effaith mewn cymunedau sydd agosaf at eu cynigion, gan sicrhau bod manteision uniongyrchol ac ehangach yn cael eu cyflawni. Yn y gorffennol, mae datblygiadau ynni gwyrdd yn ardal De Cymru wedi gweld Cronfa Gymunedol, y gall elusennau lleol wneud cais am arian ohoni, yn cynorthwyo eu gwasanaethau; a buddsoddiad ehangach, er enghraifft prentisiaethau, sgiliau gwyrdd, a busnesau lleol.

Mae Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn rhoi cyfle i gydnabod amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a nodau economaidd-gymdeithasol cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Cyngor. Rôl y Cyngor yw cynorthwyo Cyfraniadau Buddiant Cymunedol gan gydnabod eu bod yn drefniant rhwng y datblygwr a'r gymuned. Mae'r cytundebau hyn y tu allan i rôl gynllunio statudol y Cyngor fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, ac ni ddylid eu cymysgu â chymalau gwerth cymdeithasol a buddiant cymunedol sy'n ffurfio rhan o gaffael contractau gan y Cyngor.

Cyfalaf Cymdeithasol

Cyfalaf cymdeithasol yw unrhyw werth ychwanegol at weithgareddau ac allbynnau economaidd sefydliad gan berthnasoedd dynol, partneriaethau a chydweithrediad.  Mae cyfalaf cymdeithasol yn ymwneud â'r sefydliadau sy'n ein helpu i gynnal a datblygu perthnasoedd ac ymdeimlad o le e.e. cymunedau, busnesau, undebau llafur, ysgolion, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol cyfansoddedig.  Mae nodweddion i sicrhau bod cyfalaf cymdeithasol yn bodoli yn cynnwys y canlynol: 

  • Mae cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol yn rhannu gwerthoedd cadarnhaol allweddol ac ymdeimlad o bwrpas.
  • Mae strwythurau a sefydliadau'r gymdeithas yn hyrwyddo stiwardiaeth o adnoddau naturiol a datblygiad pobl.

Ni ddylid ystyried Cyfraniadau Buddiant Cymunedol fel yr unig ffordd o ddarparu cyfalaf cymdeithasol, ac anogir datblygwyr i ystyried hyn ym mhob elfen o'u prosiect, gan gynnwys er enghraifft, cynnwys dyluniad gwelliannau amgylcheddol fel darpariaeth cynefinoedd, neu ddarpariaeth tirlunio y tu hwnt i sgrinio allan niwsans posibl. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn adlewyrchu amcanion cyfalaf cymdeithasol drwy'r canlynol:

  • Gofyn eu bod yn cyd-fynd ag amcanion gwerth cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Ymgysylltu'n effeithiol â'r cymunedau yr effeithir arnynt.
  • Gofyn eu bod yn ceisio lliniaru unrhyw gyd-destun economaidd-gymdeithasol penodol yn y gymuned dan sylw.
  • Mesur ac adrodd ar ganlyniadau cyfalaf cymdeithasol fel rhan o fonitro Cyfraniadau Buddiant Cymunedol.

Perchnogaeth Leol

Mae sawl enghraifft o gynigion perchnogaeth leol y gallai datblygwyr eu harchwilio, gan gynnwys y cyfle i brynu cyfranddaliadau neu fuddsoddi mewn datblygiadau.  Gall y cyfle hwn fod ar gyfer unigolion neu gymunedau.  Drwy gymryd rhan mewn prosiectau, gall cymunedau lleol elwa'n uniongyrchol o elw prosiect.

Os yw perchnogaeth leol yn rhan o gynnig Cyfraniadau Buddiant Cymunedol, barn y Cyngor yw y byddai hyn yn cael ei gynnig yn fwy cyfartal i'r gymuned, yn hytrach nag unigolion sy'n byw yn yr ardal, gan y bydd y rhai mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yn debygol o fod heb y pŵer prynu i fanteisio ar y cynnig.

Safonau'r Diwydiant

O fis Rhagfyr 2023, mae rhagdybiaethau cyfredol Cronfa Buddiant Cymunedol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwynt (£5 mil/MW) yn cyfateb i'r lefel a awgrymir gan Lywodraeth yr Alban a RenewableUK. Awgrymir lefel is ar gyfer ynni haul (£2.5 mil/MW) oherwydd y cynnyrch is fesul MW sy'n gysylltiedig ag ynni haul, fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau rhwng datblygwyr a chymunedau.

Rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

NID yw Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn fecanwaith i wneud datblygiad yn fwy derbyniol o ran cynllunio ac nid ydynt yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio. Ni chaniateir i unrhyw Gynghorydd na Swyddog fod yn rhan o unrhyw drafodaethau mewn perthynas â Cyfraniadau Buddiant Cymunedol, ac yna hefyd gymryd rhan mewn proses cynllunio defnydd tir (gwneud penderfyniadau) sy'n cyfateb i'r datblygiad.

Mae gan y Cyngor gyfoeth o ddata a gwybodaeth am ei gymunedau, gan gynnwys yr asesiad lles lleol cyfredol sy'n rhannu'r Fwrdeistref Sirol yn bum ardal ddaearyddol ar gyfer prosesau cynllunio cymunedol.

Asesiad Lles Gwent (gwentpsb.org/cy)

Mae timau o fewn y Cyngor yn gweithio'n rheolaidd ac yn agos gyda grwpiau cymunedol lleol a'r trydydd sector ffurfiol ac mae ganddynt gyfoeth o fewnwelediad a deallusrwydd cymunedol a fydd ar gael i gynorthwyo gyda datblygiad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol.

Mae gan y Cyngor bŵer lles o dan ddeddfwriaeth llywodraeth leol (Deddf Llywodraeth Leol 2000) i wneud unrhyw beth y mae'n ystyried a fydd yn gwella lles yr ardal ac am y rheswm hwn bydd yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn ei ardal.

Bydd y Cyngor yn annog datblygwyr i ddefnyddio'r canllawiau hyn a chyfathrebu'n uniongyrchol â ni cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau'r lefel fwyaf o fuddion posibl i gymunedau lleol. Mae gan y Cyngor berthynas hirsefydlog a chefnogol gyda'r sector cymunedol a gwirfoddol trwy Gytundeb Partneriaeth y Trydydd Sector.  Mae ei bartneriaid yn cynnwys Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Heddlu Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. 

Bydd swyddogion y Cyngor, sy'n hwyluso neu'n cynorthwyo gyda'r data, asesiadau ac ymgysylltiad cymunedol i gynorthwyo geda Chyfraniadau Buddiant Cymunedol, yn dal rolau sy'n gyfan gwbl y tu allan i'r broses gynllunio statudol.

Sefydlu'r cynllun buddiant cymunedol

Dylai Cyfraniadau Buddiant Cymunedol geisio cynorthwyo mentrau llunio lleoedd sy'n gwella ac yn cynyddu mynediad at asedau cymunedol, gan gynnwys mannau cyhoeddus ac unrhyw beth sydd ar y cyd yn gwella lles cymunedol. Dylai (Cyfraniadau Buddiant Cymunedol) gael eu llywio gan gyd-destun economaidd-gymdeithasol y cymunedau agosaf i'r prosiectau a thrwy ymgysylltu â'r gymuned. Dylent hefyd gael cyfeiriad at Bolisi ehangach Llywodraeth Cymru - er enghraifft, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Gallai Cyfraniadau Buddiant Cymunedol gynorthwyo mentrau sy'n llunio lleoedd, sy'n gwella a chynyddu mynediad at asedau cymunedol, gan gynnwys mannau cyhoeddus ac unrhyw beth sydd ar y cyd yn gwella lles cymunedol, sy'n hefyd cyd-fynd ag anghenion lleol. Er enghraifft, mewn ardal sydd â lefelau uchel o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc, neu ddiffyg sgiliau addas ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael, efallai y byddai'n briodol archwilio sut y gallai Cyfraniadau Buddiant Cymunedol lenwi'r bwlch hwnnw ochr yn ochr â'r ddarpariaeth bresennol.

Data ac Asesiad

Mae gan y Cyngor a'i bartneriaid sector cyhoeddus gyfoeth o ddata, meintiol ac ansoddol o amgylch cymunedau lleol.  Bydd datblygwyr yn gweld y data hwn ar wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent fel sydd yn yr hyperddolen uchod a gellir cael mewnwelediad pellach gan tîmcaerffili@caerffili.gov.uk.

Dylai Cyfraniadau Buddiant Cymunedol nodi sut mae'r cyfraniadau wedi'u datblygu i ddiwallu anghenion penodol y gymuned leol, gan gyfeirio at ei safle unigryw ac adeiladu ar asedau presennol y gymuned.

Ymgysylltu Cymunedol  

Mae cynnwys yr holl gymuned leol yn effeithiol wrth ddatblygu Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn hanfodol bwysig o ran sicrhau nad oes gan ambell grŵp, neu lais, ddylanwad gormodol dros y penderfyniadau a wneir fel rhan o'r broses Cyfraniadau Buddiant Cymunedol.

Mae gan y Cyngor rôl allweddol o ran sicrhau bod cynrychiolaeth mor eang â phosibl yn cael ei chlywed, yn enwedig gan grwpiau yn y gymuned nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed cystal. Mae mewnwelediadau, cudd-wybodaeth a llais y gymuned yn agweddau allweddol ar ddarpariaeth y Cyngor ac eto, mae gan y Cyngor sylfaen eang o gysylltiadau a grwpiau cymunedol lleol y dylid eu defnyddio wrth ddatblygu Cyfraniadau Buddiant Cymunedol. Dylid gofyn am gyngor cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau ymgysylltiad a chyfranogiad effeithiol.  Dylid datblygu cynllun ymgysylltu ar ddechrau Cyfraniadau Buddiant Cymunedol a'i rannu gyda'r Cyngor am sylwadau a chyngor.

Y Trydydd Sector

Mae'r sector cymunedol a gwirfoddol yn y Fwrdeistref Sirol yn fywiog, yn effeithiol ac yn gweithio'n galed.  Mae grwpiau gwirfoddol lleol yn allweddol i sicrhau gwydnwch cymunedau lleol a chynnig llais cynrychioliadol i'r bobl sy'n byw yn yr ardal. 

Mae'r Cyngor Gwirfoddol Cymunedol lleol ffurfiol, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), yn gweithio'n dda gyda'r Cyngor a'i bartneriaid eraill drwy Gytundeb Partneriaeth y Trydydd Sector lleol. Dylai Cyfraniadau Buddiant Cymunedol geisio cynorthwyo'r sector a'r trefniadau hyn yn y Fwrdeistref Sirol. 

Cynrychiolwyr Lleol

Mae llawer o ardaloedd o'r Fwrdeistref Sirol yn cael eu gwasanaethu gan Gynghorau Tref a Chymuned.  Fel yr haen o ddemocratiaeth sydd agosaf at gymunedau bydd ganddynt ddiddordeb personol yn natblygiad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol lle cynigir unrhyw rai yn eu hardaloedd. Rhaid nodi nad oes gan bob un o ardal y Fwrdeistref Sirol yr haen hon o ddemocratiaeth.

Mae 69 o aelodau etholedig y Cyngor ei hun yn cwmpasu 30 ward ar draws y Fwrdeistref Sirol, a'r aelodau hyn yw cynrychiolwyr etholedig democrataidd trigolion yr ardal. Mae eu rôl yn golygu bod ganddynt ystod o fewnwelediad a barn ar ddatblygiad eu cymunedau lleol y dylid eu cynnwys yn natblygiad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol. Fodd bynnag, fel gwahanu rolau swyddogion y Cyngor, nid ydynt yn gysylltiedig â phenderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd lleol.

Egwyddor Agosrwydd

Mae'r egwyddor agosrwydd yn darparu'n syml y dylid cyfeirio buddion at ardaloedd daearyddol o ran lefel yr effaith y maent yn ei chael; dylai lefel unrhyw effaith a ddisgwylir mewn cymuned gael ei hadlewyrchu yng nghyfran y buddion a ddarperir i'r gymuned honno. Dylid ystyried effaith gronnol a chrynodiad prosiectau eraill wrth ddatblygu'r Cyfraniadau Buddiant Cymunedol. Dylai'r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf dderbyn budd cyfrannol ac ni ddylai'r Cyfraniadau Buddiant Cymunedol gael ei gyfartalu dros ardal ehangach.

Mae'r Cyngor yn cynghori dull tryloyw, teg a chyhoeddus o benderfyniadau ynghylch agosrwydd ac yn cydnabod y bydd datblygwyr yn ceisio sicrhau bod dosbarthiad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol'n adlewyrchu effeithiau lleol. Dylai bod yn agored a'r gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau agosrwydd fod yn rhan o'r broses ymgysylltu wrth ddatblygu Cyfraniadau Buddiant Cymunedol.

Swm ac Amseriad Cyfraniadau 

Bydd swm y budd-dal a ddarperir gan y Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn amrywio gyda phob prosiect neu ddatblygiad.  Gall yr amser y daw buddion i fod ar gael hefyd ddibynnu ar natur y prosiect.  Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod buddion ar gael i gymunedau cyn gynted â phosibl yng nghylch bywyd y prosiect.  Disgwylir i Cyfraniadau Buddiant Cymunedol gael eu darparu ar gyfer holl oes weithredol y prosiect. Dylid nodi swm, math ac amserlennu Cyfraniadau Buddiant Cymunedol ar ddechrau eu datblygiad a bod yn rhan o ymgysylltu â chymunedau.

Mae'r dull o ymdrin â buddion cymunedol wedi cael ei fabwysiadu'n eang ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy.  Bydd y Cyngor yn disgwyl i ddatblygwyr ymrwymo i ddarparu buddion cymunedol sy'n cyfateb i safon bresennol y diwydiant fesul MW o gapasiti gosodedig, neu fuddion cyfatebol mewn nwyddau, yn uniongyrchol i gymunedau lletyol.

Ar gyfer prosiectau a datblygiadau eraill, mae safonau'r diwydiant yn llai datblygedig a dealladwy, er eu bod yn esblygu.  Bydd y Cyngor, unwaith eto, yn ceisio sicrhau bod swm teg a chynrychioliadol yn cael ei gynnig i gymunedau lleol yr effeithir arnynt gyda chyfrifiad agosrwydd teg wedi'i ymgorffori ynddo. 

Datgomisiynu

Dylai cynlluniau Budd Cymunedol gwmpasu cylch oes prosiect neu ddatblygiad cyfan a chydnabod y camau yn ei gylch bywyd. 

Mae rhai prosiectau, yn benodol y prosiectau ynni adnewyddadwy ond nid dim ond y rheiny, yn cynnwys cyfnod datgomisiynu. Mae gan ddatgomisiynu prosiect ac adfer y tir dan sylw'r potensial i gael effaith yr un mor andwyol ar gymunedau fel sydd gan gomisiynu ac adeiladu. Dylid cydnabod y cam hwn o brosiect yn swm, math ac amserlennu'r Cyfraniadau Buddiant Cymunedol a gynigir.

Fodd bynnag, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw Cyfraniadau Buddiant Cymunedol sy'n ymwneud â chyfnod datgomisiynu neu ddadadeiladu datblygiad yn cymryd lle'r cynllun datgomisiynu priodol ac amodau cynllunio sy'n ymwneud â datgomisiynu'r safle.

Defnydd a phwrpas y cynllun buddiant cymunedol

Rôl y Cyngor yw sicrhau'r canlyniad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol gorau i gymunedau lleol a sicrhau bod data lleol ac ymgysylltu â'r gymuned yn cael eu defnyddio wrth benderfynu ar ddefnydd a phwrpas Cyfraniadau Buddiant Cymunedol. Efallai y byddai'n briodol i'r Cyngor weinyddu'r arian a ddyrannwyd i'r Cyfraniadau Buddiant Cymunedol, sydd wedi digwydd ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy yn y gorffennol. Mae GAVO hefyd yn gweinyddu cynlluniau Cyfraniadau Buddiant Cymunedol ar ran cymunedau. Fodd bynnag, ni fwriedir i hyn fod yn ddull safonol, a bydd y mecanwaith gweinyddu gorau yn cael ei bennu fel rhan o ddatblygiad y Cyfraniadau Buddiant Cymunedol. Gallai hyn gynnwys defnyddio Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC) neu Ymddiriedolaeth Elusennol.  Mae Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO) wedi'u strwythuro i gynrychioli buddiannau'r gymuned. Fel arfer mae ganddynt aelodau lleol a strwythur llywodraethu sy'n sicrhau bod penderfyniadau ynghylch dyrannu cronfeydd yn cael eu gwneud gyda mewnbwn cymunedol.

Pwrpasau Cymdeithasol, Economaidd, Amgylcheddol a Diwylliannol

Bydd y data, y wybodaeth a'r ymgysylltiad unigryw â chymunedau yn pennu'r meini prawf mwyaf priodol ar gyfer pob Cyfraniadau Buddiant Cymunedol.  Fodd bynnag, cynaliadwyedd hirdymor cymunedau fydd canolbwynt y datblygiad a bydd y Cyngor yn ceisio cytundeb y bydd prosiectau hirdymor yn cael eu datblygu gan ddefnyddio cyfraniadau.  Bydd prosiectau sy'n cynorthwyo gyda lles hirdymor cenedlaethau'r dyfodol, cymunedau llewyrchus, ffyniannus a chydnerth, gyda seilwaith, cyfleusterau ac amwynder natur lleol da yn cael eu ffafrio. Byddai'r meysydd dangosol yn gwneud y canlynol:

  • Buddsoddi mewn pobl ifanc drwy hyrwyddo cyfleoedd datblygu sgiliau a phrentisiaethau.
  • Cynorthwyo'r economi leol drwy hyfforddiant wedi'i dargedu a recriwtio llafur lleol, cyrchu deunyddiau, contractwyr a gwasanaethau'n lleol ac ati gan leihau'r angen i deithio a gwella cynaliadwyedd.
  • Darparu modd o leddfu amgylchiadau anfantaisiol a chodi dyheadau ymhlith unigolion a grwpiau, er enghraifft, trwy ysgoloriaethau i brifysgolion a cholegau lleol, lleoliadau gwaith ac ymweliadau â chyfleusterau gweithredol. 
  • Cynorthwyo gwasanaethau sy'n gwella cydlyniant cymunedol ac ansawdd bywyd, er enghraifft ymgysylltu â phobl ifanc a phrosiectau cyfranogiad.
  • Gwneud buddsoddiadau sy'n cyfrannu at brosiectau hirdymor cynaliadwy mewn cymunedau.
  • Cynorthwyo â chynaliadwyedd asedau sy'n eiddo i'r gymuned/a reolir gan y gymuned h.y. adeiladau cymunedol, rhandiroedd.
  • Hyrwyddo a gwella hunaniaeth leol, arbenigrwydd a diwylliant gan gydnabod yr awydd i gynorthwyo'r Gymraeg.
  • Darparu gwell cymorth a chydnabyddiaeth o anghenion trigolion sydd â nodweddion gwarchodedig. 
  • Gwneud cyfraniadau at seilwaith gwefru cerbydau trydan a'r rheidrwydd cyfunol o dargedu sero net. 
  • Darparu adnoddau i ddinasyddion ddilyn yr agenda carbon isel trwy fesurau effeithlonrwydd ynni yn y gymuned, neu glybiau ynni yn y gymuned. 
  • Darparu gwelliannau i fannau agored, prosiectau ennill net bioamrywiaeth, darparu neu gynorthwyo cynlluniau adfer neu wella tirwedd. 
  • Rhoi cyfleoedd i gymunedau fuddsoddi yn y datblygiad arfaethedig a gyda'r offer i'w galluogi i wneud gwell defnydd o'u hasedau ynni lleol; ac
  • Ychwanegu gwerth at brosiectau cymunedol presennol.

Mecanweithiau cyflawni

Y partneriaid mewn Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yw'r datblygwr a'r gymuned neu gymunedau yr effeithir arnynt.  Nid yw Cyfraniadau Buddiant Cymunedol yn gytundeb rhwng y Cyngor a'r datblygwr, a rôl y Cyngor yw arwain datblygiad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol ac eirioli ar ran cymunedau.  Fodd bynnag, am y rhesymau a nodir uchod, mae gan y Cyngor rôl allweddol i'w chwarae wrth sicrhau'r budd ariannol a lles mwyaf posibl.  Bydd y Cyngor yn gweithio gyda datblygwyr i gynorthwyo gydag unrhyw fecanwaith arfaethedig ar gyfer cyflawni, ond bydd yn ceisio sicrhau bod egwyddorion allweddol yn cael eu dilyn, a bod didwylledd, tryloywder ac atebolrwydd yn rhan annatod o'r Cyfraniadau Buddiant Cymunedol.

Egwyddorion Allweddol

  1. Rhaid i'r cynnig sicrhau buddiant diffiniedig i gymunedau lleol, gan ystyried yr egwyddor agosrwydd a gydag amcanion clir ynghylch y canlyniadau sydd i'w cyflawni.

  2. Rhaid i weinyddiaeth y gronfa gynnwys pobl leol wrth wneud penderfyniadau; er gall y datblygwr osod paramedrau'r hyn y gellir defnyddio'r Cyfraniadau Buddiant Cymunedol ar ei gyfer, dylai gynnwys pobl leol yn y penderfyniad hwn, a chynnwys pobl leol mewn penderfyniadau ar brosiectau a chynlluniau penodol.

  3. Dylid darparu cyllid i grwpiau cymunedol sydd â chyfansoddiad priodol yn hytrach nag unigolion, oni bai bod elfen o'r cynllun wedi'i neilltuo at ddibenion addysgol fel bwrsariaethau, neu brentisiaethau. Dylai cyrff cyllido sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth benderfynu pa grwpiau a phrosiectau i'w cynorthwyo. 

  4. Dylai pob proses gael cyhoeddusrwydd a bod yn dryloyw, rhaid i fodolaeth cyllid a sut y caiff ei ddefnyddio a sut y mae wedi cael ei ddefnyddio fod ar gael yn hawdd i'r cyhoedd. Dylid defnyddio gwefannau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol penodol.  Fodd bynnag, dylai allgáu digidol cydnabyddedig fod yn rhan bwysig o fod yn agored ac yn dryloyw, dylid cymryd opsiynau ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb mewn cymunedau i sicrhau bod pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn gallu cyfrannu'n gyfartal.

  5. Dylid rhoi gwybod am y defnydd o arian.  Dylai adroddiadau blynyddol gael eu cynhyrchu a'u darparu i gymunedau lleol, sy'n nodi sut mae arian wedi'i ddefnyddio, pa brosiectau neu gynlluniau sydd wedi'u cynorthwyo a pha ganlyniadau y mae hyn wedi'u harwain,

  6. Dylid rheoli ac archwilio'r modd y cedwir cronfeydd Cyfraniadau Buddiant Cymunedol'n briodol. Dylai cyfrifon sy'n dangos y defnydd o arian, gan gynnwys didyniadau ar gyfer costau gweinyddol, fod ar gael i'r cyhoedd ar ddiwedd bob blwyddyn o weithredu er mwyn cynorthwyo dealltwriaeth cymunedau, partneriaid a'u cynrychiolydd.

Cymorth cyflawni

  • Gofalu am Gaerffili Mae tîm ‘Gofalu am Gaerffili’, tîm o staff sefydledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cynnig gwasanaeth brysbennu cydgysylltu ac ymateb canolog i drigolion y Fwrdeistref Sirol sydd angen cymorth o ran materion fel tlodi bwyd, dyled neu ôl-ddyledion rhent, unigedd neu unigrwydd. Nod ‘Gofalu am Gaerffili’ yw cynnig un pwynt cyswllt i’r unigolyn gyda’r tîm, a fydd yn cynorthwyo’r unigolyn hwnnw i gyrraedd gwraidd y broblem, sy’n golygu mai dim ond unwaith y bydd angen iddo egluro ei sefyllfa. Mae'r tîm yn cysylltu â gwasanaethau presennol, o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a gyda phartneriaid, gan gynnwys y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol, gan gynorthwyo'r unigolyn hwnnw trwy ei daith gyda'r gwasanaethau amrywiol hynny, o'r dechrau i'r diwedd.  Mae'r tîm yn chwarae rhan allweddol mewn datblygu cymunedol ac yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol i wneud y mwyaf o les cymunedol ac unigolion. 
  • GAVO - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yw'r cyngor gwirfoddol sirol yng Nghaerffili. Mae GAVO yn un o 19 corff cyfryngol yng Nghymru ac mae'n sefydliad ymbarél sy'n darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth i'r sector gwirfoddol a chymunedol, gyda dros 800 o aelodau yn y Fwrdeistref Sirol. Mae GAVO yn aelod gwadd sy'n cynrychioli llais y sector gwirfoddol ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili, ac ar lefel strategol ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae GAVO yn cynorthwyo â chydweithio drwy Gynllun Lles Caerffili, Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a fforymau a rhwydweithiau.
  • Mae Swyddogion Datblygu Cymunedol a Gwirfoddoli GAVO yn darparu llywodraethu, cyllid cynaliadwy a gwirfoddoli, cymorth a chyngor i'r Trydydd Sector yng Ngwent, gan gynnwys grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb mewn helpu a chynorthwyo eu cymuned.

Manylion cyswllt

I drafod datblygiad Cyfraniadau Buddiant Cymunedol gyda'r Cyngor, cysylltwch â'r canlynol:

Astudiaethau achos

Cronfa Budd Cymunedol Oakdale

Mae Cyfraniadau Buddiant Cymunedol eisoes wedi cael effaith ar gymunedau lleol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae sawl grŵp cyfansoddol wedi cael mynediad at grantiau gan Gronfa Buddiant Cymunedol Oakdale. Mae Prosiect Ynni Gwynt Parc Busnes Oakdale yn brosiect 4MW sydd wedi'i leoli ar safle tir llwyd a arferai fod yn bwll glo.Bydd partneriaethau ar gyfer ynni adnewyddadwy yn talu rhent i'r Cyngor am ddefnyddio'r safle, a fydd yn darparu incwm ychwanegol er budd y gymuned leol.Yn ogystal, bydd pecyn budd cymunedol o £10,000 y flwyddyn, wedi'i fynegrifo am oes y fferm wynt, yn cael ei ddarparu fel rhan o'r datblygiad, i'w wario ar brosiectau a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol yn lleol. Ymhlith y derbynwyr mae Clwb Lles Glowyr Markham yng Nghoed Duon. Cyrchodd y clwb £3000 o gyllid a ddefnyddiwyd i amnewid y boeler presennol sy'n cyflenwi gwres i'r adeilad, roedd yr amnewid hwn wedi helpu effeithlonrwydd a lleihau costau rhedeg yr adeilad. Mae'r ganolfan yn gartref i gylch chwarae lleol, Cymorthfeydd y Senedd, clinigau ymweld iechyd a banc bwyd a Hyb Cynnes dros fisoedd y gaeaf. Roedd y cyllid yn targedu prosiectau sy'n cyfrannu at nodau lleol a chenedlaethol gan gynnwys nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a nodau'r Cynllun Corfforaethol.Mae eraill sydd wedi derbyn grantiau yn 2023 yn cynnwys:

  • Côr Mynyddislwyn 
  • Grwpiau Heartwise yn Argoed a Chrymlyn

Cronfa Fferm Wynt Coedwig Brechfa

Mae cyfraniadau buddiant cymunedol pellach wedi cael effaith ar gymunedau ledled Cymru. Mae Fferm Wynt Coedwig Brechfa yn brosiect 57.4MW yn Sir Gâr a gomisiynwyd yn 2018. Lansiwyd Cronfa Fferm Wynt Coedwig Brechfa RWE yn 2018 gan RWE ac mae'n werth £11 miliwn dros oes y fferm wynt. Nod y gronfa yw cynorthwyo'r cymunedau sy'n ffinio â'r fferm wynt am hyd oes 25 mlynedd y safle. Dros y tair blynedd diwethaf, yn ogystal â chynhyrchu arian cyfatebol, mae panel y gronfa wedi: 

  • Helpu i greu clwb cinio, clwb sinema a chanolfan TG newydd. 
  • Ymgysylltu ag arbenigwyr datblygu cymunedol i helpu prosiectau i ddatblygu, meithrin gallu, a dod o hyd i ddatrysiadau i heriau newydd.
  • Rhoddir grantiau i gyfleusterau cymunedol mawr eu hangen, gan gynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau eglwys, yn darparu cyllid tymor hir ar gyfer toiledau cyhoeddus. 
  • Lleihau allyriadau carbon a rhedeg drwy gyllid ar gyfer cerbydau trydan ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn ogystal â phaneli ynni haul a phwyntiau gwefru ar adeiladau cymunedol.
  • Arwain darpariaeth o ddull strategol o gynorthwyo pob ysgol yn eu hardal. 
  • Ymateb i argyfyngau fel llifogydd a'r pandemig. 
  • Ariannwyd prosiectau arloesol fel prynu tŷ bynciau gan eu hosbis leol, sy'n creu ffrwd incwm hirdymor ar gyfer yr hosbis yn ogystal â hybu cyfleoedd twristiaeth yn yr ardal.

Octopus

Mae'r Octopus Energy Group yn grŵp ynni adnewyddadwy Prydeinig sy'n arbenigo mewn ynni cynaliadwy. Octopus sy'n berchen ar y tyrbin gwynt 400kW unigol yn Fferm Cefn Bach, Deri.  Mae cwsmeriaid Octopus yn yr ardal hon (CF81 ac NP24) yn gallu elwa o hyd at 50% oddi ar eu bil ynni trydan pan fydd eu tyrbin gwynt yn troelli ac felly'n darparu ynni adnewyddadwy i gartrefi lleol. Mae Octopus yn cyfeirio at y cynllun hwn fel eu ‘Fan Club'.

Mae'r ‘Fan Club' hefyd yn buddsoddi mewn grwpiau cymunedol ac ysgolion lleol. Er enghraifft, cynhaliodd Octopus ddigwyddiad cymunedol i ddathlu tîm pêl-droed dynion Rhyngwladol Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed.

Bute Energy

Mae Gweledigaeth Buddiant Cymunedol y datblygwr Bute Energy o Gaerdydd yn cael ei llywio a'i danategu gan waith mapio manwl. Mae'r cwmni'n defnyddio ymchwil sylfaenol ac eilaidd i fapio anghenion cymunedau sy'n agos at eu Parciau Ynni arfaethedig i'w galluogi i nodi blaenoriaethau buddsoddi tra-lleol ar gyfer pob cymuned. Mae'r gwaith mapio a wneir gan Bute yn helpu i nodi themâu strategol allweddol ar gyfer effaith gadarnhaol, gan gynnwys symudedd cymdeithasol ac addysg; sy'n helpu i dargedu Buddsoddiad Cymunedol Bute Energy. 

Mae mapio cymunedau ac ymgysylltu manwl â phobl leol a grwpiau rhanddeiliaid wedi helpu i nodi pum thema strategol allweddol ar gyfer effaith gadarnhaol:

  • Symudedd Cymdeithasol: gwneud y mwyaf o gyfleoedd cymorth a hyfforddiant lleol, gan ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
  • Addysg: annog diddordeb mewn pynciau STEM a newid yn yr hinsawdd 
  • Hamdden ac Iechyd:  Gwella mynediad at weithgareddau hamdden ac iechyd.
  • Amgylchedd a Diwylliant:  Hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a gwella amgylcheddol Cymreig lleol.
  • Costau Byw Cydweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, gan ganolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni.

Mae'r pum thema bellach yn sail ar gyfer strategaeth Buddsoddi Gymunedol Bute Energy, ac ochr yn ochr ag ymchwil barhaus ac ymgysylltu â'r gymuned, byddant yn helpu i dargedu Cyfraniadau Buddiant Cymunedol lleol.