Trosolwg o'r Gyllideb
Eglurhad o gyllideb ein Cyngor
Fel sydd wedi'i grybwyll, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu heriau economaidd digynsail.
Dros y 2 flynedd ariannol nesaf, bydd angen i'r Cyngor arbed £45 miliwn.
Er mwyn gwerthfawrogi maint yr her hon yn llawn, mae'n bwysig deall sut mae'r Cyngor yn dyrannu arian i'n gwasanaethau. Mae mwyafrif helaeth cyllideb refeniw net y Cyngor yn cael ei gwario ar addysg (39%) a gofal cymdeithasol (29%). Mae costau sylweddol eraill sy’n cael eu hegluro yn y llun isod:
- Addysg a Dysgu Gydol Oes - £173m (39%) Ysgolion, Gwasanaethau Ieuenctid, Y Blynyddoedd Cynnar ac ati
- Gwasanaethau Cymdeithasol - £129m (29%) Gwasanaethau i Oedolion, Gwasanaethau i Blant, Gofal Cartref ac ati
- Economi a'r Amgylchedd - £56m (13%) Priffyrdd, Diogelwch y Cyhoedd, Gwastraff ac Ailgylchu, Parciau, Chwaraeon a Hamdden ac ati
- Gwasanaethau Corfforaethol - £34m (8%) Cyfreithiol, Cyllid, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau TG ac ati
- Cyllid Amrywiol - £47m (11%) Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, Archebiannau, Taliadau Dyled ac ati
Ar hyn o bryd, mae gan Gyngor Caerffili gyllideb refeniw net flynyddol o £439 miliwn ac mae'r swm sylweddol hwn o arian yn cael ei ddefnyddio i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo anghenion pobl o bob oed ledled y Fwrdeistref Sirol.
Dyma ddadansoddiad llawn o ble daeth yr arian yn 2023/24:
Cyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru
|
£340m
|
77.5%
|
Incwm Treth y Cyngo
|
£83m
|
18.9%
|
Defnydd o Gronfeydd wrth Gefn
|
£16m
|
3.6%
|
Mae llawer o bobl yn credu bod Treth y Cyngor yn talu am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Cyngor, ond dim ond 18.9% o gyfanswm cyllideb refeniw net y Cyngor yw’r elfen hon.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae dau brif ffactor sy’n achosi pwysau sylweddol ar ein cyllideb:
- Costau cynyddol darparu a chynnal ein gwasanaethau a,
- Chyfraniadau ariannol Llywodraeth Cymru yn methu â chwrdd â'r cynnydd yn y gyfradd y mae ein gwariant wedi cynyddu.
Mae'r ddau ffactor cyfunol hyn wedi creu'r angen i leihau costau rhedeg ein gwasanaethau yn gyflym. Mae’r rhaglen newid hon wedi’i chynllunio i wneud hyn mewn ffordd sydd nid yn unig yn cyfrannu at yr arbediad hwn ond sydd hefyd yn ein galluogi ni i fanteisio ar y cyfle i ailgynllunio ein gwasanaethau a’n darpariaethau i weddu’n well i anghenion ein trigolion.
Ar yr adeg dyngedfennol hon i’n Bwrdeistref Sirol, mae’n hollbwysig eich bod chi – ein trigolion – wrth galon y penderfyniadau hyn.
DWEUD EICH DWEUD