Ceisiadau tacsi

  • Man Gwasanaeth: Diogelu'r Cyhoedd
  • Maes Gwaith: Trwyddedu
  • Manylion Cyswllt: 01443 866750 trwyddedu@caerffili.gov.uk
  • Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Ceisiadau tacsi yn unol â Deddf Llywodraeth Leol
  • (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847.
  • Disgrifiad o Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd y rhybudd preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych amdanoch eich hun os byddwch yn gwneud cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni/Hurio Preifat, Cerbyd Hacni /Hurio Preifat neu Drwydded Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat.

Sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu

Defnyddir y wybodaeth a ddarperir gennych i brosesu eich cais(ceisiadau) ar gyfer trwydded yrru cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat, trwydded Cerbyd Hacni neu Gerbyd Hurio Preifat a thrwydded Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat. Defnyddir y wybodaeth hon i benderfynu ar addasrwydd eich cerbyd yn awr ac yn y dyfodol at ddibenion trwyddedu.

Lle mae trwyddedau yn cael eu penderfynu gan Bwyllgor, mae’r agenda ar gael i’r cyhoedd trwy ein gwefan. Bydd manylion personol serch hynny’n cael eu cadw’n gyfrinachol.

Mae hefyd gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal cofrestrau cyhoeddus yn unol â'r ddeddfwriaeth uchod. Os yw’n berthnasol, bydd y wybodaeth ganlynol amdanoch yn cael ei chadw ar gofrestr gyhoeddus:

  • Enw, rhif trwydded:
  • Dyddiad a chyfnod y drwydded a roddwyd (trwydded yrru cerbyd hurio preifat yn unig)

Bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion enillion statudol, cydymffurfiaeth ac adolygiadau gwasanaethau cwsmeriaid.

Ffynhonnell a chategorïau data personol

Yn ychwanegol at y wybodaeth a ddarperir gennych, efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth i benderfynu ar eich addasrwydd neu addasrwydd eich cerbyd yn awr ac yn y dyfodol at ddibenion trwyddedu. Gall y wybodaeth hyn ddod o ffynonellau eraill fel awdurdodau lleol eraill lle yr oedd gennych drwydded yn y gorffennol neu o’r Heddlu.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Mae rhwymedigaeth tasg gyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth a nodir isod:

  • Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
  • Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847.

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o erthygl 6 o'r Rheoliad, a amlinellir isod:

1e. mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolwr;

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw ‘data personol arbennig’. Os bydd unrhyw wybodaeth yn dod o fewn y diffiniad o ddata personol arbennig, yna rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 9 o'r Rheoliadau, fel yr amlinellir isod:

Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1 / Rhan 2

6(1) Cyflawnir yr amod hwn os yw'r prosesu —

  1. Yn angenrheidiol at ddiben a restrir yn is-baragraff (2), a

  2. Yn angenrheidiol oherwydd rhesymau o fudd sylweddol y cyhoedd.

Y dibenion hynny yw -

  1. ymarfer swyddogaeth a roddwyd i berson drwy ddeddfiad neu reol gyfreithiol;

  2. ymarfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu adran y llywodraeth.

Mae deddfwriaeth Diogelu Data hefyd yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer data personol mewn perthynas ag euogfarnau troseddol a throseddau. Os bydd unrhyw ddata personol yn dod o fewn y categori hwn, yna mae'n rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 10 o'r Rheoliadau.

Mae'r amod uchod yn amod Erthygl 9 ac Erthygl 10 ar gyfer prosesu.

Pwy fydd yn gallu cyrchu eich gwybodaeth?

Manylion y Rheolwr Data a'r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolwr Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

  • Mr Carl Evans
  • Y Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol/Swyddog Diogelu Data E-bost: diogeludata@caerffili.gov.uk
  • Ffôn: 01443 864322

Efallai y bydd Rheolwyr Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth.

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Prif ddefnyddiwr eich gwybodaeth fydd yr Adrannau Trwyddedu a Safonau Masnach, a fydd yn cael cymorth cyfreithiol gan Wasanaethau Cyfreithiol CBSC.

Lle na ellir benderfynu ar geisiadau am drwyddedau gan swyddogion o dan bwerau dirprwyedig, penderfynir ar geisiadau Is-bwyllgor sy'n cynnwys aelodau etholedig.

Lle mae trwyddedau yn cael eu penderfynu gan Bwyllgor, mae’r agenda ar gael i’r cyhoedd trwy ein gwefan. Bydd manylion personol, serch hynny’n cael eu cadw’n gyfrinachol.

Mae gennym hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal cofrestru cyhoeddus yn unol â'r ddeddfwriaeth uchod. Os yw’n berthnasol, bydd y wybodaeth ganlynol amdanoch yn cael ei chadw ar gofrestr gyhoeddus:

  • Enw, rhif trwydded:
  • Dyddiad a chyfnod y drwydded a roddwyd (trwydded yrru cerbyd hurio preifat yn unig)

Manylion am unrhyw rannu o'ch gwybodaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Efallai byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r meysydd gwasanaeth canlynol:

  • Uned Drafnidiaeth Integredig, Rheoli Fflyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at ddibenion diogelu'r cyhoedd, gan gynnwys plant ac oedolion sy'n agored i niwed
  • Treth y Cyngor a Budd-daliadau Tai at ddiben canfod ac atal twyll ar bwrs y wlad

Manylion am unrhyw rannu o'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill

Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu lle mae sail gyfreithiol dros wneud hynny gyda'r sefydliadau canlynol:

  • Cwmnïau/Darparwyr Yswiriant
  • Awdurdodau Lleol Eraill, gall hyn gynnwys rhannu gwybodaeth fanwl gydag awdurdodau lleol eraill mewn perthynas â'r rheswm dros ein gwrthodiad/dirymiad,
  • Eich Meddyg,
  • Awdurdodau statudol eraill, er enghraifft, ac nid yn gyfyngedig i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Swyddfa'r Cabinet, y Swyddfa Gartref, y Comisiwn Archwilio, yr Adran Drafnidiaeth, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yr Heddlu neu asiantaeth debyg, lle mae rhannu eich data yn hanfodol.
  • Cyrff cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy'n defnyddio technegau paru data i gasglu trethi, canfod ac atal twyll ar bwrs y wlad neu gynorthwyo i ymchwilio a chanfod trosedd, erlyn troseddwyr, amddiffyn eiddo a chynnal cyfraith a threfn, fel Menter Atal Twyll.
  • Efallai y bydd gofyn i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda'r Heddlu, neu asiantaeth debyg, neu Gyngor arall at ddibenion atal a chanfod twyll.
  • •     Cofrestr Genedlaethol o Dirymiadau a Gwrthodiadau Trwyddedau Tacsi (NR3) er mwyn rhannu gwybodaeth am ddiddymiadau trwyddedau gyrru a gwrthod ceisiadau.

Manylion am unrhyw broseswyr data allanol

Mae Diamond People Ltd (darparwr cronfa ddata) yn darparu diweddariadau i'r system a chynnal cofnodion a / neu gofrestrau. Bydd prosesu data yn unol â'r cytundeb prosesydd data sydd ar waith.

Ceisiadau am wybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gedwir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Diogelu Data 1998.

Os bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch yn gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, byddwn yn cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Manylion am y cyfnod cadw

Mae'r cyfnod y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Yn unol â Pholisi Cadw Data Diogelu'r Cyhoedd, cedwir y wybodaeth fel a ganlyn:

  • Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat – Hyd y drwydded berthnasol yn ogystal â 3 blynedd ac ardystiadau meddygol
  • Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat (lle gwrthodwyd neu diddymwyd trwydded) - hyd at 25 mlynedd
  • Cerbyd Hacni a Cherbydau Preifat - Hyd y drwydded berthnasol yn ogystal ag 1 flwyddyn
  • Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat - Hyd y drwydded berthnasol yn ogystal â 5 mlynedd

Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwynion)

Eich hawliau dan gyfraith Diogelu Data

Mae'r ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheiny y mae'r wybodaeth yn sôn amdanynt):

  • Hawl i gael mynediad at ddata gan y testun - Mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan: Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk

Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch â'r maes gwasanaeth y manylir arno ar frig y ffurflen hon.

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych chi'n anfodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth chi, mae gennych chi'r hawl i gwyno.  Cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion chi.  

Os byddwch chi'n parhau'n anfodlon, mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.   Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon.