Teleofal

  • Maes gwasanaeth: Cyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Maes gwaith: Gwasanaethau i Oedolion
  • Manylion cyswllt: Jo Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol willij6@caerffili.gov.uk 01443 864611
  • Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Gwasanaethau Teleofal
  • Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Gwasanaethau Teleofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi wedi ei darparu amdanoch chi'ch hun (data personol) wrth gysylltu â'r gwasanaeth yn uniongyrchol neu pan fydd sefydliad/unigolyn arall wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, neu wedi gwneud atgyfeiriad ato.

Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth

Ffynhonnell a'r math o wybodaeth sy'n cael ei phrosesu

Bydd Gwasanaethau Teleofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn storio unrhyw fanylion sy'n ymwneud â'ch sefyllfa mewn ffordd a fydd yn helpu'r Cyngor i'ch cynorthwyo chi i ddiwallu eich anghenion ac/neu anghenion eich teulu.

Bydd yr adran hon yn esbonio'r categorïau o ddata personol a allai gael eu rhannu â ni a'r math o sefydliadau/unigolion a all roi gwybodaeth i ni.

Categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu

Gall Gwasanaethau Teleofal gasglu'r categorïau canlynol o ran eich data personol, a'u cadw nhw:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhywedd
  • Manylion cyswllt
  • Rhif Yswiriant Gwladol (eich dynodwr unigryw)
  • Rhif eich cyfrif gwasanaethau cymdeithasol (os yw'n berthnasol)
  • Ethnigrwydd
  • Crefydd

Gall Gwasanaethau Teleofal hefyd gasglu gwybodaeth fwy penodol, a'i chadw a'i phrosesu, gan gynnwys:

  • Cofnodion o unrhyw ymweliadau neu gysylltiad rydych chi wedi'u gwneud, neu rydyn ni wedi'u gwneud â chi. Mae hyn yn cynnwys recordiadau llais o'r holl alwadau i'r ganolfan reoli, ac oddi yno.
  • Cofnodion o unrhyw achosion o actifadu eich offer Teleofal, neu hysbysiadau oddi wrth eich offer Teleofal, gan gynnwys recordiadau llais os yw'n berthnasol.
  • Gwybodaeth am aelodau eraill eich cartref.
  • Manylion am berthnasau teuluol yn eich cartref, a'r tu allan iddo.
  • Enwau a manylion cyswllt eich perthnasau agos a/neu eich gofalwyr.
  • Enwau a manylion cyswllt pobl eraill rydych chi, neu eich eiriolwr, wedi'u henwebu fel pobl gyswllt neu ymatebwyr personol (er enghraifft, ffrind neu gymydog).
  • Manylion eich meddyg teulu ac unrhyw ymarferwyr iechyd eraill sy'n rhoi cymorth i chi, er enghraifft, nyrsys ardal.
  • Manylion eich darparwyr cyfleustodau a gwasanaethau cyfathrebu, a'r math o linell ffôn sydd gennych chi (analog neu ddigidol).
  • Manylion eich landlord cymdeithasol cofrestredig.
  • Manylion am unrhyw wasanaethau eraill rydych chi'n eu cael.
  • Manylion am eich anghenion ym mhob rhan o'ch bywyd (er enghraifft, eich anghenion gofal a chymorth).
  • Manylion am eich iechyd corfforol.
  • Manylion am eich iechyd meddwl a'ch galluedd.
  • Manylion am eich meddyginiaeth.
  • Manylion am eich lles.
  • Gwybodaeth sy'n cael ei defnyddio i asesu eich sefyllfa, fel asesiadau ac adroddiadau.
  • Pethau mae sefydliadau eraill (fel cartrefi iechyd neu ofal) ac unigolion sy'n rhoi cymorth i chi (yn bersonol ac yn broffesiynol) yn dweud wrthym ni i'n helpu ni i ddeall eich sefyllfa a'ch anghenion, a chydlynu eich gwasanaethau gofal yn fwy effeithiol.
  • Unrhyw anghenion ychwanegol neu anabledd.
  • Manylion eich canlyniadau personol.
  • Manylion eich gwybodaeth ffordd o fyw.
  • Gwybodaeth am fynediad i'ch cartref, gan gynnwys lleoliadau coffrau allweddi, a'r codau.
  • Gwybodaeth am unrhyw risg posibl i bobl sy'n ymweld â'ch cartref (er enghraifft, anifail anwes amddiffynnol).
  • Gwybodaeth ariannol.
  • Cofnod troseddol.
  • Cyfiawnder Adferol.
  • Amddifadu o Ryddid.
  • Gwybodaeth am eich eiddo a'ch deiliadaeth.
  • Gwybodaeth am absenoldebau o'r cartref, er enghraifft, gwyliau neu gyfnodau yn yr ysbyty.
  • Eich dewis o ran gohebiaeth.
  • Gwybodaeth am pam rydych chi eisiau neu angen y gwasanaeth Teleofal, a sut mae'r gwasanaeth o fudd i chi, gan gynnwys ymatebion i adolygiadau o'r gwasanaeth ac adborth mewn arolygon boddhad.
  • Gwybodaeth yn ymwneud â chynnal a chadw eich offer Teleofal
  • Eich rhesymau dros beidio â defnyddio'r gwasanaeth.
  • Dadansoddiad o'ch defnydd o'r gwasanaeth i nodi anghenion cymorth pellach.
  • Cofnodion o atgyfeiriadau ymlaen i adrannau ac asiantaethau eraill i ddarparu cymorth.

Ffynhonnell y data personol

Mae Gwasanaethau Teleofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ac yn cofnodi gwybodaeth amdanoch chi o amrywiaeth o ffynonellau. Gallai'r wybodaeth hon ddod i law gan y canlynol:

  • Chi
  • Aelodau o'ch teulu
  • Eich cysylltiadau personol/rhwydwaith cymorth (wedi'u henwebu gennych chi neu'ch eiriolwr)
  • Gwasanaethau brys
  • Adrannau a chronfeydd data eraill yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Awdurdodau lleol eraill
  • Awdurdodau iechyd/gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Y Llys Gwarchod
  • Cwmnïau cyfleustodau
  • Darparwyr gwasanaethau cyfathrebu
  • Cyrff rheoleiddio – Arolygiaeth Gofal Cymru/Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
  • Cynrychiolwyr cyfreithiol
  • Gweithwyr gofal proffesiynol
  • Trefnwyr angladdau
  • Asiantaethau partner

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ffynhonnell yr wybodaeth sydd gennym ni, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Er mwyn gwneud hyn, efallai y bydd gofyn i chi wneud Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Gwasanaethau Teleofal

Mae Gwasanaethau Teleofal yn darparu offer Teleofal, ac yn ymateb i alwadau sy'n cael eu cynhyrchu gan yr offer hynny, i ddefnyddwyr cymwys y gwasanaeth. Mae'r offer yn galluogi defnyddwyr y gwasanaeth i gysylltu â'n Canolfan Reoli i geisio cymorth, gan gynnwys cymorth ar gyfer argyfyngau meddygol neu gymdeithasol. Gall yr offer hefyd gynnwys synwyryddion sy'n ysgogi galwad yn awtomatig i'r Ganolfan Reoli pan fydd paramedr wedi'i fodloni (er enghraifft, synwyryddion mwg sy'n synhwyro tân neu synwyryddion syrthio sy'n synhwyro cwymp posibl). Bydd gweithredwyr y Ganolfan Reoli yn defnyddio gwybodaeth wedi'i darparu gan ddefnyddiwr y gwasanaeth a/neu'r synhwyrydd, ynghyd â gwybodaeth sy'n cael ei chadw am y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw a'i ymatebwyr personol, er mwyn penderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol, a'i weithredu. Weithiau, gall fod angen ymgynghori â phobl gyswllt bersonol neu ymatebwyr, neu weithwyr proffesiynol sy'n rhoi cymorth i'r unigolyn, i benderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol. Pan fydd angen gwasanaethau neu asiantaethau eraill i hwyluso cymorth, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhoi iddyn nhw, ond dim ond yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw er mwyn ymateb.

Mae'r dibenion eraill y gall Gwasanaethau Teleofal brosesu a rhannu eich gwybodaeth ar eu cyfer yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • Cofrestru a phrosesu ceisiadau am y gwasanaeth.
  • Gosod a chynnal yr offer wedi'u gosod at ddibenion cyflawni'r gwasanaeth.
  • Sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi yn gywir.
    • Byddwn ni'n cysylltu â chi neu eiriolwr i adolygu'ch data.
  • Sicrhau bod eich offer yn gweithio; gall hyn hefyd gynnwys y canlynol:
    • Galwad a/neu lythyr ar eich pen-blwydd bob blwyddyn, yn gofyn i chi brofi eich offer.
    • Cysylltu â chi, neu eich rhwydwaith cymorth personol neu broffesiynol, i wirio neu brofi eich offer naill ai fel rhan o wiriad arferol neu yn dilyn digwyddiad a allai effeithio ar eich offer, er enghraifft, toriad pŵer.
  • Rheoli ochr ariannol ein contract gyda chi
    • Anfon anfonebau.
    • Rheoli taliadau, gan gynnwys peidio â thalu.
    • Eich hysbysu chi am newidiadau i gostau.
  • Rheoli ein perthynas â chi
    • Eich hysbysu chi am newidiadau i'r gwasanaeth, telerau ac amodau neu bolisi preifatrwydd.
    • Gofyn i chi roi adborth neu lenwi arolwg i'n helpu ni i wella'r gwasanaeth.
  • Sicrhau ansawdd y gwasanaeth
    • Gofyn i chi roi adborth neu lenwi arolwg i'n helpu ni i wella'r gwasanaeth.
    • Gwneud gwiriadau ansawdd ar alwadau er mwyn llywio adolygiadau gwasanaeth ac adolygiadau staff.
    • Rheoli cwynion.
    • Llunio adroddiadau ar faterion rheoli a dangosyddion perfformiad allweddol.
    • Trwy ddarparu gwybodaeth i archwilwyr.
  • Dadansoddiad o'ch defnydd o'r gwasanaeth i nodi anghenion cymorth pellach.

Hefyd, mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu manylion am eich rhif ffôn llinell dir, a'r uned Larwm Teleofal sydd gennych chi, â darparwyr gwasanaethau cyfathrebu er mwyn sicrhau nad yw'r newid o analog i ddigidol yn effeithio ar eich gwasanaeth Teleofal, a hefyd i atal unrhyw oedi wrth newid o analog i ddigidol lle na fyddai unrhyw effaith ar eich offer Teleofal.

Os bydd amheuaeth, ar unrhyw gam o'r broses, y gallai oedolyn fod mewn perygl, bydd Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed yn cael eu gweithredu, a gallai hyn arwain at ymchwiliad ac asesiad ffurfiol. Gall hyn gynnwys nifer o asiantaethau, fel yr heddlu neu'r maes iechyd.

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o erthygl 6 o'r Rheoliad, sydd wedi'i amlinellu isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

1(b) processing is necessary for the performance of a contract to which the data subject is party or in order to take steps at the request of the data subject prior to entering into a contract.

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw ‘data personol categori arbennig’. Os bydd unrhyw wybodaeth yn dod o fewn y diffiniad o ddata personol categori arbennig, yna mae'n rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 9 o'r Rheoliadau.

Mae deddfwriaeth Diogelu Data hefyd yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer data personol mewn perthynas ag euogfarnau troseddol a throseddau. Os bydd unrhyw ddata personol yn dod o fewn y categori hwn, yna mae'n rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 10 o'r Rheoliadau.

Mae'r amod isod yn amod Erthygl 9 ac Erthygl 10 ar gyfer prosesu. (Nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.)

2 (1) This condition is met if the processing is necessary for health or social care purposes.

(2) In this paragraph “health or social care purposes” means the purposes of—

(a) preventive or occupational medicine,

(b) the assessment of the working capacity of an employee,

(c) medical diagnosis,

(d) the provision of health care or treatment,

(e) the provision of social care, or

(f) the management of health care systems or services or social care systems or services.

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth?

Manylion y Rheolydd Data a'r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

  • Mr Carl Evans
  • Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol/Swyddog Diogelu Data
  • E-bost: DiogeluData@caerffili.gov.uk
  • Ffôn: 01443 864322

Efallai y bydd Rheolyddion Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r maes gwasanaeth.

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Prif ddefnyddwyr eich gwybodaeth fydd Gwasanaethau Teleofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Os bydd gofyn am gamau pellach neu weithrediad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn eich achos chi, bydd eich gwybodaeth/data yn cael eu trosglwyddo i dîm o fewn Gwasanaethau i Oedolion i gael y gwasanaethau neu'r cymorth priodol. Gall y timau hyn gynnwys:

  • Timau Pobl Hŷn
  • Tîm Therapi Galwedigaethol
  • Tîm Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
  • Tîm Anableddau Dysgu
  • Tîm Camddefnyddio Sylweddau
  • Tîm Iechyd Meddwl
  • Tîm Cefnogi Pobl
  • Gwasanaethau Cymorth Cymunedol
  • Tîm Plant ag Anableddau
  • Timau Llety i Oedolion (Byw â Chymorth, Cysylltu Bywydau a Seibiant)
  • Tîm Comisiynu
  • Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
  • Tîm Cymorth Cartref ac Ailalluogi
  • Tîm Rhyddhau o Ysbyty ar y Cyd
  • Tîm Diogelu Oedolion/Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
  • Tîm Cyllid Cleientiaid

Gall eich gwybodaeth/data hefyd gael eu trosglwyddo i dîm o fewn Gwasanaethau i Blant os oes plant yn byw gyda chi mewn amgylchiadau lle mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol er mwyn iddyn nhw gael y gwasanaethau neu'r cymorth priodol.

Yn ychwanegol at yr uchod, efallai y bydd gan y timau canlynol fynediad at eich gwybodaeth hefyd:

  • Adran Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – os ydych chi'n denant Tai y Cyngor ac mae'r cymorth sydd ei angen arnoch chi yn gysylltiedig â thai
  • Tîm Dyletswydd Brys De-ddwyrain Cymru – os yw atgyfeiriad yn cael ei wneud y tu allan i oriau
  • Tîm Cwynion a Gwybodaeth – os yw'r achos yn cynyddu i gŵyn
  • Gwasanaethau Cyfreithiol – os yw'r achos yn ymwneud â phroses y llys
  • Tîm Treth y Cyngor/Budd-daliadau – er mwyn gwirio'ch cymhwyster am gostau â chymhorthdal am y gwasanaeth
  • Tîm Gwasanaethau Ariannol – os yw'ch achos yn cael ei asesu ar gyfer asesiad ariannol
  • Gwasanaethau Yswiriant – os oes hawliad yn erbyn yr Awdurdod
  • Tîm Iechyd a Diogelwch – os oes angen asesiad risg
  • Timau Cyllid Corfforaethol/Archwilio Mewnol – os oes angen archwiliad

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio ar gronfa ddata Gwasanaethau Teleofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a hefyd ar System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru, sef system ar y cyd ar gyfer darparwyr gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl yng Nghymru.

Bydd mynediad at eich gwybodaeth yn cael ei reoli, gan ganiatáu i ymarferwyr perthnasol ddefnyddio'r wybodaeth ofynnol i gynorthwyo darparu gofal diogel i ddinasyddion Cymru.

Gall eich gwybodaeth bersonol (enw, cyfeiriad, rhifau ffôn cyswllt) gael ei defnyddio ar daenlenni i helpu rheoli a monitro'r canlynol:

  • Ceisiadau am y gwasanaeth
  • Rheoli gwaith cynnal a chadw offer
  • Ffurflenni adolygu data blynyddol
  • Canslo gwasanaeth a chasglu offer
  • Rhestr cofnodion wedi'u dileu

Manylion am unrhyw achos o rannu eich gwybodaeth â sefydliadau ac unigolion eraill

Bydd ein gweithredoedd mewn ymateb i'r wybodaeth sy'n dod i law yn gymesur â'r wybodaeth, a gall fod adegau pan fydd angen i ni siarad neu ymgynghori â chydweithwyr yn allanol. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

Pan fyddwch chi neu'ch offer yn cysylltu â ni, gall y gweithredwr Gwasanaethau Teleofal basio'ch gwybodaeth/data i drydydd parti er mwyn hwyluso ar unwaith y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn ni hefyd yn trosglwyddo'ch gwybodaeth/data i drydydd parti er mwyn hwyluso cymorth parhaus.

