Datganiad Cyfrifon Drafft - Hysbysiad Statudol 2023–2024

Mae Datganiad Cyfrifon Drafft 2023–2024 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei baratoi yn unol â Chodau Ymarfer Cyfrifyddu Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), Safonau Cyfrifyddu a Darpariaethau Statudol perthnasol. Fodd bynnag, nid yw'r cyfrifon hyn wedi'u cwblhau nac eu hardystio gan y Swyddog Cyllid Cyfrifol erbyn y dyddiad cau statudol, sef 31 Mai 2024, ac, felly, mae angen yr hysbysiad a ganlyn yn unol ag adran 10(4) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014:

  • Mae amharu wedi bod ar yr amserlen safonol ar gyfer paratoi cyfrifon yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar draws y sector Llywodraeth Leol yn bennaf oherwydd yr heriau mae pandemig COVID-19 wedi'u hachosi, yr argyfwng costau byw, problemau capasiti a gofynion archwilio newydd. Felly, nid yw'r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi llofnodi nac ardystio'r cyfrifon drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024.
  • Mae'r Awdurdod yn bwriadu cwblhau'r gwaith o baratoi Datganiad Cyfrifon Drafft 2023–2024 erbyn 30 Mehefin 2024, yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Wedyn, bydd y Swyddog Cyllid Cyfrifol yn ystyried y gofyniad i lofnodi ac ardystio'r cyfrifon yn unol â'r rheoliadau perthnasol.
  • Ar ôl eu cwblhau, bydd y Cyfrifon Drafft yn destun archwiliad cyhoeddus ac archwiliad allanol fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru).