Mwstro Tîm Caerffili

Trosolwg o'r Prosiect

Projects Overview

DARGANFOD MWY

Trosolwg o'r Gyllideb

Budget Overview

DARGANFOD MWY

Dweud Eich Dweud

Have your say

DARGANFOD MWY

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu heriau economaidd digynsail.

 

Fel pob awdurdod lleol ar draws y DU, nid yw’r dirwedd economaidd erioed wedi bod yn fwy cymhleth. Dros y 2 flynedd ariannol nesaf, bydd angen i'r Cyngor arbed £45 miliwn. 

 

I roi hyn mewn persbectif, hyd yn oed pe bai'r Cyngor yn rhoi'r gorau i gynnal casgliadau gwastraff ac ailgylchu; atal holl waith atgyweirio priffyrdd; cau pob canolfan hamdden; cael gwared ar yr holl wasanaethau arlwyo a glanhau strydoedd; a chael gwared ar yr holl ddarpariaeth ar gyfer parciau gwledig ledled y Fwrdeistref Sirol – bydden ni'n arbed £40 miliwn (sydd dal yn sylweddol is na’n targed 2 blynedd).

Arweinydd y Cyngor - Cllr Sean Morgan

 

Damcaniaeth yn unig yw honno, ond mae'n dangos maint yr her sy'n ein hwynebu.

 

Byddai methu â chyflawni hyn yn golygu bod angen i'r Cyngor roi hysbysiad Adran 114 i Lywodraeth Cymru (fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn awdurdodau lleol ledled Lloegr).

 

Mae hon yn her frawychus a difrifol rydyn ni fel awdurdod lleol yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff y Cyngor wedi bod yn gweithio'n ddiflino i groesawu'r her hon ac i archwilio nid yn unig sut mae modd gwneud arbedion, ond hefyd sut mae modd ad-drefnu ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein trigolion yn well.

 

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid a gwella ein gwasanaethau, fel rhan o raglen gyffrous o newid cadarnhaol sydd wedi cyflymu ar draws y sefydliad cyfan yn y misoedd diwethaf.

 

Ar yr adeg dyngedfennol hon i’n Bwrdeistref Sirol, mae’n hollbwysig eich bod chi – ein trigolion – wrth galon y penderfyniadau hyn.

 

Bydd yr adran hon o'r dudalen we yn rhoi diweddariadau byw ar y prosiectau sy'n cael eu hystyried, yr ymgynghoriadau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, a'r canlyniadau y bydd eich barn yn helpu i'w llunio.

 

Wrth i'r rhaglen newid hon ddatblygu, bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei llenwi.

DWEUD EICH DWEUD