Gall y trydydd parti hwn gynnwys:

  • Gwasanaethau brys
  • Eich pobl gyswllt bersonol/rhwydwaith cymorth (wedi'u henwebu gennych chi neu'ch eiriolwr)
  • Eich meddyg teulu neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
  • Gofalwr neu asiantaethau gofal
  • Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu staff y Tîm Tai
  • Peirianwyr yr offer larwm
  • Gwasanaethau cyfieithu
  • Awdurdodau lleol eraill
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Y Llys Gwarchod
  • Cwmnïau cyfleustodau
  • Darparwyr gwasanaethau cyfathrebu
  • Aelodau o'ch teulu
  • Awdurdodau iechyd
  • Cyrff rheoleiddio – Arolygiaeth Gofal Cymru/Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
  • Cynrychiolwyr cyfreithiol
  • Gweithwyr gofal proffesiynol
  • Trefnwyr angladdau
  • Asiantaethau partner

Weithiau, bydd angen ymyriad anstatudol ar gyfer eich anghenion. Yn yr achosion hyn, bydd atgyfeiriad yn cael ei wneud i sefydliadau perthnasol ar eich rhan, megis Canolfan Cyngor ar Bopeth neu grwpiau cymorth eraill ac ati.

Os na fydd aelod o staff Gwasanaethau Teleofal yn gallu ymateb i alwadau, er enghraifft oherwydd argyfwng mawr yn yr ystafell reoli, mae gennym ni gontract ar waith i ddargyfeirio'r gwasanaeth i ganolfan reoli arall er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth. Bydd gan y ganolfan dan gontract hon fynediad i'r llwyfan trin galwadau UMO yn ystod y cyfnod dargyfeirio.

Os bydd angen sefydlu contractau eraill gyda darparwr allanol, i ddarparu gwasanaeth neu gymorth perthnasol, bydd yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu â'r darparwr i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu'n llwyddiannus.

Bydd pob achos o rannu eich data personol â sefydliadau eraill yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion deddfwriaeth diogelu data.

Os byddwch chi'n symud y tu allan i ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, efallai y bydd eich data personol yn cael eu rhannu â'ch awdurdod lleol newydd er mwyn parhau i roi cymorth i chi er mwyn diwallu eich anghenion chi a/neu anghenion eich teulu.

Ceisiadau am wybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth Diogelu Data.

Os bydd yr wybodaeth wedi'i darparu gennych chi yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch chi'n gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.
 

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth?

Manylion am y cyfnod cadw

Mae pa mor hir y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau. Dim ond am gyfnod penodol o amser y mae'ch gwybodaeth yn cael ei chadw, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei dinistrio'n ddiogel yn unol â Pholisi Cadw a Gwaredu Cofnodion y Gyfadran.

Bydd natur yr wybodaeth sydd gennym ni yn pennu faint o amser rydyn ni'n ei chadw.

 

Cofnod gwybodaeth bersonol
Cofnodion galwadau
Cytundebau Lefel Gwasanaeth a ffurflenni TAW

Yn cael eu cadw am gyfnod y contract ac am o leiaf 7 mlynedd ar ôl terfynu'r contract.
 

Recordiadau llais

Yn cael eu cadw am 2 flynedd

Taenlenni i reoli atgyfeiriadau; gosod, cynnal a chadw, a chasglu offer; ac adolygu

Yn cael eu cadw am 7 mlynedd

Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)

Eich hawliau o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheini y mae'r wybodaeth yn sôn amdanyn nhw):

  • Hawl i gael mynediad at ddata gan y testun – mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan: Ffurflen Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk

Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ffurflen hon.

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych chi'n anfodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth chi, mae gennych chi'r hawl i gwyno.  Cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion chi.  

Os byddwch chi'n parhau'n anfodlon, mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.   Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon.